Yr Amgylchedd

Beth nesaf ar gyfer Tirweddau Cenedlaethol Cymru?

30 Tachwedd 2015

Erthygl gan Chloe Corbyn a Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ffotograff o dirwedd Eryri
Llun o Flickr gan Les Haines. Dan drwydded Creative Commons.

Ers cyflwyno Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, mae tirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr wedi cael eu dynodi yn Barciau Cenedlaethol neu yn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Mae Cymru yn gartref i bedwar AHNE (Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Pen Llyn a Gŵyr – yn ychwanegol mae AHNE Dyffryn Gwy yn rhychwantu Cymru a Lloegr) a thri Pharc Cenedlaethol (Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri) sydd, gyda’i gilydd, yn cynnwys dros 25% o arwynebedd tir y wlad.

Tirweddau Cenedlaethol: Gwireddu eu Potensial

Yn 2014, comisiynodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol yr Athro Terry Marsden, John Lloyd-Jones a Dr Ruth Williams i gynnal Adolygiad o Dirweddau Dynodedig. Diben yr adolygiad o dirweddau dynodedig oedd ‘sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll yr heriau sy’n eu hwynebu heddiw a’r hyn a ddaw yn y dyfodol, a datblygu hefyd ar eu statws yn rhyngwladol.’

Cynhaliwyd yr adolygiad mewn dau gam – gyda phob cam yn cynnwys galwad am dystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, cymunedau o fewn y tirweddau dynodedig a’r cyhoedd yn ehangach. Cafodd gweithgareddau i gasglu tystiolaeth, gan gynnwys cyflwyniadau ysgrifenedig, cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, gweithdai cyhoeddus ac ymgynghoriad ar-lein, eu cynnwys yn rhan o’r broses.

Yn ystod cam un archwiliwyd y dynodiadau eu hunain gan ystyried diben y tirweddau hyn a rhinwedd dosbarthu tirweddau dynodedig Cymru o dan un math o ddynodiad. Yn ystod cam dau trafodwyd trefniadau llywodraethu tirweddau dynodedig. Adolygwyd trefniadau llywodraethu a rheoli a thrafodwyd argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil flog ar argymhellion cam un.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cyflwyno cyfres o argymhellion cydgysylltiedig. Cynhyrchodd y tîm adolygu gyfres o egwyddorion arweiniol a wnaeth, yn eu tro, lywio’r newidiadau arfaethedig i ddibenion tirweddau dynodedig yng Nghymru. Mae wedyn yn amlinellu gweledigaeth newydd ar gyfer y Tirweddau Cenedlaethol, ac yn argymell fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer cyflawni.

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys:

Argymhelliad 2: Ni ddylid cael un dynodiad yn unig fel bod y dynodiad AHNE a Pharc Cenedlaethol yn cael ei gadw yn y dyfodol ac Argymhelliad 3: Dylid cael un set o ddibenion statudol ac un ddyletswydd statudol gysylltiedig ar gyfer y ddau ddynodiad sy’n bodoli.  

Er bod yr adolygiad yn dod i’r casgliad y dylai’r ddau ddynodiad ar wahân gael eu cadw mae’n argymell y dylid cael un set o ddibenion statudol a nodir yn argymhelliad 6. Mae’r adolygiad yn nodi y bydd y dull hwn yn adlewyrchu statws cyfartal mewn cyfraith genedlaethol a rhyngwladol wrth ddathlu arwahanrwydd y tirweddau hyn. Argymhelliad 6: Dylai fod tri diben statudol cydglöedig ar gyfer y Parciau Cenedlaethol a’r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, sef

  • Gwarchod a gwella’r dirwedd unigryw a rhinweddau morweddol yr ardal;
  • Hybu lles ffisegol a meddyliol drwy fwynhau a deall tirwedd yr ardal;
  • Hybu ffurfiau cynaliadwy o ddatblygiad economaidd a chymunedol yn seiliedig ar reoli adnoddau naturiol a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal.

Argymhelliad 7: Bydd Egwyddor Sandford, sy’n cadarnhau blaenoriaeth y diben cadwraeth, yn cael ei defnyddio ar draws yr holl dirweddau dynodedig.

Mae’r Adolygiad yn awgrymu y dylai diben un, y diben cadwraeth, gael blaenoriaeth mewn sefyllfa lle mae gwrthdaro rhwng y diben hwn a’r ddau arall. Gelwir hyn yn Egwyddor Sandford gan ei bod wedi’i henwi ar ôl Arglwydd Sandford a awgrymodd, yn ystod ei adolygiad o Barciau Cenedlaethol yn y 1970au, y dylai Parciau Cenedlaethol roi blaenoriaeth i’w swyddogaeth gadwraeth. Dyma fyddai’r tro cyntaf i Egwyddor Sandford gael ei defnyddio mewn perthynas ag Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Argymhelliad 34: Dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth iddo esblygu ei bensaernïaeth fewnol ei hun, ystyried y berthynas rhyngddo a Thirweddau Cenedlaethol Cymru i sicrhau cymaint ag y bo modd o graffu ac atebolrwydd.

O ystyried ‘pwysigrwydd cenedlaethol tirweddau dynodedig Cymru’ dylent fod yn destun mwy o graffu gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn ac mewn pwyllgorau perthnasol. Mae’n argymell y dylai’r Cynulliad drafod cynnwys cynlluniau statudol y dynodiad yn ogystal â monitro a chraffu ar eu perfformiad cyffredinol.

Argymhelliad 47: Dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gadw eu polisi cynllunio strategol a’u swyddogaethau rheoli datblygiadau cynllunio. Yn ôl y dystiolaeth a gafwyd fel rhan o ddatblygu’r adroddiad roedd safbwyntiau cymysg ynghylch ble y dylai pwerau cynllunio fod.   Mae awduron yr adroddiad yn dod i’r casgliad nad oedd yr achos dros dynnu pwerau cynllunio oddi ar Awdurdodau Cynllunio Cenedlaethol yn un argyhoeddiedig. Mae’r adroddiad yn nodi y dylai Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gadw eu holl swyddogaethau cynllunio, gan gynnwys eu swyddogaeth rheoli datblygu cynllunio, i’w galluogi i fod yn fwy integredig wrth gyflawni eu diben. Bydd Cynllunio yn cyflawni swyddogaeth allweddol wrth gyflwyno cysondeb ar draws y Parciau Cenedlaethol.

Y camau nesaf

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC yn arwain Gweithgor Tirweddau’r Dyfodol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, grwpiau buddiant, busnes a llywodraeth leol. Bydd y grŵp yn trafod yr argymhellion ac yn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau yn 2016.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg