Datganiad yr Hydref ac Adolygiad o Wariant 2015: Sut y byddant yn effeithio ar Gymru?

Cyhoeddwyd 30/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Tachwedd 2015 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4103" align="alignright" width="300"]Llun Flickr gan William Warby. Trwydded Creative Commons Llun Flickr gan William Warby. Trwydded Creative Commons[/caption] Cyhoeddwyd Datganiad yr Hydref ac Adolygiad o Wariant 2015 ar 25 Tachwedd 2015. Mae’r erthygl hon yn nodi’r prif effeithiau ar Gymru cyn y cynhelir y Ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Rhagfyr a chyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr. Pa effaith a gaiff yr Adolygiad o Wariant ar gyllideb Llywodraeth Cymru? Mae Jane Hutt AC, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, wedi datgan bod hyn yn cynrychioli gostyngiad o 3.6% mewn termau real i elfen Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) cyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2015-16 a 2019-20, sef y rhan o’r gyllideb y mae ganddi ddisgresiwn o ran sut i’w gwario. O fewn y gyllideb gyffredinol dros y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan:
  • Y bydd gostyngiad mewn termau real o 4.5% i Adnoddau heb gynnwys dibrisiant;
  • Fodd bynnag mae Cyfalaf (gwariant ar seilwaith o ran asedau sefydlog fel adeiladau) yn cynyddu 4.7% mewn termau real.
Mae’r tabl isod yn nodi dyraniadau i grant bloc Llywodraeth Cymru rhwng 2015-16 a 2019-20. Fodd bynnag, mae hyn yn rhagdybio y bydd y gostyngiadau o £46 miliwn o Gyllideb yr Haf 2015-16 yn cael eu gohirio tan 2016-17 gan Lywodraeth Cymru. Ni wnaethpwyd penderfyniad yn hyn o beth eto. [caption id="attachment_4110" align="alignright" width="682"]Datganiad yr Hydref ac Adolygiad o Wariant 2015 Datganiad yr Hydref ac Adolygiad o Wariant 2015[/caption] Yn ychwanegol at y dyraniad grant bloc i Lywodraeth Cymru, gall wario £1biliwn bron mewn derbyniadau trethi busnes yng Nghymru. Pa gamau, yn Natganiad yr Hydref a’r Adolygiad o Wariant, a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar Gymru? Cyhoeddwyd nifer o gamau penodol sy’n ymwneud â Chymru’n uniongyrchol, ac fe’u crynhoir isod:
  • Terfyn ariannu isaf’ lle bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyllid o o leiaf 115% o wariant cymharol y pen yn Lloegr yn y Senedd hon. Disgwylir i ragor o fanylion gael eu cyhoeddi ar sut y bydd hyn yn gweithio’n ymarferol;
  • Bydd Llywodraeth y DU yn deddfu i ddileu’r angen i gynnal refferendwm i gyflwyno Cyfraddau Treth Incwm ar gyfer Cymru, ac rydym yn aros am yr amserlen o ran pryd y bydd hyn yn digwydd;
  • Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno mewn egwyddor i gefnogi cronfa seilwaith newydd ar gyfer Rhanbarth y Brifddinas Caerdydd (Bargen Dinas Caerdydd), cyhyd ag y bydd yn cael cynigion cadarn gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru;
  • Bydd y gwaith o drydaneiddio prif reilffordd y Great Western yn mynd yn ei flaen, ond mae Adroddiad gan Network Rail yn nodi y gall oedi fod i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe; a
  • Bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn cael buddsoddiad o £212 miliwn;
Cafwyd nifer o gyhoeddiadau ynghylch meysydd nad ydynt wedi’u datganoli a fydd yn effeithio ar Gymru, gan gynnwys newidiadau i’r gostyngiadau credyd treth a gynlluniwyd, a newidiadau i Fudd-dal Tai a Chredyd Pensiwn. Yn gyffredinol bydd yr arian ar gyfer yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael ei ddiogelu mewn termau real tan 2019-20, fodd bynnag, bydd y cyllid cyffredinol sy’n mynd i heddluoedd unigol yn aros yr un peth mewn termau arian parod. Pynciau nad oeddent wedi’u crybwyll yn yr Adolygiad o Wariant
  • Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi cael sicrwydd y bydd y buddsoddi yng nghyswllt rheilffordd High Speed 2 yn arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer Cymru yn y dyfodol;
  • Mae S4C wedi datgan y bydd y cyllid y mae’n ei gael gan Lywodraeth y DU yn cael ei leihau o £6.7 miliwn yn 2015-16 i £5 miliwn yn 2019-20; ac
  • Nid oes gwybodaeth ddiweddar am forlyn llanw Bae Abertawe, na datganoli’r Dreth i Deithwyr Awyr.
Sut y bydd gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn ymlaen o hyn?  Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2016-17 ar 8 Rhagfyr. Bydd y Gyllideb Ddrafft yn cynnig cynlluniau gwariant ar feysydd fel iechyd, gofal cymdeithasol, llywodraeth leol ac addysg. Yna, bydd y Cynulliad yn craffu ar y cynigion gwariant hyn yn y flwyddyn newydd. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn bwrw golwg strategol, gyffredinol ar y gyllideb, a bydd pwyllgorau eraill y Cynulliad yn trafod y cynlluniau gwario ar gyfer eu meysydd pwnc hwy yn fwy manwl. Rydym yn bwriadu cyhoeddi rhagor o ddadansoddiadau ar y camau’n ymwneud â threthu a lles, a’r newidiadau a gyhoeddwyd, i ddilyn cyhoeddi’r erthygl hon, felly chwiliwch am y rhain yn y dyfodol agos! View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg