Busnesau yng Nghymru: Beth yw'r tueddiadau ystadegol diweddaraf?

Cyhoeddwyd 01/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

1 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4119" align="alignnone" width="640"]Office photo Llun o Flickr gan Steve Parker.  Dan drwydded Creative Commons.[/caption]   Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar fusnesau bach ar 2 Rhagfyr ac mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach ar y gorwel ar 5 Rhagfyr, felly mae'n adeg briodol i edrych ar y tueddiadau ystadegol diweddar sy'n gysylltiedig â busnesau ar draws Cymru. Felly, beth mae'r data yn ei ddweud wrthym am fusnesau yng Nghymru, a sut mae'r rhain yn cymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Faint o fusnesau sydd yna ledled Cymru, a sut mae'r ffigur hwn wedi newid dros amser? Mae datganiad Llywodraeth Cymru, Dadansoddiad o faint busnesau, yn darparu data manwl am nifer a math y busnesau ar draws gwahanol ardaloedd o Gymru. Mae'r prif ffigurau yn dangos y canlynol:
  • Yn 2014, roedd 231,110 o fusnesau ledled Cymru, a 229,515 (99%) o'r rhain yn fusnesau bach a chanolig sydd yn cyflogi llai na 250 pobl..
  • Roedd cyfanswm o 1,058,500 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyflogi gan fusnesau, a 654,200 (62%) o'r rhain yn cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig.
  • Yn 2014, roedd gan fusnesau yng Nghymru drosiant blynyddol o £116.6 biliwn, a throsiant busnesau bach a chanolig oedd £41.8 biliwn (36%) o hwnnw.
Gan edrych yn benodol ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, mae'r rhain wedi cynyddu o 177,590 yn 2004 i 229,515 yn 2014. Mae hyn yn gynnydd o 29%. Yn ystod yr un cyfnod, mae nifer y busnesau bach a chanolig ar draws y DU wedi cynyddu o 4,245,565 i 5,733,780. Mae hyn yn gynnydd o 35%.
  • Yng Nghaerdydd y gwelir y cynnydd rhifol mwyaf yn nifer y busnesau bach a chanolig yn ystod y cyfnod hwn, o 20,910 yn 2004 i 29,355 yn 2014, sef cynnydd o 8,445 o fusnesau.
  • Gwelwyd y cynnydd canrannol uchaf o blith holl awdurdodau lleol Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sef cynnydd o 79% yn nifer y busnesau bach a chanolig rhwng 2004 a 2014. Cynyddodd y nifer o 5,225 i 9,375.
  • Ceir 160 (2%) yn llai o fusnesau bach a chanolig yng Ngheredigion yn 2014 nag yn 2004, yr unig awdurdod lleol i weld gostyngiad dros y cyfnod hwn.
Beth am fusnesau newydd sy'n cychwyn a busnesau sy'n cau? O ystyried gwahanol faint yr amryw wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, un ffordd ddefnyddiol o gymharu perfformiad ar draws y DU yw drwy edrych ar nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn fesul 10,000 o bobl 16-64 oed, gan ddefnyddio ffigurau ar Stats Cymru. Mae'r graff isod yn dangos hyn ar gyfer gwledydd y DU rhwng 2004 a 2014. Mae'r graff yn dangos y canlynol:
  • Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi data ar hyn, ac mae wedi rhyddhau ffigurau ar gyfer 2014 yn ddiweddar. Yn 2014, cychwynnodd 11,345 o fusnesau newydd yng Nghymru, a chaeodd 8,490 o fusnesau.
  • Yn 2014, cychwynnodd 59 o fusnesau newydd yng Nghymru fesul 10,000 o bobl 16-64 oed. Mae hyn yn is na chyfartaledd y DU, sef 85 o fusnesau newydd;
  • Mae cyfraddau'r busnesau newydd sy'n cychwyn ym mhob un o wledydd y DU yn uwch nag yr oeddent ar ddechrau'r dirywiad economaidd yn 2008;
  • Yn 2004, roedd cyfradd isaf y busnesau newydd a gychwynnwyd fesul 10,000 o bobl 16-64 oed, o blith holl wledydd y DU, yn yr Alban. Fodd bynnag, erbyn hyn mae'r gyfradd yno yn uwch nag yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.
Cyfradd y busnesau newydd sy'n cychwyn fesul 10,000 o'r boblogaeth 16-64 oed [caption id="attachment_4140" align="alignnone" width="5306"]Business stats graph Cym Ffynhonnell: Stats Cymru, Mentrau Busnes Gweithredol fesul 10,000 o'r boblogaeth yn ol ardal a blwyddyn[/caption] O edrych yn fanylach ar y data, yn 2014 mae llai o fusnesau newydd yn cael eu cychwyn fesul 10,000 o bobl 16-64 oed yng Nghymru nag ym mhob un o'r 12 o wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr ac eithrio Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Pa ddata sydd ar gael ar gyfer fy etholaeth? Nid yw'r un o'r cyhoeddiadau a grybwyllir uchod yn cynnwys data ar etholaethau fel mater o drefn, ond mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi paratoi rhai datganiadau ad-hoc ar nifer y busnesau newydd a gychwynnwyd a'r nifer a gaewyd fesul etholaeth. Mae'r rhain yn cynnwys: Mae'r wybodaeth fwyaf manwl ar lefel etholaeth i'w chael yn natganiad blynyddol y Swyddfa Ystadegau Gwladol UK Business: Activity, Size and Location. Fodd bynnag, mae hwn yn cyflwyno data am fusnesau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW a'r cynllun Talu Wrth Ennill. Nid yw'r rhain yn cynnwys llawer o'r micro-fusnesau ledled Cymru, ac mae'r cyfansymiau gryn dipyn yn is na'r rhai yn y Dadansoddiad o faint busnesau.  Fodd bynnag, dyma rai o'r pwyntiau allweddol ar lefel etholaeth yn y data hyn:
  • Gan Frycheiniog a Sir Faesyfed yr oedd y nifer fwyaf o fusnesau bach a chanolig wedi'u cofrestru ar gyfer TAW neu'r cynllun Talu Wrth Ennill o bob etholaeth yng Nghymru, sef 4,490 yn 2015; 1,090 ohonynt oedd yn y Rhondda; ac
  • yng Nghanol Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth yr oedd y nifer uchaf o fusnesau sy'n cyflogi 250+ o bobl yn 2015, sef 20 o fusnesau ym mhob un o'r ddwy etholaeth.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg