System newydd o roi organau yn dod i rym yng Nghymru

1 Rhagfyr 2015

Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ar 1 Rhagfyr daeth Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i rym yn llawn, gan olygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno system o optio allan ar gyfer rhoi organau a meinweoedd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi rhoi organau, ond nid ydynt wedi cofrestru eu penderfyniad i fod yn rhoddwr, nac wedi siarad â’u teuluoedd am eu dymuniadau. Mae organdonationwales.org Llywodraeth Cymru yn datgan:

  • Mae 9 allan o 10 o bobl yn cefnogi rhoi organau, ond dim ond 33% o bobl yng Nghymru sydd wedi rhoi eu henwau ar y Gofrestr Rhoddwyr Organau.
  • Yn 2011-12, roedd tua 250 o bobl a fu farw yng Nghymru yn rhoddwyr organau posibl, ond dim ond 67 o bobl mewn gwirionedd wnaeth ddod yn rhoddwyr organau.
  • Mewn 43% o achosion lle mae rhoi organau yn bosibl, mae teuluoedd yn gwrthod rhoddi am nad ydynt yn gwybod a oedd eu hanwylyd yn dymuno bod yn rhoddwr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd y system newydd yn gliriach gan y bydd aelodau teuluoedd yn gwybod y gallai fod eu perthynas wedi optio allan ond ei fod wedi dewis peidio â gwneud hynny. Mae’n credu y gallai’r system newydd helpu i gynyddu nifer y rhoddwyr o 25 y cant yng Nghymru.

Sut mae’r gyfraith wedi newid?

Cyn 1 Rhagfyr roedd y system rhoi organau yn dibynnu ar unigolion yn rhoi eu caniatâd penodol i roi eu horganau, er enghraifft drwy gofrestru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Os nad yw unigolyn wedi rhoi ei ganiatâd penodol, gofynnir i’w berthynas agosaf i wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau ar ôl marwolaeth yr unigolyn.

Yn dilyn cyflwyno’r Ddeddf, mae gan bobl sy’n byw yng Nghymru dri dewis:

  1. Os ydynt am fod yn rhoddwr organau, gallant naill ai gofrestru i fod yn rhoddwr (optio i mewn) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG neu wneud dim.
  2. Os ydynt yn gwneud dim, rhagdybir nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i roi eu horganau. Gelwir hyn yn ‘ganiatâd tybiedig’.
  3. Os nad ydynt am fod yn rhoddwr organau, gallant gofrestru i beidio â bod yn rhoddwr (optio allan) ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG .

Mae’r organau a’r meinweoedd y gellir eu rhoi o dan y system optio allan yr un fath â’r rhai a gwmpaswyd o dan y system flaenorol, sy’n cynnwys:

  • Arennau
  • Calon
  • Afu
  • Ysgyfaint
  • Pancreas
  • Coluddyn bach
  • Cornbilennau a sglera (o’r llygaid)
  • Falfiau a phericardiwm (o’r galon)
  • Croen
  • Esgyrn
  • Tendonau a chartilag

Os yw unigolyn yn dymuno rhoi dim ond rhai organau, gallant ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG a dewis rhoi eu holl organau neu ddim ond organau penodol.

System feddal o optio allan

Mae’r system rhoi organau newydd yn cael ei hadnabod fel system feddal o optio allan, yn hytrach na system galed o optio allan. Mae’r system feddal o optio allan yn golygu y bernir bod caniatâd wedi ei roi oni bai bod y sawl a fu farw wedi gwrthod yn ystod ei oes, ond bydd y teulu yn dal i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau. Bydd y teulu yn cymryd rhan mewn trafodaethau i ddarparu gwybodaeth am breswyliad y person a’i hanes meddygol, yn ogystal â dweud a oeddent yn gwybod bod gan y sawl a fu farw wrthwynebiad i roi organau. Os oedd gan y sawl a fu farw wrthwynebiad o’r fath, ni fyddai rhoi organau yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, mae’n rhaid i wrthwynebiad gael ei seilio ar farn hysbys y sawl a fu farw, yn hytrach na barn y teulu. Os na ellir cysylltu ag aelodau’r teulu, ni fydd y rhoi organau yn mynd yn ei flaen.

Noder: Mewn system galed o optio allan ni fyddai neb yn ymgynghori â’r teulu am roi organau pe rhoddwyd caniatâd yn benodol neu y bernir ei fod wedi’i roi’n benodol.

Pwy effeithir arnynt gan y system rhoi organau newydd?

Bydd y system optio allan o roi organau yn berthnasol i bob oedolyn sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12 mis, sy’n marw yng Nghymru , ac nad ydynt wedi cofrestru penderfyniad ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.

Ni fydd ‘caniatâd tybiedig’ yn gymwys yn awtomatig i:

  • Y rhai sy’n marw y tu allan i Gymru, hyd yn oed os ydynt fel arfer yn byw yng Nghymru.
  • Plant a phobl ifanc o dan 18 oed.
  • Pobl sydd wedi byw yng Nghymru am lai na 12 mis.
  • Ymwelwyr â Chymru.
  • Personél milwrol rheolaidd sy’n gwasanaethu.
  • Carcharorion.
  • Pobl a allai fod heb y gallu meddyliol i wneud penderfyniad.
  • Ffurfiau ‘newydd’ o drawsblannu, fel trawsblannu’r wyneb neu aelodau’r corff neu ddefnyddio meinweoedd atgenhedlu.
  • Pobl sydd wedi cofrestru penderfyniad optio i mewn neu benderfyniad optio allan ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG.
  • Pobl sydd wedi penodi cynrychiolydd i wneud penderfyniad ynghylch rhoi organau.
  • Pobl y gall eu teulu ddangos nad oeddent yn dymuno bod yn rhoddwr.

Y rhai sydd eisoes ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG

Os bydd unigolyn eisoes wedi ymuno â Chofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG mae’r un dewisiadau ar gael iddyn nhw â phawb arall:

  • Gallant aros ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Cânt eu trin fel pobl sydd wedi penderfynu bod yn rhoddwr.
  • Gallant dynnu eu manylion oddi ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG. Bydd hyn yn golygu nad oes ganddynt unrhyw benderfyniad wedi’i gofrestru, ac y byddant yn cael eu trin fel pobl nad oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad i roi eu horganau a gallai caniatâd tybiedig fod yn berthnasol.
  • Gallant gofrestru penderfyniad i beidio â bod yn rhoddwr, ac optio allan.

Ble fydd yr organau a roddir yn cael eu defnyddio?

Bydd Cymru yn parhau i rannu rhestr aros ar gyfer trawsblaniadau gyda gweddill y DU a bydd organau yn parhau i gael eu dyrannu ar sail angen clinigol a dod o hyd i organau sy’n cydweddu’n addas. Felly, gall organau a roddir yng Nghymru gael eu defnyddio ar gyfer trawsblaniadau ar draws y DU, ac i’r gwrthwyneb.

I gael rhagor o wybodaeth am hynt y ddeddfwriaeth, gweler Tudalen y Bil ar wefan y Cynulliad.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg