Blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhanddeiliaid ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru (rhan 1)

Cyhoeddwyd 02/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gweithlu’r GIG, Asesiadau Effaith ar Iechyd, targedau perfformiad, a mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol Yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Cynulliad yn 2016, mae rhanddeiliaid yn cyhoeddi maniffestos a phapurau briffio, gyda’r nod o ddylanwadu ar faniffestos pleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Manifestos welshDyma’r cyntaf mewn cyfres o flogiau yn tynnu sylw at y materion iechyd a gofal cymdeithasol allweddol a nodwyd gan randdeiliaid fel camau gweithredu blaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru ymgymryd â hwy ym mhumed tymor y Cynulliad. Mae maniffesto Conffederasiwn GIG Cymru yn galw am y canlynol, ymhlith pethau eraill:
  • Ymrwymo i newid trawsnewidiol o fewn y gwasanaeth iechyd drwy roi ar waith cronfa bontio er mwyn galluogi buddsoddi mewn newid gwasanaethau (i hwyluso symud gwasanaethau yn agosach i’r cartref)
  • Datblygu a gweithredu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cefnogi ailwampio targedau perfformiad y GIG, gan ganolbwyntio mwy ar ganlyniadau yn hytrach na phrosesau
  • Ymrwymo i ddatblygu integreiddio effeithiol o ran iechyd a gofal cymdeithasol drwy fframwaith canlyniadau ar y cyd a dangosyddion wedi’u halinio. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad i gyd-ffinio rhwng y bwrdd iechyd a ffiniau llywodraeth leol
  • Gweithredu dull ‘iechyd ym mhob polisi’ , gyda gofyniad ar gyrff cyhoeddus i gynnal asesiadau o effaith ar iechyd ar bolisïau yn y dyfodol
Mae maniffesto’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) yn yr un modd yn galw am benderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol i gynnwys asesu’r effaith ar iechyd y cyhoedd er mwyn ystyried effaith penderfyniadau cynllunio ar iechyd y cyhoedd, ee ar weithgarwch corfforol a gordewdra. Mae BMA Cymru hefyd yn galw am roi Asesiadau Effaith ar Iechyd ar sylfaen gyfreithiol orfodol yn ei faniffesto: Tri cham at genedl iachach (PDF, 1.62MB). Mae rhai o alwadau eraill y BMA yn cynnwys:
  • Sicrhau bod ansawdd y gofal i gleifion yn cael ei asesu gyda ffocws clinigol, drwy gael gwared ar dargedau mympwyol a’u disodli gyda model sy’n seiliedig ar anghenion clinigol.
  • Cymryd camau i fynd i’r afael â’r her frys o recriwtio a chadw’r gweithlu.
Mae RCN Cymru hefyd yn canolbwyntio ar y gweithlu, ac yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ‘sicrhau lefelau diogel staff nyrsio’ yn ei ymgyrch Amser i Ofalu. Mae galwadau maniffesto’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yn cynnwys:
  • Sefydlu Gwasanaeth Meddyginiaeth Cronig Cymru wedi’i arwain gan fferyllfeydd
  • Caniatáu mynediad i fferyllwyr i gofnodion iechyd unigolion
  • Integreiddio arbenigedd fferyllwyr yn llawn i mewn i Dimau Amlddisgyblaeth GIG
Mae maniffesto’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant hefyd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddefnyddio pwerau treth yn y dyfodol i gyflwyno ardollau ar fwyd a diodydd â llawer o fraster, siwgr a halen i fynd i’r afael â gordewdra yng Nghymru. Mae RNIB Cymru yn galw am dargedau deallus newydd ar gyfer triniaeth offthalmoleg. Mae’n datgan bod y targed atgyfeiriad ar gyfer triniaeth offthalmoleg ar hyn o bryd yn canolbwyntio’n unig ar y diagnosis cychwynnol a’r driniaeth gyntaf. Mae’n dadlau oherwydd bod y rhan fwyaf o gyflyrau colli’r golwg yn rhai dirywiol ond y gellir eu trin, mae angen targed dan arweiniad clinigol gyda thriniaethau dilynol yn rhan o hynny. Mae RNIB Cymru hefyd yn galw am gyllid cynaliadwy ar gyfer darpariaeth ddigonol o ran Gwasanaethau Swyddogion Cyswllt Clinigau Llygaid ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol. Yn ôl yr elusen, gall y gwasanaethau hyn arbed £10.57 y defnyddiwr i’r cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol, drwy leihau’r angen am ymyriadau pellach. [Cysylltwch â’r RNIB am wybodaeth bellach ar ei maniffesto] Mae maniffesto Action on Hearing Loss Cymru sef Materion Clyw yn cynnwys galwad i fynd i’r afael â nifer yr achosion cynyddol o golli clyw a’i effaith a gwneud hyn yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru. Mae hefyd am i Fyrddau Iechyd Lleol sicrhau bod pawb a allai elwa o gymhorthion clyw yn parhau i’w derbyn yn rhad ac am ddim ar y GIG. Mae galwadau Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru yn cynnwys:
  • Buddsoddi mewn adfer yr ysgyfaint - mae Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn dweud mai dim ond 1 o bob 10 o bobl sydd â Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint sy’n cael mynediad at gwrs adfer yr ysgyfaint. Mae am weld rhagor o ffisiotherapyddion resbiradol yn cael eu cyflogi i gyflwyno’r cyrsiau hyn ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cysylltiedig.
  • Buddsoddi mewn addysg i gleifion - Byddai Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru yn hoffi gweld rhaglen addysg Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint i gleifion yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ac mae’n credu y byddai cyflyrau cronig eraill hefyd yn elwa ar gyrsiau pwrpasol. Mae’n dadlau bod cleifion sy’n meddu ar fwy o wybodaeth yn rheoli eu cyflyrau yn fwy llwyddiannus ac yn arbed arian i’r GIG - er enghraifft mae gan naw deg y cant o bobl sy’n byw gyda chyflwr yr ysgyfaint dechneg anadlydd gwael, ac felly nid ydynt yn cymryd eu meddyginiaeth yn effeithiol.
[Cysylltwch â Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru am fwy o wybodaeth] Mae maniffesto’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn galw am fynediad i hunangyfeirio at ffisiotherapi i fod ar gael i bawb sydd ei angen ar draws Cymru (gan nad yw hyn yn wir mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd). Mae hefyd am i amseroedd aros ar gyfer asesiad ffisiotherapi yng Nghymru gael eu dileu. Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi yn tynnu sylw at amodau penodol lle mae angen gweithredu; er enghraifft, mae’n galw am ddatblygu Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Arthritis a Chyflyrau Cyhyrysgerbydol a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Poen Anfalaen Cronig. Mae’r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi hefyd am weld cynnydd enfawr o ran mynediad i ffisiotherapi sy’n seiliedig ar ofal sylfaenol. Mae Coleg y Therapyddion Galwedigaethol yn galw am fynediad i therapi galwedigaethol ar gyfer pob adran Damweiniau ac Achosion Brys a phob tîm gofal sylfaenol yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol am fwy o wybodaeth. Mae Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru yn datgan nad yw pobl â sglerosis ymledol yng Nghymru yn gallu cael mynediad at y Gweithwyr Iechyd Proffesiynol cywir mewn modd amserol. Mae am weld pob person â sglerosis ymledol yn cael cynnig adolygiad gofal o leiaf bob blwyddyn, a datblygu rhwydwaith o ofal sglerosis ymledol i ddarparu gwasanaeth tecach a mwy effeithlon. Cysylltwch â Chymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru am ragor o wybodaeth. Bydd ein blog nesaf yn y gyfres hon yn edrych ar alwadau maniffesto ynghylch iechyd meddwl, gofalwyr, dementia, a chanser. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg