Blaenoriaethau rhanddeiliaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru (rhan 2)

Cyhoeddwyd 03/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Iechyd meddwl, gofalwyr, dementia a chanser

Yn y cyfnod yn arwain at etholiadau'r Cynulliad yn 2016, mae rhanddeiliaid yn llunio maniffestos a briffiau, gyda'r nod o ddylanwadu ar faniffestos y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Dyma'r ail mewn cyfres o gofnodion blog yn tynnu sylw at y materion iechyd a gofal cymdeithasol allweddol a nodwyd gan randdeiliaid fel y camau blaenoriaeth i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd yn nhymor y Pumed Cynulliad. DS: Roedd ein cofnod blog cyntaf yn ymdrin â gweithlu'r GIG, Asesiadau Effaith ar Iechyd, targedau perfformiad, a mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol. Iechyd Meddwl Mae maniffesto ar y cyd Gofal a'r Sefydliad Iechyd Meddwl Rhoi Iechyd Meddwl ar yr Agenda yn cynnwys galwadau i wneud y canlynol:
  • Rhoi Cynllun Therapïau Seicolegol Cymru ar waith yn llawn ar gyfer iechyd meddwl oedolion
  • Cyflwyno mesurau amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol Cymraeg a Saesneg ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Cofnodi a chyhoeddi data canlyniadau cleifion mewn perthynas â therapïau seicolegol
  • Hyfforddi, datblygu a chadw mwy o staff sy'n gallu cyflwyno ystod o therapïau seicolegol o fewn strwythur goruchwylio ffurfiol
  • Cynyddu cyfran y cyllid iechyd sy'n cael ei wario ar iechyd meddwl ym mhob blwyddyn o dymor nesaf y Cynulliad, a pharhau i neilltuo cyllid iechyd meddwl drwy gydol tymor nesaf y Cynulliad
  • Gwella mynediad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS) o ansawdd uchel i'r rheini sydd angen triniaeth a chefnogaeth arbenigol
Mae maniffesto Mind Cymru yn nodi blaenoriaethau tebyg:
  • Gwella lefel y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i rieni, plant a phobl ifanc
  • Rhoi’r awdurdod i GIG Cymru gynnig ystod lawn o therapïau seicolegol ar sail tystiolaeth i bawb sydd eu hangen o fewn 28 diwrnod ar ôl gofyn am atgyfeiriad
  • Cynyddu lefel y cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl gan o leiaf 2 y cant mewn termau real ym mhob un o’r pum mlynedd nesaf
  • Ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael gofal argyfwng o answdd yn ddiogel ac yn gyflym, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos
Mae maniffesto (PDF, 120KB) Comisiynydd Plant Cymru hefyd yn galw am welliannau i CAMHS:
Dylai’r holl bleidiau gwleidyddol ymrwymo i weithredu’r rhaglen Gyda’n Gilydd dros Blant a Phobl Ifanc ar gyfer iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu hariannu’n ddigonol. Mae angen gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol sylfaenol ac ataliol ychwanegol, wedi’u seilio ar dystiolaeth er mwyn lleihau’r pwysau ar y gwasanaethau clinigol, a ddylai fod ar gael yn gyflym i’r rhai sydd eu hangen.
Mae’r Samariaid yng Nghymru yn canolbwyntio ar leihau hunanladdiad yn ei faniffesto, Pedwar cam i achub bywydau. Yn y cyfamser mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru yn parhau â'i hymgyrch dros Ddeddf Awtistiaeth yn nhymor nesaf y Cynulliad. Mae'n credu bod angen dyletswyddau statudol newydd i sicrhau bod pob cyngor yn darparu'r cymorth angenrheidiol ar draws Cymru (gweler ein cofnod blog blaenorol am fwy o wybodaeth). Gofalwyr a chymorth dementia Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn galw am gyflwyno Cronfa Lesiant Gofalwyr i ddarparu seibiannau ychwanegol i ofalwyr ledled Cymru, a gydlynir gan y trydydd sector a'i chyflwyno mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae'n dweud y byddai cronfa o oddeutu £1.4 miliwn y flwyddyn yn cynnig dros 53,000 o oriau o seibiannau ychwanegol i ofalwyr yng Nghymru. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru hefyd yn galw am gefnogaeth well i ofalwyr pobl â dementia a dull cenedlaethol o gynnwys gofalwyr yn y driniaeth o ddementia gan gynnwys drwy:
  • Hyfforddi staff iechyd i nodi, cefnogi a chynnwys gofalwyr pobl â dementia
  • Rhoi'r hawl i ofalwyr gael mynediad i wardiau, cyfrannu at benderfyniadau ynghylch triniaeth, ac aros yn yr ysbyty gyda'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.
Mae adroddiad diweddar y Gymdeithas Alzheimer's Diagnosis or disempower? yn galw am ymrwymiad i strategaeth dementia genedlaethol sy'n cynnig darpariaeth briodol. Mae hefyd eisiau i bob bwrdd iechyd lleol osod targedau i wella cyfraddau diagnosis gan o leiaf 5% y flwyddyn nes iddynt gyflawni cyfradd diagnosis o 75%. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i wella cyfraddau diagnosis ar gyfer dementia, a chefnogi creu cymunedau sy'n deall dementia ledled Cymru. Mae hi eisiau gweld ymrwymiad i holl staff gwasanaethau cyhoeddus gael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o ddementia, gyda hyfforddiant mwy cynhwysfawr yn cael ei ddarparu i'r rheini sy'n gweithio'n uniongyrchol â phobl sy'n byw gyda dementia. Canser Mae galwadau maniffesto Macmillan yn cynnwys:
  • Canser yn parhau i fod yn flaenoriaeth flaenllaw yn y Rhaglen Lywodraethu nesaf, gan arwain at strategaeth canser newydd ar gyfer Cymru
  • Sicrhau bod nyrs canser arbenigol yn cael ei neilltuo ac ar gael i bawb sy'n cael diagnosis o ganser, sydd hefyd weithiwr allweddol ar eu cyfer yn ystod y cyfnodau triniaeth aciwt
  • Dylai pawb sydd â chanser gael asesiad anghenion cyfannol, a chynllun gofal ysgrifenedig yn nodi'r canlyniadau a'r camau y cytunwyd arnynt
  • Sicrhau bod pob person sy'n cael diagnosis o ganser yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth amserol i'w helpu i ddeall eu canser a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu triniaeth a'u gofal
Mynediad at wybodaeth yw thema allweddol yr adroddiad Trafod Canser hefyd, sef prosiect partneriaeth gan y Sefydliad Materion Cymreig, Gofal Canser Tenovus a Sefydliad Jane Hodge. Mae maniffesto Cynghrair Canser Cymru (PDF, 427KB) yn galw am y canlynol:
  • Rhoi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser ar waith yn llawn
  • Mwy o gysondeb wrth ddarparu gwasanaethau – mae'r Gynghrair yn dweud bod gwneud mwy i sicrhau bod tystiolaeth a data trylwyr yn llywio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, ac y dylid defnyddio data presennol i nodi lle mae bylchau a lle mae angen gwelliannau
  • 'Cau'r bwlch rhwng y gorau a'r gweddill' - mae'r Gynghrair am weld llai o amrywiant o ran achosion a chanlyniadau canser ar draws Cymru erbyn 2021, sef diwedd tymor nesaf y Cynulliad
Bydd ein cofnod blog olaf yn y gyfres hon yn edrych ar alwadau ynghylch gwasanaethau ataliol, mynediad at eiriolaeth annibynnol, gofal cymdeithasol, a hawliau dynol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg