Perfformiad yn ôl targedau ymateb newydd y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru

Cyhoeddwyd 03/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ffigurau perfformiad newydd ar gyfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar 25 Tachwedd. [caption id="attachment_4180" align="alignright" width="217"]Llun o Flickr gan Diluvienne. Dan drwydded Creative Commons. Llun o Flickr gan Diluvienne. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae’r ffigurau, ar gyfer mis Hydref 2015, yn cynrychioli mis cyntaf cynllun peilot blwyddyn o hyd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, i dreialu newidiadau i’r modd y caiff perfformiad y gwasanaethau ambiwlans brys ei fonitro. Roedd hwn yn dilyn yr argymhellion a wnaed gan Adolygiad annibynnol Strategol o Wasanaethau Ambiwlans yng Nghymru yn 2013, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Siobhan McClelland. Yn ystod y treial hwn, dim ond y galwadau mwyaf difrifol, a gaiff eu categoreiddio fel galwadau Coch, a fydd â tharged amser ymateb. Bydd ymateb priodol i bob galwad arall, naill ai fel asesiad wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, beth bynnag fo’r angen clinigol. Mae’r model newydd yn cynnwys tri chategori o alwadau, sef galwadau coch, oren a gwyrdd: Coch: Mae bywyd y claf mewn perygl enbyd (mae mewn perygl o farwolaeth ar unwaith, er enghraifft, mewn achos o ataliad y galon). Y targed yw bod 65% o ymatebion brys yn cyrraedd y claf o fewn 8 munud. Oren: Galwadau difrifol ond nid yw bywyd mewn perygl ar unwaith (cleifion y bydd angen eu trin yn y fan a’r lle, o bosibl, ac yna bydd angen eu cludo i’r ysbyty efallai). Gwyrdd: Nid ydynt yn alwadau brys. Yn aml gellir ymdrin â hwy gan wasanaethau iechyd eraill ac asesiad clinigol ar y ffôn. Ar hyn o bryd nid oes targed amser o gwbl ar gyfer galwadau oren na gwyrdd. Yn ystod mis cyntaf y treial ym mis Hydref 2015 cafwyd:
  • 38,155 o alwadau brys, hynny yw, 1,231 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd, a oedd 1.5% yn uwch na’r cyfartaledd dyddiol ar gyfer mis Medi 2015.
  • Roedd 1,877 (5%) yn alwadau categori coch, 22,901 (60%) yn alwadau oren a 13,377 (35%) yn alwadau categori gwyrdd.
  • Cyrhaeddodd 68.7% o ymatebion brys i alwadau coch o fewn 8 munud
  • Roedd y perfformiad yn amrywio, rhwng 57.6% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a 73.4% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Cyrhaeddwyd y targed o 65% mewn pedair o saith ardal y byrddau iechyd (sef, Abertawe Bro Morgannwg, Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr a Chaerdydd a’r Fro), ond ni chyrhaeddwyd y targed yn ardal Cwm Taf, Hywel Dda na Phowys.
table 1 ambulances

[Tabl 1: Saesneg yn unig]

Table 2 ambulances[Tabl 2: Saesneg yn unig]

Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys gwybodaeth am amseroedd ymateb i alwadau Oren a Gwyrdd, sef oddeutu 95% o’r galwadau a gaiff y Gwasanaeth Ambiwlans. Caiff gwybodaeth fanylach, yn ei chyd-destun, ar alwadau coch, oren a gwyrdd ei chyhoeddi bob chwarter gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys o ddiwedd mis Ionawr 2016 ymlaen, ac mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu data perfformiad a fydd yn rhoi darlun ehangach o brofiadau a chanlyniadau cleifion unigol. Bydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn edrych ar berfformiad Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yr wythnos hon. Bydd hyn yn cynnwys craffu ar y cynnydd a wneir yn ôl y targedau newydd, a meysydd allweddol eraill ar gyfer y gwasanaeth, fel unrhyw oedi wrth drosglwyddo cleifion i ysbytai.