A yw Cymru’n decach? Cyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol

Cyhoeddwyd 04/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

4 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Hannah Johnson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru ehrwelshDdoe (3 Rhagfyr), cyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adolygiad cynnydd pum mlynedd o gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Canfu’r adroddiad fod anghydraddoldeb wedi cynyddu mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae pobl ifanc mewn sefyllfa lawer gwaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys incwm, cyflogaeth, tlodi, tai a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, ac mae’r gyfradd hunanladdiad, yn enwedig ymysg dynion, wedi cynyddu’n sylweddol. Hefyd canfu’r adroddiad welliant mewn rhai meysydd o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl, er enghraifft:
  • cynnydd mewn disgyblion yn ennill pum TGAU neu fwy ar radd A*-C o 47% i 53% (gan gynnwys gwelliannau yn achos disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA), disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion o leiafrifoedd ethnig);
  • gostyngiad mewn gelyniaeth tuag at bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, a
  • gostyngiadau yn y gyfradd gwahardd o’r ysgol ymysg pob grŵp ethnig.
Mae’r adroddiad yn benodol i Gymru, yn dilyn cyhoeddi A yw Prydain yn Decach? ym mis Tachwedd. Mae canfyddiadau allweddol Cymru i’w gweld isod: Cyflogaeth
  • mae diweithdra ymysg pobl 16-24 oed wedi cynyddu felly maent bedair gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl 35-54 oed;
  • Mwslimiaid sydd â’r gyfradd isaf o gyflogaeth o blith unrhyw grŵp yng Nghymru;
  • roedd llai na hanner (42%) o bobl anabl mewn cyflogaeth yn 2013 o’i gymharu â bron tri chwarter (71%) o bobl nad ydynt yn anabl. Cynyddodd y gyfradd diweithdra ymysg pobl anabl i bron un mewn wyth;
  • aeth y bwlch cyflog rhwng dynion a menywod i lawr o 20% i 17%., wrth i gyflog dynion ar gyfartaledd ddirywio’n fwy na menywod. Roedd cwymp mewn cyflog ar gyfartaledd mewn termau real i bob grŵp oedran islaw 65 oed; ac
  • roedd cynnydd yn y bwlch cyflog i bobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig a phobl o grwpiau cymdeithasol-economaidd is o’i gymharu â rhai grwpiau eraill. Pobl ifanc oedd yn cael y tâl isaf oll, gydag enillion ar gyfartaledd o £6.50 yr awr, o’i gymharu â thâl ar gyfartaledd o £11.20 yr awr i bobl 35-44 oed.
Iechyd a gofal
  • cynyddodd y gyfradd hunanladdiad i bobl 15 oed a throsodd yn sylweddol rhwng 2008 a 2013, i fyny o 10.7 i 15.6 fesul 100,000 o bobl. Mae’r cynnydd mwyaf wedi bod mewn achosion o hunanladdiad gan ddynion. Mae’r gyfradd hunanladdiad wedi cynyddu yn achos rhai grwpiau oedran: dyblodd yn achos pobl 55 i 64 oed; a chynyddodd tua 60% ymysg pobl 35 i 54 oed. Mae hefyd yn arbennig o uchel ymysg dynion canol oed;
  • nodwyd anawsterau o ran derbyn gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS) - yn 2014, nodwyd cynnydd o 100% yn y galw am wasanaethau dros y deuddeg mis blaenorol. Mae gwariant cyhoeddus ar CAMHS wedi bod yn ddigyfnewid dros y cyfnod;
  • ceir tystiolaeth o broblemau capasiti parhaus a rhai plant yn cael eu cadw ar wardiau oedolion o hyd;
  • yn 2013-14, nid oedd 24% o’r cartrefi gofal a nyrsio i bobl hŷn yn bodloni gofynion yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Addysg
  • mae cyrhaeddiad rhai plant o bum TGAU neu fwy ar radd A*-C, yn parhau i fod yn isel: plant Sipsiwn/Roma (13%), plant sy’n derbyn gofal (17%), plant ag AAA (17%), a phlant syn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (26%);
  • cynyddodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant heb AAA a phlant ag AAA, a cheir bylchau sylweddol rhwng: bechgyn a merched; disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys; a disgyblion o leiafrifoedd ethnig a disgyblion Gwyn;
  • bu rhywfaint o ostyngiad yn nifer y gwaharddiadau i fechgyn o’i gymharu â merched a rhwng disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, ond ceir bylchau mawr rhwng y grwpiau o hyd. Bu gostyngiad yn y gyfradd waharddiadau ymysg pob grŵp ethnig.
Tlodi
  • mae bron un o bob pedwar o bobl (23%) yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae lefelau arbennig o uchel o dlodi yn parhau yn achos plant 0-4 oed (mae 42% yn byw mewn tlodi), pobl anabl (27%), a lleiafrifoedd ethnig (38%);
  • mae proffil yr aelwydydd statudol ddigartref yng Nghymru wedi newid yn sylweddol rhwng 2009-10 a 2014-15, gyda chynnydd yn nifer o bobl yn dianc rhag cam-drin domestig (cynnydd o 19%) a phobl ag iechyd meddwl gwael neu anableddau dysgu (cynnydd o 24%).
Troseddu
  • roedd ychydig dros dri chwarter o’r 1,810 o’r troseddau casineb a adroddwyd i heddluoedd Cymru yn 2012-13 ar sail hil, gyda phobl ddu y mwyaf tebygol o fod yn ddioddefwyr;
  • dywedodd 7% o oedolion yng Nghymru eu bod wedi wynebu gwahaniaethu, aflonyddu neu gam-drin yn y 12 mis blaenorol. Cafodd y profiadau hyn eu hadrodd gan: un o bob pum person o leiafrif ethnig; un o bob pum person o leiafrif crefyddol; un o bob deg person ifanc; un o bob deg person anabl, ac un o bob deg person sydd byth wedi gweithio neu sy’n ddi-waith yn yr hirdymor;
  • adroddwyd fod bron dwywaith cymaint o oedolion, plant a phobl ifanc yn ddioddefwyr masnachu pobl rhwng 2012 a 2014, o 34 o achosion i 70 o achosion;
  • cynyddodd nifer yr achosion o drais domestig a gofnodwyd gan yr heddlu yn ystod yr un cyfnod, yn yr un modd â nifer y collfarnau (gan 20%).
Cyfranogiad democrataidd
  • mae llai nag un o bob pedwar person yng Nghymru yn teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol. Mae pobl hŷn (75 oed a throsodd), pobl anabl a menywod yn teimlo’n llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau na rhai grwpiau eraill;
  • prin yw’r dystiolaeth o welliant mewn cynrychiolaeth wleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf, gyda menywod, pobl anabl, pobl ifanc, lleiafrifoedd ethnig, lleiafrifoedd crefyddol a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LGBT) yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ar bob lefel o wleidyddiaeth yng Nghymru.
Cyd-destun deddfwriaethol Mae deddfwriaeth allweddol y DU, fel Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Gydraddoldeb 2010, yn berthnasol i Gymru. Yn y pum mlynedd diwethaf, mae deddfwriaeth y DU wedi creu troseddau newydd o briodas dan orfod, stelcian, ac anffurfio organau cenhedlu benywod, ac wedi caniatáu priodas o’r un rhyw. Yng Nghymru, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cryfhau hawliau dynol a chydraddoldeb drwy nodi bod darpariaeth mewn Deddf Cynulliad y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad os yw’n anghydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac na all Gweinidogion Cymru weithredu mewn ffordd sy’n anghydnaws â’r hawliau hyn. Cyflwynodd y Cynulliad sawl darn allweddol o ddeddfwriaeth ddatganoledig yn ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol yn y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys:
  • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n rhoi dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i roi ystyriaeth briodol i Ran 1 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn;
  • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 sy’n rhoi’r sail gyfreithiol i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu tlodi plant a diwygio’r trefniadau ar gyfer gofal plant;
  • Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010, a roddodd ddyletswydd ar GIG Cymru ac awdurdodau lleol i gydweithio i greu strategaethau ar y cyd ar gyfer gofalwyr; a
  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), a ymestynnodd y ddarpariaeth eiriolaeth iechyd meddwl ac a ehangodd fynediad at wasanaethau iechyd meddwl.
Mae deddfwriaeth fwy diweddar ag elfennau cydraddoldeb a hawliau dynol sylweddol yn cynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Addysg (Cymru) 2014, Deddf Tai (Cymru) 2014 a Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Y newidiadau economaidd, gwleidyddol a deddfwriaethol hyn yw’r cyd-destun ar gyfer ystyried a yw Cymru’n decach o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg