Blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhanddeiliaid ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru (rhan 3)

Cyhoeddwyd 04/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

4 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gwasanaethau ataliol, mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol, gofal cymdeithasol a hawliau dynol

Yn y cyfnod hyd at etholiadau’r Cynulliad yn 2016, mae rhanddeiliaid yn llunio maniffestos a phapurau briffio, gyda’r nod o ddylanwadu ar faniffestos y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Dyma’r blog olaf mewn cyfres o dri sydd wedi amlygu’r prif faterion iechyd a gofal cymdeithasol a nodwyd gan randdeiliaid fel meysydd blaenoriaeth a chamau i Lywodraeth nesaf Cymru weithredu arnynt dros gyfnod y Pumed Cynulliad. Noder: Roedd y blog cyntaf yn sôn am weithlu’r GIG, am Asesiadau o Effaith ar Iechyd, targedau perfformiad, a mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol. Roedd yr ail flog yn sôn am iechyd meddwl, gofalwyr, dementia a chanser.pic 3 Welsh Gwasanaethau ataliol Mae Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru wedi llunio maniffesto ar y cyd (PDF 250KB) sy’n galw ar y pleidiau gwleidyddol i ailddatgan eu hymrwymiad i wasanaethau cymunedol ataliol ac i wasanaethau ymyriad cynnar sy’n galluogi pobl i fyw eu bywydau mor annibynnol â phosibl. Daeth adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru i’r casgliad nad oedd llawer o’r gwasanaethau ataliol yn cael eu gwerthfawrogi’n iawn, ac efallai y bydd y galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i godi o ganlyniad i hyn. Gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru sylwadau na roddir digon o bwyslais ar atal, ac y byddai ef yn awyddus i weld sylw’n cael ei roi i hyn. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am weld rhagor o gyllid yn cael ei roi ar gyfer cymorth cymunedol a gwasanaethau cyfeillio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Dywed y Comisiynydd yn ei maniffesto:
Rhaid i unigrwydd ac unigedd gael ei gydnabod fel mater iechyd cyhoeddus allweddol, i bobl hŷn a gweddill y gymdeithas, fel y gellir rhoi sylw iawn iddo.
Hefyd mae Cynghrair Henoed Cymru yn canolbwyntio ar yr angen i gefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol a mentrau ataliol yn ei maniffesto (PDF, 19KB). Mae’r Gynghrair yn galw am amddiffyn gwasanaethau lleol sy’n cynorthwyo pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth. Mae hefyd am i Lywodraeth nesaf Cymru sicrhau:
  • Bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yn ystyried effaith lawn y toriadau i wasanaethau cyhoeddus ar fywydau pobl hŷn heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol.
  • Bod gan bobl hŷn hawl i gael gwybodaeth gymunedol a gwasanaethau eiriolaeth.
Hefyd mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw am fuddsoddiad mewn gwasanaethau eiriolaeth annibynnol ledled Cymru, i sicrhau bod gan y bobl hŷn hynny sydd fwyaf agored i niwed lais effeithiol neu rywun i siarad ar eu rhan. Gwella gofal cymdeithasol Mae Age Cymru yn galw am ymrwymiadau i:
  • Gofrestru gweithwyr gofal cartref i helpu i broffesiynoli gwasanaethau gofal ac i sicrhau bod amddiffyniad digonol ar gael i bobl sy’n cael gofal yn y cartref
  • Sicrhau y caiff hyfforddiant priodol ei ddarparu i bob gweithiwr gofal yng Nghymru, i helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn cael gofal cymdeithasol gydag urddas, a bod y gofal hwnnw o’r ansawdd gorau a’i fod yn diwallu eu hanghenion, ble bynnag y darperir ef[Cysylltwch ag Age Cymru i gael rhagor o wybodaeth]
Mae Coleg y Therapyddion Galwedigaethol (COT) yn galw am Fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus (CPEL) ar gyfer therapyddion galwedigaethol ym maes gofal cymdeithasol, gan ei fod yn dadlau bod hwn yn faes ble y mae anghydraddoldeb ar hyn o bryd. Dywed y Coleg nad yw therapyddion galwedigaethol ym maes gofal cymdeithasol yn cael yr un cyfleoedd datblygu gyrfa a chyfleoedd dysgu proffesiynol â chydweithwyr yn y GIG drwyddo draw a gweithwyr cymdeithasol ym maes gofal cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol Mae sefydliad Leonard Cheshire Anabledd Cymru yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i sicrhau nad yw cyflwyno Cyflog Byw Cenedlaethol yng Nghymru yn cael effaith niweidiol ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. [Cysylltwch â Leonard Cheshire i gael rhagor o wybodaeth]. Mae maniffesto (PDF, 120KB) Comisiynydd Plant Cymru yn cynnwys galwadau i:
  • Ddatblygu rhagor o drefniadau pontio sy’n canolbwyntio ar y person ifanc, gan gynnwys rhai gwasanaethau ar gyfer oedolion ifanc hyd at 25 mlwydd oed
  • Ymrwymo i ddarparu adnoddau digonol ar gyfer recriwtio a chefnogi digon o gartrefi maethu o safon uchel
  • Ymestyn y cynllun Pan Fydda i’n Barod (sy’n gymwys i faethu ar hyn o bryd) i blant mewn cartrefi plant preswyl er mwyn hwyluso’r opsiwn o ymestyn eu lleoliad nes iddynt droi’n 21 mlwydd oed
  • Ymrwymo i roi cynllun gweithredu cenedlaethol ar waith ar Ecsbloetio Plant yn Rhywiol, a fydd yn sicrhau y bydd cysondeb o ran ymateb ledled Cymru
  • Ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn sicrhau bod plant o dan 18 mlwydd oed yn cael yr un amddiffyniad rhag cosb gorfforol ag oedolion, h.y. i ddileu’r amddiffyniad cyfreithiol presennol o ran ‘cosb resymol’
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru am i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno dyletswydd gonestrwydd yn y gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau y gall pobl sy’n gweithio mewn awdurdodau cyhoeddus gael eu dwyn i gyfrif am fethiannau yn y gofal a ddarperir. Hawliau dynol Thema gyffredin yn y maniffestos yw’r angen am ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau; mae’r ddau Gomisiynydd ac Anabledd Cymru yn pwysleisio bod angen ymgorffori hawliau dynol a phriod Gonfensiwn/Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ym mholisïau, deddfwriaeth a gwasanaeth cyhoeddus Cymru. Mae’r Maniffesto i Bobl Anabl a gyhoeddwyd gan Anabledd Cymru hefyd yn cynnwys galwadau am Fil Byw’n Annibynnol (Cymru) yn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y Pumed Cynulliad, a fyddai’n rhoi hawl gyfreithiol i bobl anabl fyw’n annibynnol. Bydd rhanddeiliaid yn monitro addewidion maniffestos y pleidiau gwleidyddol yn y cyfnod hyd at yr etholiad, i weld a ydynt yn gydnaws â’r galwadau yn eu maniffestos eu hunain. Amser a ddengys beth fydd blaenoriaethau Llywodraeth nesaf Cymru o ran iechyd a gofal cymdeithasol yn y Pumed Cynulliad.