Llinell amser ar gyfer gwneud taliadau i ffermwyr-beth yw'r diweddaraf ar draws y DU?

Cyhoeddwyd 08/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Rhagfyr  2015 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4267" align="alignnone" width="682"]Llun o Flickr James Bowe. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr James Bowe. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae pedair Llywodraeth y DU wedi bod yn cadarnhau eu llinellau amser ar gyfer cyflwyno taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i ffermwyr. Dyma daliadau cymorth yr UE y mae ffermwyr yn eu cael o dan y PAC. Y rhain fydd y taliadau cyntaf i'w cyflwyno o dan reolau newydd y Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). Mae'r cyfnod talu ar gyfer eu cyflwyno i ffermwyr yn rhedeg o 1 Rhagfyr i 30 Mehefin bob blwyddyn. Yn y rhan fwyaf o'r blynyddoedd blaenorol byddai ffermwyr ledled y DU wedi cyflwyno’u ceisiadau am daliadau ym mis Mai, a byddai’r mwyafrif wedi disgwyl eu cael yn gynnar ym mis Rhagfyr pan fyddai’r cyfnod talu’n cychwyn. Eleni, oherwydd y cymhlethdodau a fu ynghlwm â rhoi’r rheolau newydd ar waith a gweithredu systemau talu newydd, mae ffermwyr ledled y DU yn debygol o gael eu taliadau ar wahanol adegau. Cymru Mae’r wybodaeth ddiweddaraf (PDF 147KB) a’r cyhoeddiadau diweddaraf am Gynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn datgan:
  • Y bydd ffermwyr yng Nghymru yn cael eu taliadau mewn dwy ran, tua 80 y cant o'u taliad yn y rhandaliad cyntaf a’r 20 y cant sy'n weddill mewn ail randaliad;
  • Y bydd 'y rhan fwyaf' o ffermwyr yn cael y rhandaliad cyntaf ym mis Rhagfyr a’r 'mwyafrif helaeth' yn ei gael yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd wedi cyhoeddi y gall 50 y cant o ffermwyr ddisgwyl derbyn y rhandaliad cyntaf erbyn 4 Rhagfyr 2015.
  • Y bydd y 'lleiafrif bach' o ffermwyr nad ydynt yn cael eu rhandaliad cyntaf ym mis Rhagfyr neu’n gynnar ym mis Ionawr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd gyda’r hawliad ar ddiwedd mis Ionawr; ac
  • Y bydd y 'mwyafrif helaeth' o ffermwyr yn cael yr ail randaliad o 20 y cant erbyn diwedd mis Ebrill 2016.
Mae Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, wedi datgan yn Siambr y Cynulliad mai gwneud taliadau i ffermwyr cyn gynted â phosibl yn ystod y cyfnod talu yw ei 'phrif flaenoriaeth'. Lloegr       Yn Lloegr, mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig wedi datgan yn ei ddiweddariad diweddaraf i ffermwyr ei fod 'ar y trywydd iawn’ i wneud taliadau llawn yn gynnar yn ystod y cyfnod talu:
  • Bydd y ‘rhan fwyaf’ o ffermwyr yn cael taliad llawn erbyn diwedd mis Rhagfyr;
  • Bydd y 'mwyafrif helaeth' o ffermwyr yn cael taliad llawn erbyn diwedd mis Ionawr 2016; a
  • Bydd yn cysylltu â ffermwyr nad ydynt yn debygol o gael eu talu erbyn diwedd mis Ionawr 2016.
Gogledd Iwerddon Ar 13 Tachwedd 2015, cyhoeddodd yr Adran Datblygu Amaethyddol a Gwledig ei bod yn anelu i dalu eu taliad llawn i 95 y cant o ffermwyr yng Ngogledd Iwerddon ym mis Rhagfyr. Mae Michelle O’Neil, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, wedi datgan y bydd y ffigur hwn o 95 y cant yn cynnwys llawer o achosion arolygu. Achosion arolygu yw'r rheini lle mae wedi bod yn ofynnol i swyddogion naill ai ymweld â’r fferm neu arolygu gan ddefnyddio synhwyrydd o bell i brofi dilysrwydd cais. Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i dalu gweddill yr achosion arolygu erbyn mis Mawrth 2016. Yr Alban Mae Richard Lochhead, Ysgrifennydd Cabinet yr Alban dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd wedi amlinellu mewn llythyr (PDF 127KB) i Senedd yr Alban:
  • Y bydd ffermwyr yn yr Alban yn cael eu taliadau mewn dwy ran; bydd ffermwyr yn cael tua 70 y cant yn y rhandaliad cyntaf a'r gweddill mewn ail randaliad erbyn diwedd mis Ebrill;
  • Bydd chwarter ffermwyr yr Alban yn cael rhandaliad cyntaf ym mis Rhagfyr 2015;
  • Bydd y 'mwyafrif' o ffermwyr yr Alban yn cael rhandaliad cyntaf erbyn diwedd mis Ionawr 2016.
  View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg