Melys Moes Mwy? Trafod treth siwgr Cymreig

Cyhoeddwyd 08/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Rhagfyr  2015 Erthygl gan Megan Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4273" align="alignright" width="350"]Lympiau o siwgr Llun o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher, bydd Aelodau'r Cynulliad yn cymryd rhan mewn dadl ar gyflwyno treth siwgr. Mae'r cynnig anllywodraethol i'w drafod a gyflwynwyd gan Elin Jones, yn cynnig bod:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynigion i ddefnyddio pwerau trethu newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr.
Treth Siwgr Mae treth siwgr yn golygu cynyddu pris bwydydd a/neu ddiodydd llawn siwgr, fel diodydd meddal, gyda'r nod o leihau'r defnydd o gynnyrch o'r fath. Mae nifer o wledydd Ewrop eisoes wedi cyflwyno trethi ychwanegol ar fwydydd llawn siwgr neu fwydydd brasterog. Mae treth ychwanegol ar losin, siocled, cynhyrchion sy'n seiliedig ar goco, hufen iâ a lolipops rhew wedi bod yn ei lle yn Y Ffindir ers 2011, yn ogystal â threth ychwanegol ar wahân ar ddiodydd meddal. Yn yr un flwyddyn, cyflwynodd Hwngari dreth ychwanegol ar gynhyrchion fel diodydd meddal, diodydd egni a chynhyrchion wedi'u melysu sydd wedi'u pecynnu ymlaen llaw, byrbrydau hallt a chonfennau. Cyflwynodd Ffrainc dreth ar yr holl ddiodydd gyda siwgr ychwanegol neu felysyddion artiffisial yn 2012. Cymru Ar hyn o bryd, nid oes gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer cyffredinol i osod trethi newydd, megis y dreth siwgr. Fodd bynnag, mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru gyflwyno trethi datganoledig newydd, ond dim ond gyda chytundeb ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU, drwy Orchymyn yn y Cyngor. Felly, gallai Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, ddefnyddio ei phwerau ariannol newydd fel modd o gyflwyno treth siwgr yng Nghymru. Mae'r syniad o siwgr neu 'treth pop' wedi denu rhywfaint o gefnogaeth gan randdeiliaid gan gynnwys Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn ei adroddiad Food for Thought, a'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) yn ei faniffesto Child Health Matters yn ogystal â'r cogydd enwog Jamie Oliver. Yn ystod trafodaeth ar ordewdra yn y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2015, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod treth siwgr yn 'syniad diddorol', ond 'na fyddai'n ddigon ei ben ei hun', er mwyn ymdrin â'r broblem o ordewdra ymhlith plant. Safbwynt y DU Ym mis Hydref 2015 cyhoeddodd Public Health England (PHE) adolygiad o'r dystiolaeth sy'n ymwneud â mesurau i leihau'r defnydd o siwgr. Mae'r adolygiad, Sugar Reduction: the evidence for action, yn dod i'r casgliad bod amrywiaeth o ffactorau yn cyfrannu at fwyta mwy o siwgr, a bod angen ystod gyfatebol eang o fesurau i ymateb i hynny, fel gweithredu i fynd i'r afael â'r canlynol:
  • cynigion pris mewn siopau a bwytai
  • marchnata a hysbysebu cynhyrchion sy'n uchel mewn siwgr i blant
  • faint o siwgr sydd yng nghynnyrch bwyd a diod bob dydd, a maint dognau
Yn ogystal mae'r adolygiad yn ystyried treth neu ardoll, fel ffordd o leihau'r siwgr sy'n cael ei fwyta, ond yn awgrymu y gallai mynd i'r afael â marchnata, prisio a chynnwys bwyd fod yn fwy effeithiol. Ym mis Tachwedd 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol ar Iechyd Tŷ'r Cyffredin adroddiad, Childhood Obesity – Brave and Bold Action, a oedd yn argymell cyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr. Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, Dr Sarah Wollaston AS:
A full package of bold measures is required and should be implemented as soon as possible. We believe that a sugary drinks tax should be included in these measures with all proceeds clearly directed to improving our children’s health.
Yn dilyn trefnu deiseb, gyda dros 100,000 o lofnodion, yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno treth ar ddiodydd llawn siwgr, cafodd y mater ei drafod gan Senedd y DU ar 30 Tachwedd 2015. Mewn ymateb i'r ddeiseb a'r drafodaeth, cadarnhaodd Llywodraeth y DU:
The Government has no plans to introduce a tax on sugar-sweetened beverages […] The causes of obesity are complex, caused by a number of dietary, lifestyle, environmental and genetic factors, and tackling it will require a comprehensive and broad approach. As such, the Government is considering a range of options for tackling childhood obesity, and the contribution that Government, alongside industry, families and communities can make, and will announce its plans for tackling childhood obesity by the end of the year.
Llywodraeth Cymru Un o'r materion y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw ato ar hyn o bryd i fynd i'r afael â gordewdra yw hysbysebion sy'n marchnata bwyd a diod sy'n cynnwys llawer o fraster, halen a siwgr i blant. Mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi galw ar Lywodraeth y DU i wahardd hysbysebion am fwyd brasterog a llawn siwgr rhag cael eu darlledu cyn 9pm. Yn ôl y Gweinidog:
Mae hysbysebu diodydd meddal, siocled, melysion eraill a grawnfwydydd llawn siwgr i gyd yn cyfrannu'n sylweddol at lefelau siwgr plant. Mae'r holl sectorau bwyd hyn yn cael eu marchnata'n gyson yn ystod egwyliau hysbysebu'r rhaglenni teledu rydyn ni’n gwybod bod ein plant a'n pobl ifanc yn eu gwylio [...] Dyna pam dw i wedi ysgrifennu i Lywodraeth y DU [...] i alw am estyniad ar unwaith i reoliadau Ofcom ynglŷn â darlledu hysbysebion bwyd a diod sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr. Byddai hynny’n gwahardd yr hysbysebion hyn rhag ymddangos ar ein sgriniau teledu tan ar ôl 9pm.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg