Adnewyddu Siarter y BBC: sut y gall y BBC gynyddu’r portread o Gymru ar gyllideb sy’n crebachu?

9 Rhagfyr 2015

Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yr Arglwydd Hall yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Yr Arglwydd Hall yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

Mae’r rheolau sy’n nodi sut y caiff y BBC ei redeg a beth y dylai ei wneud yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth y DU ar hyn o bryd. Nodir cyfansoddiad y BBC mewn Siarter Brenhinol, tra caiff manylion pellach eu disgrifio mewn Cytundeb rhwng y BBC a Llywodraeth y DU. Mae adnewyddu’r siarter yn rhoi cyfle prin (mae’r Siarter bresennol wedi bod ar waith er 2006) i wleidyddion a’r cyhoedd ddylanwadu ar y ffordd y mae’r BBC yn cael ei ariannu a’i weithredu. Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad wedi cymryd y cyfle hwn ac wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i sut y dylai’r siarter adlewyrchu buddiannau Cymru orau.

Prinder cynnyrch a phortread o Gymru ar y BBC

Clywodd y Pwyllgor sut, yn ystod cyfnod y Siarter presennol, y bu gostyngiad o 15 y cant yn nifer yr oriau a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales, a gostyngiad o 32 y cant yn ei wariant ar raglenni Saesneg yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor hefyd fod Cymru yn cael ei thangynrychioli yn wael o ran y ffordd y caiff ei phortreadu ar rwydwaith y DU. Dywedodd Dr John Geraint, Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay Media, wrth y Pwyllgor “bod angen i Gymru fynegi ymdeimlad o ddicter ynglŷn â’r sefyllfa hon.”

Gwario mwy ar gynhyrchu yng Nghymru

Er bod tystion wedi dweud bod angen gwella ar frys y portread o fywyd Cymru ar y BBC, roeddent yn croesawu’r cynnydd yng ngwariant y BBC ar gynhyrchu yng Nghymru. Dywedodd y BBC wrth y Pwyllgor – drwy ei ddatblygiad ar gyfer cynyrchiadau drama ym Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd, yn bennaf – fod y BBC bellach yn gwario 6.5 y cant o’i gyllideb cynhyrchu teledu yng Nghymru (gellir cymharu hyn â’r ffaith 5 y cant o boblogaeth y DU yw poblogaeth Cymru). Croesawodd Aelodau’r Pwyllgor wariant cynyddol y BBC ar y rhwydwaith yng Nghymru, ond tynnwyd sylw at y ffaith nad yw hyn yn mynd i’r afael â’r materion o ran cynnyrch domestig sy’n dirywio a diffyg cynrychiolaeth o Gymru ar gynyrchiadau’r rhwydwaith.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y BBC wedi llwyddo i symud y broses gynhyrchu y tu allan i Lundain drwy gyflwyno ymrwymiadau mesuradwy, gan brofi bod y BBC yn fedrus o ran newid ei brosesau cynhyrchu pan fydd angen gwneud hynny. O ganlyniad, dywedodd panel o academyddion fod yn rhaid i’r BBC osod targedau mesuradwy ar gyfer portreadu, a rhaid iddo wella ei brosesau comisiynu i sicrhau ei fod yn bodloni’r targedau hyn.

Cyflwynodd yr Aelodau’r materion hyn i’r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, a Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, ar 26 Tachwedd. Pwysleisiodd yr Arglwydd Hall yr hyn a welai fel ‘llwyddiant rhyfeddol Porth y Rhath’ a’r gwariant ar y rhwydwaith y tu allan i Lundain, ond cydsyniodd fod “y broblem yn ymwneud yn bennaf â phortreadu” bellach. Mae hwn yn un o’r materion y teimlai y gallai’r BBC fynd i’r afael ag ef mewn adolygiad yr oedd wedi galw amdano i’w drefniadau comisiynu.

Cynnig trefniadau llywodraethu newydd

Yn y cyfarfod, cynigiodd yr Arglwydd Hall gyfres newydd o drefniadau llywodraethu o dan y Siarter, gan gynnwys cytundeb trwydded gwasanaeth ar gyfer Cymru. Byddai hwn yn gytundeb a fyddai’n nodi’n benodol beth yw cyfrifoldebau’r BBC yng Nghymru. Amlygodd hefyd y dylai’r Cynulliad chwarae rhan o ran dwyn y BBC i gyfrif o dan unrhyw drefniadau newydd.

“Cyfyngiad gwirioneddol ar uchelgais y BBC”

Y cefndir i drafodaethau’r Pwyllgor oedd setliad ariannol – y cytunwyd arno rhwng y BBC a Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2015 – y teimlai yr Arglwydd Hall ei fod yn rhoi “cyfyngiad gwirioneddol ar uchelgais y BBC“. Dywed y BBC ei fod yn disgwyl i’w gyllideb fod yn “arian parod gwastad” rhwng 2017-18 a 2021-22: “mewn effaith, gostyngiad mewn termau real o 10 y cant yn dibynnu ar ragolygon chwyddiant”. Ar ôl cael ei wthio gan y Pwyllgor i ymateb i alwadau Llywodraeth Cymru am £30 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer BBC Cymru Wales, dywedodd yr Arglwydd Hall ei bod yn rhy gynnar i ragweld sut y bydd rhagolygon ariannol y BBC yn effeithio ar wariant BBC Cymru Wales.

Pwysigrwydd y BBC i Gymru

Fel y dywedodd Rhodri Talfan Davies wrth y Pwyllgor, “mae gan y BBC gyfrifoldeb anghymesur yng Nghymru“. Clywodd y Pwyllgor gan nifer o dystion y bu methiant yn y farchnad mewn mannau eraill yn y cyfryngau Cymreig, gan gynyddu pwysigrwydd y BBC fel darparwr cynnwys penodol i Gymru. I dynnu sylw at y ffaith hon efallai, mae’r BBC ar hyn o bryd yn denu cyfran uwch o wylwyr yng Nghymru nag yn ardaloedd eraill y DU. Yr her y mae’r BBC yng Nghymru yn ei hwynebu yw sut y gall fynd i’r afael â phrinder y portread o Gymru ar gyllideb sy’n lleihau. Bydd aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ystyried eu hadroddiad ar ôl y Nadolig, ynghyd â sut y byddant yn cyfrannu eu sylwadau i adolygiad Llywodraeth y DU.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg