Beth nesa’ i ddyfodol ariannol S4C?

Cyhoeddwyd 09/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Rhagfyr  2015 Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Heddiw (9 Rhagfyr 2015), bydd Aelodau’r Cynulliad yn cymryd rhan mewn dadl ar ddyfodol S4C. Mae pryderon am gyllideb y sianel yn sicr o fod yn bwnc amlwg iawn wrth i’r ddadl fynd rhagddi.

Tan fis Ebrill 2013, roedd S4C yn cael ei hariannu trwy grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd y grant hwnnw’n werth £101 miliwn yn 2011-12. Ond daeth tro ar fyd pan benderfynodd y Llywodraeth yn San Steffan mai’r BBC, trwy arian ffi’r drwydded, a fyddai’n bennaf cyfrifol am ariannu S4C o 2013-14 ymlaen.

[caption id="attachment_4281" align="alignright" width="300"]Llun o geograph.co.uk. Dan drwydded Creative Commons Llun o geograph.co.uk. Dan drwydded Creative Commons[/caption]

Mae S4C bellach yn cael rhyw £76 miliwn y flwyddyn gan y BBC, tra bo Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i roi grant blynyddol o ryw £6.7 miliwn. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, o dan y trefniadau newydd hyn, mae S4C wedi gorfod ymdopi â thoriadau o tua 36 y cant (mewn termau real) yn ei hincwm.

Yn ôl S4C, mae’r effaith wedi bod yn amlwg. Bu’n rhaid i’r sianel roi’r gorau i ddarparu gwasanaeth clirlun (HD) yn 2012; mae’r buddsoddiad mae’n ei wneud mewn rhaglenni plant wedi gostwng; bu prinder dramâu gwreiddiol am fisoedd yn ystod y flwyddyn; ac mae’n anos i’r sianel gystadlu am hawliau chwaraeon poblogaidd.

O dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, mae gan John Whittingdale, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, gyfrifoldeb statudol i sicrhau bod S4C yn cael arian "digonol" i wasanaethu’r cyhoedd. Nid yw ystyr "digonol", fodd bynnag, wedi’i ddiffinio yn y Ddeddf.

Ym mis Gorffennaf 2015, daeth y BBC a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i drefniant o’r newydd ar ffi’r drwydded sy’n golygu y bydd y gorfforaeth yn wynebu rhagor o doriadau dros y blynyddoedd nesaf. Yn nodedig, fe ddywedodd John Whittingdale ar y pryd y byddai’n "rhesymol" disgwyl i S4C wneud yr un math o doriadau ag y byddai’r BBC ei hun yn gorfod eu gwneud.

Yn ystod ei ymchwiliad diweddar i’r adolygiad o Siarter y BBC, mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad wedi clywed tystiolaeth ddi-ben-draw am ba mor niweidiol y gallai hyn fod i S4C.

Yn ôl David Donavan o undeb BECTU, fe allai mwy o doriadau i’r sianel fod yn "gwbl drychinebus". Yn yr un modd, fe ddywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru, na ddylid cwtogi rhagor ar gyllideb S4C ac ystyried y "toriadau anhygoel" y mae eisoes wedi’u hwynebu.

Ac wrth i Bapur Gwyrdd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Siarter y BBC gwestiynu "gwerth am arian" gwasanaethau ar gyfer ieithoedd lleiafrifol, mynegodd sawl tyst bryder wrth y Pwyllgor nad oedd y Llywodraeth yn San Steffan yn amgyffred gwerth ieithyddol S4C a’i chyfraniad at hyrwyddo diwylliant lleiafrifol, heb sôn am bwysigrwydd economaidd y sianel i’r diwydiannau creadigol.

O’r dechrau, mae S4C ei hun (fel Llywodraeth Cymru) wedi galw am broses glir ac annibynnol i benderfynu ar yr hyn a fyddai’n gyfystyr â chael "arian digonol", gan bwysleisio y dylai’r adolygiad hwn ddigwydd ar wahân i’r trafodaethau ar Siarter newydd y BBC.

At hynny, ddechrau mis Tachwedd, bwriodd S4C ati i gyhoeddi gweledigaeth i’r dyfodol, a honno’n rhoi pwyslais ar le’r Gymraeg ar blatfformau digidol, ar roi amlygrwydd i Gymru a’r Gymraeg yn rhyngwladol, ac ar ymwneud mwy â’r maes addysg a sgiliau. Ond wrth gwrs, byddai’r gallu i roi’r uchelgais honno ar waith yn dibynnu ar gyllid.

Wrth gyhoeddi ei adolygiad o wariant ar 25 Tachwedd 2015, fe ddywedodd y Canghellor George Osborne wrth Dŷ’r Cyffredin y byddai toriadau mawr i gyllideb y y DCMS yn "gam gwag" yn economaidd, gan ystyried mai bychan yw’r gyllideb honno’n y lle cyntaf.

Aeth y Canghellor yn ei flaen i gyhoeddi y byddai’r arian y mae’r DCMS yn ei roi i Gyngor Celfyddydau Lloegr yn cynyddu, fel y byddai’r cyllid i orielau ac amgueddfeydd yn Lloegr. Byddai cyllidebau UK Sport a World Service y BBC hefyd yn cynyddu’n sylweddol. Ond daeth y cyhoeddiad y byddai grant S4C yn gostwng o £6.7 miliwn i £5 miliwn erbyn 2019-20.

Yng Nghymru, bu’r ymateb bron yn unfrydol feirniadol, a hynny ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Â’u maniffesto wedi addo gwarchod cyllideb S4C cyn etholiadau mis Mai 2015, roedd sawl Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru ymysg y rheini a fynegodd siom â phenderfyniad eu plaid.

Pan heriwyd Ed Vaizey, y Gweinidog dros Ddiwylliant a’r Economi Ddigidol yn y DCMS, am hyn ar lawr Tŷ’r Cyffredin ar 3 Rhagfyr 2015, fe honnodd fod S4C yn cael ei "hariannu’n hynod o hael".

Ymateb Huw Jones, Cadeirydd S4C, i gyhoeddiad y DCMS oedd ei bod yn anochel y byddai’r toriad diweddaraf hwn yn effeithio ar amrywiaeth gwasanaethau S4C ac ar allu’r sianel i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Beth, felly, yw’r oblygiadau i’r weledigaeth newydd a lansiwyd ym mis Tachwedd?

Mae’r ateb i’r cwestiwn hwnnw, mae’n debyg, yn dibynnu ar ganlyniadau’r trafodaethau ar ddyfodol Siarter y BBC, ac ar yr hyn a fydd yn digwydd i’r swm o arian y mae S4C yn ei gael o ffi’r drwydded o 2017-18 ymlaen. Ar hyn o bryd, mae’r cyfan yn hofran yn y gwynt.

Bydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn cyflwyno’i sylwadau ar y materion hyn yn ddiweddarach y flwyddyn newydd. Mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan hefyd wrthi’n cynnal ymchwiliad ar ddarlledu yng Nghymru. Am y tro, mae’r trafod yn parhau, gan ddechrau y prynhawn yma ar lawr y Senedd.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg