Ffermydd Solar yng Nghymru - mapiau newydd ar gael

Cyhoeddwyd 11/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Rhagfyr 2015 Erthygl gan  Graham Winter a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r map isod yn dangos dosbarthiad y ffermydd / parciau solar yng Nghymru sy'n weithredol neu'n cael eu hadeiladu ym mis Hydref 2015. • Ffermydd solar sy'n gweithredu yng Nghymru Ffermydd solar sy'n gweithredu yng Nghymru (Hydref 2015). Data gan Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy. Dyma fersiwn ddiweddaraf y map a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015 ac mae'n dangos cynnydd sylweddol yn nifer y prosiectau sy'n weithredol ers yn gynharach eleni. Mae'r data wedi dod o Gronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy DECC. Fel gyda fersiwn blaenorol y map, gellir gweld bod datblygiadau ffermydd solar wedi bod yn fwy niferus hyd yn hyn yn y de a'r gorllewin. Mae'r ail fap isod yn dangos y prosiectau solar sydd wedi cael caniatâd cynllunio ond sydd heb gael eu hadeiladu eto, a hefyd y prosiectau lle mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ond nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Mae'n awgrymu y gallai fod cynnydd yn nifer y ffermydd solar yn y gogledd, yn ogystal â rhagor o brosiectau yn y de a'r gorllewin. • Ffermydd solar yn y system gynllunio yng Nghymru Ffermydd solar yn y system gynllunio yng Nghymru (Hydref 2015). Data gan Cronfa Ddata Cynllunio Ynni Adnewyddadwy. Ni wyddwn sawl un o'r prosiectau solar sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd a fydd yn cael eu hadeiladu. Mae Llywodraeth y DU wedi gostwng ac, mewn rhai achosion, wedi atal cymorthdaliadau ar gyfer prosiectau solar mwy o faint. Daeth y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy i ben ar gyfer PV solar ar raddfa fawr (> 5 Megawat) ar 1 Ebrill 2015. O 2015 ymlaen, ni fydd ffermydd solar bellach yn gymwys ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin, gan nad gweithgarwch amaethyddol yw’r prif weithgarwch ar y tir. Bydd cyllid yn parhau ar gael ar gyfer gosodiadau ar raddfa lai (<5MW) drwy'r cynllun Tariffau Cyflenwi Trydan. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ymgynghori ar adolygiad o'r Tariffau Cyflenwi Trydan ac os caiff ei gadarnhau, bydd yn lleihau'r tariff a fydd yn cael ei dalu am drydan a gynhyrchir gan gynlluniau solar rhwng 1 a 5 MW i 1.03 ceiniog/kWh, i lawr o 4.28 ceiniog/kWh. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg