Bil yr Amgylchedd (Cymru): Newidiadau a dderbyniwyd yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 15/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4380" align="alignnone" width="682"]Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn yr eira Kelveden o dan Drwydded Creative Commons.[/caption] Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 26 Tachwedd 2015. Cyfnod 2 yw'r cyfle cyntaf i Aelodau'r Cynulliad wneud gwelliannau i'r Bil. Derbyniwyd nifer o welliannau yn ystod cyfarfod Cyfnod 2 Bil yr Amgylchedd. Yn ogystal, nododd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Carl Sargeant, nifer o feysydd lle y bydd Llywodraeth Cymru yn dymuno dwyn rhagor o welliannau gerbron yng Nghyfnod 3. Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 2 Er bod wyth Rhan i'r Bil, roedd y rhan fwyaf o'r gwelliannau a dderbyniwyd yn ymwneud â Rhannau 1 a 2 sy'n ymdrin â Rheoli Cynaliadwy ar Adnoddau Naturiol a Newid yn yr Hinsawdd. Dyma'r gwelliannau a dderbyniwyd yng Nghyfnod 2: Rhan 1: Adnoddau Naturiol
  • Cryfhau'r iaith mewn perthynas â nifer o'r dyletswyddau yn Rhan 1 yn unol ag argymhellion 10 ac 11 yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd;
  • Rhoi mwy o fanylion am gynnwys gofynnol datganiadau ardal ar wyneb y Bil;
  • Newid egwyddorion rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol i gynnwys cyfeiriad at yr angen i'r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau ynglŷn â materion amgylcheddol a'r angen i gymryd camau i atal difrod difrifol neu ddifrod na ellir ei ddad-wneud i ecosystemau;
  • Gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, wrth gyhoeddi polisi adnoddau naturiol cenedlaethol, nodi'r egwyddorion, y peryglon a'r cyfleoedd ar gyfer bioamrywiaeth.
Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd
  • Rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru gynyddu lefel targed allyriadau carbon 2050;
  • Rhoi targedau interim ar wyneb y Bil. Y blynyddoedd interim fydd 2030 a 2040, a rhaid pennu'r targedau allyriadau ar gyfer y blynyddoedd hyn erbyn diwedd 2018;
  • Gwelliant yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff cynghori ar newid yn yr hinsawdd adolygu, yn 2030, pa mor addas yw targedau 2040 a 2050;
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y byddant yn mynd i'r afael â methiant i gyrraedd cyllideb garbon, o fewn 3 mis i hysbysu'r Cynulliad bod yr allyriadau yn fwy na'r gyllideb garbon. Roedd y Bil yn nodi'n flaenorol bod rhaid gwneud hyn 'cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol'.
Gwelliannau eraill sy'n debygol yng Nghyfnod 3 Wrth wrthwynebu nifer o'r gwelliannau a gyflwynwyd gan y gwrthbleidiau yng Nghyfnod 2, awgrymodd y Gweinidog ei fod yn barod i ystyried pryderon Aelodau'r Cynulliad a dod â gwelliannau ychwanegol gerbron yng Nghyfnod 3. Dyma'r meysydd lle y nododd y Gweinidog y byddai'n barod i wneud rhagor o newidiadau:
  • Rhoi diffiniad o fioamrywiaeth ar wyneb y Bil;
  • Sicrhau bod datganiadau ardal yn cwmpasu Cymru gyfan a'u bod yn cyd-fynd yn briodol â'r broses cynllunio morol;
  • Dyletswydd newydd i gyhoeddi cynllun ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru;
  • Darparu sicrwydd ynglŷn ag annibyniaeth Cyfoeth Naturiol Cymru a'r adroddiadau ar gyflwr adnoddau naturiol;
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ymatebion a dderbyniwyd i ymgynghoriad yn ystod y broses o ddatblygu polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.
Gwelliannau a wrthodwyd. Cafodd rhai gwelliannau a gynigiwyd yng Nghyfnod 2 eu gwrthod ac ni roddodd y Gweinidog unrhyw awgrym y byddai'n cefnogi gwelliannau tebyg yng Nghyfnod 3. Roedd y rhain yn cynnwys:
  • Rhoi diffiniad o ecosystemau ar wyneb y Bil;
  • Cynnwys cyfeiriadau at dirweddau yn Rhan 1 o'r Bil;
  • Cyflwyno adroddiad yn flynyddol ar yr hyn a gyflawnir o safbwynt targedau allyriadau carbon a chyllidebau carbon;
  • Gosod lefel y gyllideb garbon gyntaf erbyn diwedd 2017, a'r ail a'r drydedd gyllideb erbyn diwedd 2018;
  • Cynnwys mynegai a thargedau bioamrywiaeth ar wyneb y Bil.
Cynhelir Cyfnod 3 y Bil ym mis Ionawr 2016 pryd y caiff y Cynulliad cyfan gyfle i ddiwygio'r Bil yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg