Diweddariad diwygio yr UE: beth sydd ym masgedi David Cameron?

Cyhoeddwyd 17/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Heno, bydd y Cyngor Ewropeaidd (penaethiaid llywodraethau’r Aelod-Wladwriaethau) yn trafod cynigion David Cameron i ddiwygio yr UE. Ni fydd y Cyngor yn dod i gytundeb, ond bydd yn cynnal trafodaeth wleidyddol yn canolbwyntio ar lythyr y Prif Weinidog  a gyhoeddwyd ar 10 Tachwedd a’r ymateb gan Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk, a anfonwyd at Benaethiaid Aelod-Wladwriaethau a Llywodraethau’r UE ddydd Llun diwethaf. Pen draw’r daith yw ceisio dod i gytundeb yn y Cyngor Ewropeaidd ar 18-19 Chwefror, gan baratoi’r ffordd i’r Prif Weinidog gyhoeddi manylion Refferendwm arfaethedig yr UE - o bosibl mor gynnar â mis Mehefin, er bod yr hydref yn cael ei ystyried yn gyfnod mwy tebygol. Bydd diwygiadau arfaethedig y DU yn cael eu trafod yng nghyd-destun yr heriau niferus sy’n wynebu’r UE ar hyn o bryd, megis y bygythiad a’r ymateb diogelwch yn dilyn yr ymosodiadau ar Baris, y cynnydd o ran Undod Economaidd ac Ariannol, ymateb yr UE i fudo a’r argyfwng ffoaduriaid, a chwblhau’r Farchnad Sengl. [caption id="attachment_3251" align="alignright" width="300"]This is a picture of the EU flag. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Beth sydd ym masgedi’r Prif Weinidog? Rhoddodd blog gan y Gwasanaeth Ymchwil  ym mis Hydref 2015 amlinelliad o’r meysydd lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio diwygio’r UE. Mae llythyr diweddar y Prif Weinidog yn ei hanfod yn esboniad pellach o’r themâu hyn, yn hytrach na dull manwl na chynigion cyfreithiol ar gyfer cyflawni’r canlyniadau hyn. I grynhoi, y meysydd hyn - y cyfeiriwyd atynt mewn adroddiadau yn y wasg fel "basgedi" - yw:
  • Llywodraethu economaidd;
  • Y gallu i gystadlu;
  • Sofraniaeth;
  • Mewnfudo.
O ran y fasged fewnfudo, mae’r Prif Weinidog wedi galw am weithredu mesurau i leihau nifer y bobl sy’n dod o’r UE i’r DU. Dylai’r rhain gynnwys cyfyngu ar daliadau budd-dal i fewnfudwyr UE hyd nes eu bod wedi gweithio yn y DU am bedair blynedd, ac atal yr arfer o anfon budd-dal plant dramor. Mae ymateb yr Arlywydd Tusk i’r llythyr hwn yn adleisio pwynt a wnaed gan nifer o wleidyddion amlwg yr UE: sef mai mewnfudo yw’r maes mwyaf cynhennus o’r meysydd y mae Llywodraeth y DU yn ceisio eu diwygio. Mae’n disgrifio’r cynigion hyn fel y "mwyaf bregus", ac yn debygol o arwain at "wahaniaethau gwleidyddol sylweddol" y bydd angen eu datrys cyn y gall cytundeb gael ei frocera. Mae Llywodraeth Gwlad Pwyl wedi bod yn feirniad amlwg o gynnig y Prif Weinidog i gyfyngu taliadau budd-dal i fewnfudwyr yr UE. Mae adroddiadau yn y wasg yn datgan er bod Prif Weinidog Gwlad Pwyl wedi dweud y gallai gytuno â diwygiadau Prydain a gynigiwyd yn y gyntaf o’r tair basged, mae’r mater o fudd-daliadau - a allai effeithio ar lawer o bobl o Wlad Pwyl sy’n byw yn y DU - wedi bod yn faen tramgwydd. O safbwynt sofraniaeth, mae’r Prif Weinidog wedi galw am rôl ehangach i seneddau cenedlaethol yn y broses ddeddfwriaethol. Mae wedi cynnig trefniant newydd lle y byddai gan grŵp o seneddau cenedlaethol yr hawl i wahardd cynigion deddfwriaethol nad ydynt yn cytuno â hwy. Nid oes unrhyw sôn am rôl seneddau is-genedlaethol (term yr UE ar gyfer deddfwrfeydd is nag aelod-wladwriaethau megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd yr Alban) yn y broses hon, sy’n codi’r cwestiwn ynghylch sut y gallai Senedd y DU siarad ar ran y DU gyfan ar faterion sydd wedi’u datganoli - megis amaethyddiaeth - pan mai ychydig yn unig o gymhwysedd sydd ganddi y tu allan i Loegr. Sut mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ym mhroses ddiwygio’r UE? Mae trafodaethau diwygio’r UE Llywodraeth y DU yn destun craffu ar hyn o bryd gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad a Phwyllgor Dethol Tŷ’r Arglwyddi ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi wedi gofyn am farn gweinyddiaethau a deddfwrfeydd datganoledig y DU ar y mater hwn, gan gynnal sesiynau yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin. Ar 19 Hydref 2015, clywodd Pwyllgor Tŷ’r Arglwyddi dystiolaeth gan nifer o randdeiliaid yng Nghymru - gan gynnwys aelodau o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a Phrif Weinidog Cymru - yn y Senedd. Roedd Prif Weinidog Cymru yn feirniadol o faint o ymgynghori a wnaed gan Lywodraeth y DU, gan ddweud nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o’r broses o sefydlu safbwynt y DU, a’i fod wedi cael gwybod am safiad drafod y DU "drwy dudalennau’r Sunday Telegraph". Fodd bynnag, ceir ar ddeall bod Prif Weinidog Cymru wedi cael cyfarfod preifat â’r Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond AS, yn Llundain yn gynharach yr wythnos hon cyn Uwchgynhadledd yr UE, a bod y Gweinidog Ewrop, David Lidington AS, wedi bod yn cael trafodaethau am agenda diwygio’r UE gyda Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth. Beth nesaf? Mae Llywodraeth y DU wedi addo cynnal refferendwm ar aelodaeth o’r UE erbyn 2017. Er bod David Cameron wedi datgan ei awydd i ymgyrchu dros barhau ag aelodaeth o’r UE, mae hyn wedi bod yn amodol erioed ar derfyn llwyddiannus i drafodaethau diwygio. Yn ôl sylwadau’r Arlywydd Tusk, mae rhai rhwystrau gwleidyddol mawr i’w goresgyn cyn y gellir dod i gasgliad o’r fath. Lansiodd Plaid Lafur Cymru ei hymgyrch i aros yn yr UE ddydd Llun. Honnodd yr Arglwydd Hain, sy’n rheoli’r ymgyrch, y byddai gadael yr UE yn niweidio Cymru yn fwy nag unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac y byddai Brexit yn peryglu 200,000 o swyddi yng Nghymru, er bod y ceisiadau hyn wedi cael eu herio. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod ei ddadleuon dros barhau’n aelod yn economaidd yn bennaf, gan awgrymu y bydd hyn yn elfen allweddol o ddadl Llafur Cymru o blaid yr UE. Mae’r ddadl yn poethi yn y cyfnod cyn y refferendwm. Er efallai na fydd y darlun mawr yn newid, yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Cameron, bydd y sefyllfa yn wahanol erbyn i’r bleidlais ddigwydd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg