Ystadegau diweddaraf Gwerth Ychwanegol Gros Rhanbarthol y pen: dim newid ar y gwaelod

Cyhoeddwyd 18/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ddydd Mercher 9 Rhagfyr cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr amcangyfrifon diweddaraf o Werth Ychwanegol Gros (GYG) rhanbarthol ac isranbarthol y DU. Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod GYG y pen yng Nghymru yn parhau i fod yr isaf ymhlith y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Mae GYG yn fesur o'r cynnydd yng ngwerth yr economi oherwydd y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Caiff yr amcangyfrifon rhanbarthol hyn o GYG eu mesur gan ddefnyddio'r dull incwm, sy'n cynnwys cyfrifo cyfanswm yr incwm a grëir gan unigolion neu fusnesau preswyl wrth gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Mae'r ystadegau hyn yn bwysig gan eu bod yn rhoi trosolwg o berfformiad economaidd ar lefel ranbarthol ac isranbarthol, fel y gellir cymharu gwledydd a rhanbarthau'r DU. Hefyd, mae'r amcangyfrifon GYG y pen yn un o'r dangosyddion canlyniadau ar gyfer y bennod ar Dwf a Swyddi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Cynhyrchir y ffigurau ar dair lefel o ddaearyddiaeth gan ddefnyddio dull Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS) safonol yr UE.
  • NUTS1: 12 ardal yn y DU - Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a naw rhanbarth Lloegr.
  • NUTS2: 37 o ardaloedd neu isranbarthau yn y DU - grwpiau o siroedd ac awdurdodau unedol yn bennaf.
  • NUTS3: 139 o ardaloedd yn y DU - siroedd unigol ac awdurdodau unedol (a elwir yn ardaloedd lleol hefyd) yn bennaf.
Mae'r amcangyfrifon GYG ar lefel NUTS 1, 2 a 3 i gyd wedi'u cynhyrchu ar sail gweithle (h.y. caiff GYG ei ddyrannu i'r lleoliad ble mae'r gweithgarwch economaidd yn digwydd). Ymhlith y pwyntiau allweddol o'r data mae'r canlynol:
  • Yn 2014, roedd gan Gymru yr ail gynnydd isaf mewn GYG y pen o'r 12 rhanbarth NUTS1 (2.1 y cant). Dim ond yng Ngogledd Iwerddon y bu twf llai (1.9 y cant).
  • Roedd GYG y pen yng Nghymru yn 2014 yn £17,573, neu'n 71.4 y cant o gyfartaledd y DU (gostyngiad o 1.1 pwynt canran ers 2013, o gymharu â chyfartaledd y DU).
  • GYG y pen yng Nghymru yn 2014 oedd yr isaf o'r 12 rhanbarth NUTS1 yn y DU, ac mae wedi bod yr isaf bob blwyddyn ers 2001.
  • Ar lefel NUTS2, roedd GYG y pen yn nwyrain Cymru yn 84.0 y cant o gyfartaledd y DU, sef gostyngiad o 1.8 pwynt canran ers 2013. Roedd GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2014 yn 64.0 y cant o gyfartaledd y DU, sef gostyngiad o 0.7 pwynt canran o gymharu â 2013.
  • Yn 2014, GYG y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd oedd yr isaf o holl ardaloedd NUTS2 y DU, sef 64.0 y cant o gyfartaledd y DU.
  • Yn 2014, roedd y ddwy ardal NUTS3 a oedd â’r GYG y pen isaf yn y DU ill dwy yng Nghymru (roedd Cymoedd Gwent yn 54.8 y cant o gyfartaledd y DU ac roedd Ynys Môn yn 53.5 y cant o gyfartaledd y DU.)
Dengys Tabl 1 y newidiadau yn GYG y pen ar gyfer Cymru, ac ardaloedd NUTS2 a NUTS3 Cymru, o gymharu â chyfartaledd y DU, dros y cyfnod llawn y mae'r ffigurau hyn ar gael. Dangosir newidiadau negyddol mewn coch. gva welsh Amseroldeb Un o'r cyfyngiadau o ddefnyddio GYG i ddeall pa mor iach yw economi Cymru ar hyn o bryd yw'r ffaith mai dim ond unwaith y flwyddyn y caiff y ffigurau eu cyhoeddi, ac mae oedi sylweddol. Cafodd y pwynt hwn ei gydnabod gan Bwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad yn ei adroddiad ar fasnach a mewnfuddsoddi ym mis Hydref 2014, a oedd yn argymell y canlynol:

Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i wella ansawdd ac amseroldeb yr ystadegau economaidd sydd ar gael i Gymru. Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol neu ei chomisiynu i gynhyrchu ffigurau Cynnyrch Domestig Gros ar gyfer Cymru, ar yr un sail ac amlder ag y bydd yn ei wneud ar gyfer y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn 'yn rhannol' ac ystyriwyd y mater wedi hynny fel rhan o adolygiad o’r data economaidd a wnaed gan y Prif Economegydd a'r Prif Ystadegydd.  Mae canfyddiadau’r adolygiad a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015, yn nodi bod “ystod o opsiynau ar gyfer llunio dangosydd chwarterol o GYG”.  Fel y disgwylir mae ystod o gostau hefyd, o’r opsiwn costau isaf a fyddai’n cynnwys costau ychwanegol “bach iawn”, i’r costau o ddatblygu GYG “llawn” a fyddai’n costio mwy “nag £1 filiwn gyda’r potensial o gostau rheolaidd uchel iawn.” Casgliad yr adolygiad oedd:

Felly, er na chynigir llunio GYG chwarterol yn y byrdymor i ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen i'r Prif Ystadegydd ystyried ymhellach yr achos dros weithredu ar yr opsiwn costau isaf, gan gynnwys y manteision a'r problemau sy'n gysylltiedig â mesur o'r fath, pe bai lefel uchel o alw gan randdeiliaid wedi'i mynegi yn yr ymateb i gylchoedd yr ymgynghoriad rheolaidd yn y dyfodol a gynhelir ar ystadegau economaidd.

Felly, mae’n edrych yn debyg y bydd y dull presennol o gynhyrchu ystadegau GYG yn flynyddol ar gyfer Cymru’n unig yn parhau yn y dyfodol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg