Canlyniad gwaith craffu cyn deddfu Pwyllgor y Cynulliad ar y Bil ADY drafft

Cyhoeddwyd 21/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Rhagfyr 2015 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma lun o ystafell pwyllgor. Mae Pwyllgor y Cynulliad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y fframwaith cyfreithiol ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg waith craffu cyn deddfu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Roedd hyn yn cynnwys clywed gan randdeiliaid sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yr effeithir arnynt gan AAA/ADY a chan gynrychiolwyr llywodraeth leol ac iechyd sy’n gysylltiedig â gweithredu unrhyw newidiadau. Daeth mwy na 20 darn o dystiolaeth ysgrifenedig i law’r Pwyllgor. Mae’r Pwyllgor bellach wedi ysgrifennu’n ffurfiol at y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Bil drafft gyda’r nod o ddylanwadu ar ei chynlluniau. Ar y cyfan, mae’r Pwyllgor ‘yn croesawu’n fawr y bwriad’ i ddiwygio’r system, ond yn gweld bod ‘llawer o waith i’w wneud’ i fynd i’r afael â ‘llawer o feysydd o ansicrwydd’ cyn i Fil gael ei gyflwyno’n ffurfiol i broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cyflwyno Bil yn yr haf, ond penderfynodd y Gweinidog i ohirio hyn nes y cynhelir ymgynghoriad pellach. Felly ni fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno tan ar ôl etholiad Mai 2016, yn ystod y Cynulliad nesaf. Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn gadarnhaol yn gyffredinol am nodau ac amcanion y Bil drafft. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon gan bob ymatebydd ynghylch yr agweddau ymarferol ar y diwygiadau arfaethedig. Yn ei lythyr at y Gweinidog (PDF 443KB), amlygodd y Pwyllgor y materion a’r pwyntiau allweddol a ddeilliodd o’i waith craffu ac anogodd Lywodraeth Cymru i gryfhau’r ddeddfwriaeth mewn nifer o feysydd: Gwaith amlasiantaeth a chydweithio rhwng llywodraeth leol ac iechyd Mynegwyd pryderon cryf i’r Pwyllgor fod angen cryfhau’r dyletswyddau ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau lleol a chyrff iechyd. Mae yna anghydbwysedd canfyddedig yn y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau ar lywodraeth leol ac iechyd yn y drefn honno ac mae’r Pwyllgor yn credu bod angen dyletswyddau cadarnach ar gyrff iechyd. Mae’r Pwyllgor hefyd waith aml-asiantaeth a chydweithredu. Manteision a heriau system gymorth graddoledig Roedd cytundeb cyffredinol y byddai cyflwyno Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) ar gyfer pob dysgwr ag ADY yn helpu i sicrhau mwy o gysondeb a thegwch. Fodd bynnag, y cafeat oedd bod yn rhaid i’r system newydd hefyd gadw manteision dull graddoledig, hy bod cymorth mwy dwys ar gael i’r rhai sydd ag anghenion mwy cymhleth a difrifol. Teimlai rhanddeiliaid bod angen mwy o eglurder ynghylch pwy yn union fydd yn gyfrifol am nodi anghenion, cynhyrchu a chynnal CDU, hy pryd y bydd hyn yn gyfrifoldeb i’r ysgol ac ym mha amgylchiadau y gellir ei gyfeirio i’r awdurdod lleol. Nodwyd hefyd y gofynion sylweddol sy’n debygol o gael eu gosod ar y rôl Cydlynydd ADY statudol newydd fel problem bosibl, yn ogystal â’r angen am dempled ar gyfer CDU er mwyn sicrhau eu bod yn gyson, yn dryloyw ac yn gludadwy. Datrys anghydfodau a chreu system decach, fwy tryloyw Awgrymodd tystiolaeth y gellid gwneud mwy i gryfhau rôl a phwerau’r Tribiwnlys (a elwir ar hyn o bryd yn Dribiwnlys AAA Cymru, ond bwriedir ei ailenwi yn Dribiwnlys Addysgol Cymru). Roedd hyn yn cynnwys y gallu i ddelio â throseddwyr cyson a diffyg gweithredu ar ôl penderfyniadau tribiwnlysoedd, ac i fynd i’r afael â methiannau neu ddiffyg cydymffurfio gan gyrff iechyd. Sefydlu system 0-25 oed Canfu’r Pwyllgor, er gwaethaf bwriad y Bil drafft i sefydlu system 0-25 oed, fod ei ffocws mewn gwirionedd i raddau helaeth iawn ar oed ysgol statudol. Awgrymodd tystiolaeth ei fod yn ymddangos bod manylion am ddarpariaeth benodol ar ddau ben y sbectrwm oed ar goll yn y Bil drafft a’r Cod ADY drafft. Ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, cafwyd galwadau i’r ‘trothwy’ ar gyfer y diffiniad o ADY i fod yn fwy cyfannol a chael ei ehangu i ganolbwyntio ar ddatblygu a chwarae. Ar gyfer Ôl-16, teimlwyd mai hepgoriad oedd y diffyg cyfeiriad at sut y darperir ar gyfer ADY mewn lleoliad ac eithrio coleg, er enghraifft dysgu seiliedig ar waith megis prentisiaethau. Yn ychwanegol at y pedwar maes a amlinellir uchod, mae’r Pwyllgor hefyd wedi nodi rhywfaint o heriau mewn perthynas â thrawsnewid i’r system newydd. Mae’r rhain yn cynnwys goblygiadau ariannol y diwygiadau, y mae’r Pwyllgor yn credu y mae ‘angen eu gwneud yn gliriach’ pan fydd Bil yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol. Materion eraill a godwyd yw gallu’r gweithlu i weithredu’r newidiadau, gofynion hyfforddi staff, ac ystyriaeth y Bil drafft o’r iaith Gymraeg. Bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried yr ymatebion y mae wedi eu derbyn i’w hymgynghoriad ac, yn ôl ei , bydd yn cyflwyno Bil rhywbryd yn 2016. Yn amlwg, gallai canlyniad etholiad y Cynulliad ym mis Mai fod yn ffactor mawr yn null a chynnwys Bil o’r fath, er bod cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer yr angen i ddiwygio’r system gyfredol yn golygu ei fod yn debygol o hyd y bydd rhyw fath o ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno. Er hwylustod, dyma’r linc eto i lythyr y Pwyllgor (PDF 443KB). Gallai darllenwyr hefyd fod â diddordeb yn ein papur cefndir ar AAA/ADY yng Nghymru o fis Mehefin 2015 a nodyn ystadegol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2015. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg