Addysgu yng Nghymru: Parhau i hyfforddi

Cyhoeddwyd 08/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Ionawr 2016 Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4465" align="alignnone" width="640"]Llun o athro mewn ystafell ddosbarth Llun: o Flickr gan woodleywonderworks. dan drwydded Creative Commons.[/caption] Yn dilyn y blog a gyhoeddwyd ddoe ar sut i ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC), rydym yn awr yn ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i helpu athrawon yng Nghymru ddatblygu a chynnal y safonau addysgol uchaf. Yn debyg i'r sefyllfa o ran cael mynediad at y proffesiwn, mae'r sefyllfa hon wedi newid yn sylweddol hefyd. Y blynyddoedd cyntaf yng ngyrfa athro yng Nghymru Ar ôl ennill Statws Athro Cymwysedig, mae'n ofynnol ar Athro Newydd Gymhwyso (ANG) yng Nghymru i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC). Rhaid i ANG wneud cyfnod ymsefydlu sy'n para am dri thymor ysgol neu am gyfnod o amser sy'n cyfateb i 380 o sesiynau ysgol (mae un sesiwn yn cyfateb i fore neu brynhawn o addysgu). Yn ystod y cyfnod ymsefydlu, mae'r ANG yn cael:
  • rhaglen o ddatblygu proffesiynol, monitro a chymorth sy'n seiliedig ar flaenoriaethau craidd y meysydd yr ystyrir eu bod yn allweddol o ran gwella safonau addysgu a chanlyniadau dysgwyr;
  • cefnogaeth mentor drwy gydol y cyfnod ymsefydlu;
  • gostyngiad o 10% yn ei amserlen waith (fel y nodir yn y ddogfen ar gyflogau ac amodau athrawon ysgol [Saesneg yn unig] );
  • Asesiad a gynhelir yn erbyn y Safonau Athrawon wrth eu Gwaith (PTS).
Os nad yw'r ANG yn pasio'r cyfnod ymsefydlu, mae hynny'n golygu na all fod yn athro yng Nghymru neu Loegr. Mae proses apelio yn bodoli parthed yr achosion hyn. Ar ôl cwblhau'r cyfnod ymsefydlu yn llwyddiannus, gall ymgeisydd chwilio am waith mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Disgwylir iddo barhau i ddatblygu a chynnal ei sgiliau addysgu a'i wybodaeth (gweler isod). Yn 2012, ariannwyd gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yn llawn gan Lywodraeth Cymru, a hynny am dair carfan o ymgeiswyr ar y dechrau, fel cymhwyster lefel Meistr ar gyfer ANG. Dechreuodd y garfan gyntaf ym mis Ionawr 2013. (Byddant yn graddio ym mis Gorffennaf 2016.) Nod y radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol yw sicrhau bod gan athrawon y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i liniaru effeithiau amddifadedd economaidd-gymdeithasol ar gyflawniad addysgol, gwella canlyniadau dysgwyr a chefnogi model o wella gydol oes mewn perthynas ag arfer proffesiynol. Mae mwy na hanner yr Athrawon Newydd Gymhwyso yng Nghymru wedi dilyn y cwrs gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Dechreuodd y garfan ddiwethaf ym mis Ionawr 2015, a byddant yn graddio ym mis Gorffennaf 2018. Bellach, nid oes modd cofrestru i wneud y cwrs hwn, ond mae Llywodraeth Cymru yn llunio hyfforddiant lefel Meistr at y dyfodol i athrawon (fel gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol Parhaus a gradd Meistr mewn Arweinyddiaeth Addysg). Datblygiad Proffesiynol Parhaus   Disgwylir i bob addysgwr yng Nghymru ymgymryd â hyfforddiant cyson o ran datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), a hynny er mwyn sicrhau bod eu sgiliau a'u gwybodaeth mor gyfoes â phosibl. Fodd bynnag, nid yw'n orfodol i athrawon fanteisio ar gyfleoedd DPP—mater a godwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2015 [Saesneg yn unig]. Mae hyfforddiant DPP yn cael ei ddarparu gan ystod o sefydliadau preifat, cyhoeddus ac elusennol mewn perthynas â llu o bynciau. Fodd bynnag, bu rhai problemau o ran ansawdd, cysondeb ac argaeledd DPP ar gyfer athrawon yng Nghymru. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnoddau ar-lein i athrawon, gan hyrwyddo'r syniad o greu Cymunedau Dysgu Proffesiynol. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno 'Bargen Newydd' ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Cymunedau Dysgu Proffesiynol Mae Cymunedau Dysgu Proffesiynol yn grwpiau o ymarferwyr sy'n cydweithio ac yn defnyddio proses ymholi strwythuredig i ganolbwyntio ar faes addysgu penodol er mwyn gwella canlyniadau a chodi safonau mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y dystiolaeth yn dangos ei bod yn bosibl gwella perfformiad drwy gydweithio gyda chymheiriaid a rhanddeiliaid eraill, wrth i gyfranogwyr rannu profiadau a syniadau a all wella dealltwriaeth pawb. Adnoddau ar-lein Mae Llywodraeth wedi ariannu nifer o adnoddau ar-lein, gyda'r nod o gefnogi athrawon yng Nghymru. Mae gwefan Dysgu Cymru yn targedu bob addysgwr yng Nghymru ac yn darparu:
  • mynediad at y newyddion a'r datblygiadau diweddaraf ym myd addysgu;
  • gwybodaeth am ddulliau addysgu ac ymchwil academaidd;
  • gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol parhaus;
  • gwybodaeth am astudiaethau achos sy'n dangos arferion gorau;
  • lincs i Gymunedau Dysgu Proffesiynol; a
  • chanllawiau polisi a chanllawiau statudol.
Mae gwefan Hwb yn targedu athrawon a dysgwyr yn y sector 3-19 oed, ac yn darparu:
  • mynediad at adnoddau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth, gemau, gweithgareddau a chymhorthion dysgu eraill;
  • gwybodaeth am arfer dda o ran materion digidol dda a rhwydweithiau cefnogaeth;
  • offer i helpu athrawon greu a rhannu eu hadnoddau a'u syniadau eu hunain
Yn ddiweddar, lansiwyd y Pasbort Dysgu Proffesiynol, sydd ar gael ar-lein i holl aelodau Cyngor y Gweithlu Addysg. Nod yr adnodd hwn, sy'n ddewisol, yw:
  • lleihau dyblygu drwy helpu athrawon i gofnodi eu gweithgareddau dysgu proffesiynol mewn un man;
  • dangos tystiolaeth o gynnydd athro tuag at y safonau proffesiynol;
  • hwyluso adolygiadau rheoli perfformiad gwell;
  • helpu ymgeisydd wrth iddo geisio gradd Meistr neu achrediad academaidd arall;
  • nodi anghenion a llwybrau gyrfaol unigolyn at y dyfodol;
  • helpu athrawon pan fyddant yn gwneud cais am swydd newydd;
  • osgoi ychwanegu at lwyth gwaith yr ymarferydd.
Y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi ymrwymo i greu Bargen Newydd i addysgwyr yng Nghymru a fydd yn cynnig iddynt 'yr hawl i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol strwythuredig o'r radd flaenaf er mwyn datblygu eu harferion'. Er mwyn hwyluso'r drefn hon, mae'n rhaid i bob ysgol gael cynllun datblygu staff fel rhan o'i chynllun datblygu ysgol, a hynny er mwyn sicrhau bod mynediad at hyfforddiant yn rhan hanfodol o fywyd ysgol i athrawon. Mae'r safonau proffesiynol cyfredol ar gyfer athrawon yng Nghymru yn cael eu diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn creu fframwaith cydlynol ar gyfer y gweithlu addysg ac yn llywio ac ysbrydoli arfer proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried rôl ehangach ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg, a hynny er mwyn caniatáu i athrawon gael mwy o ddylanwad ar y modd y mae eu proffesiwn yn datblygu ac yn pennu safonau yn y dyfodol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg