Trwyddedau olew a nwy yng Nghymru: map newydd

11 Ionawr 2016

Erthygl gan Graham Winter a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae’r map yn dangos yr ardaloedd ‘bloc trwyddedig’ yng Nghymru lle mae’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd wedi rhoi trwyddedau ar gyfer archwilio ac echdynnu olew a nwy ar y tir (a elwir yn Drwyddedau Archwilio a Datblygu Petrolewm). Rhoddwyd y trwyddedau hyn yn sgil y drydedd rownd ar ddeg tua’r tir , neu rowndiau cynharach.

Map yn dangos ardaloedd trwyddedig ar gyfer olew a nwy ac ‘ardaloedd gwarchodedig’ yng Nghymru

Cafodd canlyniad y bedwaredd rownd drwyddedu ar ddeg tua’r tir ei gyhoeddi gan yr Awdurdod Olew a Nwy newydd ym mis Rhagfyr 2015. Nid oedd unrhyw ardaloedd newydd yng Nghymru wedi’u cynnwys. Mae Llywodraeth y DU wedi cytuno i beidio â chyhoeddi unrhyw drwyddedau pellach yma oherwydd y bwriad yw y bydd y cyfrifoldeb dros drwyddedu yn cael ei drosglwyddo i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, mae rhai o’r blociau trwyddedig newydd yn Lloegr yn agos at Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy ac yn cydffinio â Chymru yn uniongyrchol.

Mae’r map hefyd yn dangos rhai “ardaloedd a ddiogelir” a ddiffinnir yn Neddf Isadeiledd 2015 a’r ddeddfwriaeth eilaidd gysylltiedig a gafodd ei chymeradwyo yn Senedd y DU ar 16 Rhagfyr 2015. Mae’r rhain yn cynnwys Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safleoedd Treftadaeth y Byd a Pharthau Gwarchod Tarddiad Dŵr. Mae Deddf 2015 yn datgan na all yr Ysgrifennydd Gwladol ganiatáu hollti hydrolig (ffracio) yn un o’r ardaloedd gwarchodedig hyn. Mae caniatâd o’r fath yn ofyniad ychwanegol cyn i ffracio allu digwydd. Mae hefyd angen mathau eraill o ganiatâd a chydsyniad – gweler ein herthygl blog blaenorol.

Agwedd ddadleuol ar y ddeddfwriaeth eilaidd a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2015 yw y byddai’n dal yn bosibl drilio o dan un o’r ardaloedd gwarchodedig hyn, gan ddechrau y tu allan i’r ardal honno, cyhyd â bod y drilio yn digwydd ar ddyfnder o fwy na 1,200 metr.

Caiff Parthau Gwarchod Tarddiad Dŵr eu diffinio yn y ddeddfwriaeth fel darnau o dir y gall dŵr daear eu cyrraedd o fewn amser teithio o 50 diwrnod o fan codi dŵr, lle mae’r dŵr daear hwnnw yn cael ei ddefnyddio at ddibenion domestig neu ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu’r ffiniau ar gyfer y parthau hyn yng Nghymru.

Mae’r map yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o’r blociau trwyddedig presennol yn gorgyffwrdd â’r “ardaloedd gwarchodedig” hyn. Fodd bynnag, mae yna rai Parthau Gwarchod Tarddiad Dŵr mewn rhannau o’r blociau trwyddedig yn ne Cymru. Mae un bloc trwyddedig hefyd yn gorgyffwrdd ychydig â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac un arall ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol y Gŵyr. Yng ngogledd Cymru, mae blociau trwyddedig ger Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg