Gordewdra yng Nghymru

Cyhoeddwyd 11/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Ionawr 2016 Erthygl gan Megan JonesDavid Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yr wythnos hon (11-17 Ionawr) yw Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra, y cyfle perffaith i roi sylw i lefelau gordewdra yng Nghymru, a pha gamau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater. Gordewdra ymysg Oedolion Yn ôl yr ystadegau diweddaraf gan Arolwg Iechyd Cymru 2014, caiff 58 y cant o oedolion yng Nghymru eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew. Mae hyn yn gynnydd o'r 54 y cant o oedolion oedd yn rhy drwm neu'n ordew pan gyhoeddwyd yr arolwg gyntaf yn 2003/04. Mae nifer yr achosion o oedolion sy'n rhy drwm ac yn ordew yn codi gyda mwy o amddifadedd, o 53 y cant yn y pumed ardal leiaf difreintiedig i 61 y cant yn y pumed ardal fwyaf difreintiedig. Gordewdra ymysg plant Dengys canfyddiadau o Raglen Fesur Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 27.3 y cant o blant yng Nghymru yn cael eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew. Mae nifer yr achosion o blant rhwng 4 a 5 oed mewn dosbarth derbyn mewn ysgolion yng Nghymru sy'n rhy drwm neu'n ordew (26 y cant) yn uwch nag yn Lloegr (23 y cant) ac yn uwch nag yn unrhyw ranbarth unigol yn Lloegr, lle roedd yr achosion uchaf yn 24 y cant. Mae nifer yr achosion o blant sy'n rhy drwm ac yn ordew yn codi gyda mwy o amddifadedd, o 22.2 y cant yn y pumed ardal leiaf difreintiedig i 28.5 y cant yn y pumed ardal mwyaf difreintiedig o Gymru. Camau Gweithredu Llywodraeth Cymru Yn 2010, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan, ac mae'n nodi'r camau y dylai Byrddau Iechyd Lleol eu cymryd, gan weithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill, er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r broblem ordewdra yng Nghymru drwy bolisïau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol ar gyfer plant ac oedolion. Mae'r Llwybr yn nodi fframwaith pedair haen ar gyfer gwasanaethau gordewdra: Lefel 1: Atal yn y gymuned ac ymyrraeth gynnar (hunanofal) Lefel 2: Gwasanaethau rheoli pwysau yn y gymuned ac yn y maes gofal sylfaenol Lefel 3: Gwasanaethau tîm amlddisgyblaethol arbenigol rheoli pwysau Lefel 4: Gwasanaethau meddygol a llawfeddygol arbenigol Canfu adolygiad o gynnydd yn erbyn y llwybr, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2014, bod pob bwrdd iechyd ar draws Cymru yn darparu gwasanaethau lefel un a dau, ond fod y ddarpariaeth o ran gwasanaethau lefel 3 yn parhau i fod yn anghyson ac roedd Llywodraeth Cymru yn cydnabod fod angen gwneud mwy. Ymchwiliad i argaeledd Gwasanaethau Bariatrig: Ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ganfyddiadau ymchwiliad i Argaeledd Gwasanaethau Bariatrig, gan ganolbwyntio ar argaeledd gwasanaethau arbenigol Lefel 3 a 4. Canfu'r Pwyllgor bod y ddarpariaeth o ran y gwasanaethau hyn yn amrywio ar draws Cymru gyda dim ond un allan o saith Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaeth rheoli pwysau arbenigol cynhwysfawr (Lefel 3). Canfu'r Pwyllgor hefyd fod unigolion sy'n ceisio cael mynediad at ddarpariaeth lawfeddygol (Lefel 4) wedi bod yn destun meini prawf cymhwysedd a oedd yn fwy llym na'r hyn a argymhellir gan ganllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion, gan gynnwys:
  • dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Byrddau Iechyd Lleol i ddarparu amlinelliad clir o'r camau a gymerir i roi Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan ar waith yn llawn, a darparu manylion am yr amserlenni cysylltiedig.
  • dylai Llywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd yn mynnu bod cynlluniau Byrddau Iechyd Lleol a'r fanyleb gwasanaeth Lefel 3 Cymru gyfan sydd ar y gweill yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth gwasanaethau amlddisgyblaethol yng Nghymru o fewn y 12 mis nesaf.
  • dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi fframwaith monitro a gwerthuso ar gyfer gwasanaethau bariatrig yng Nghymru
Ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant Cafodd casgliadau Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Ordewdra ymysg Plant eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2014. Nod yr ymchwiliad oedd ystyried pa mor effeithiol yw polisïau, rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru, sydd wedi'u hanelu at leihau lefel y gordewdra ymysg plant yng Nghymru, a chanfod meysydd lle mae angen gweithredu pellach. Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor nifer o argymhellion, gan gynnwys:
  • dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o gynnydd Byrddau Iechyd Lleol o ran bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer gwasanaethau ar bob lefel o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan.
  • dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gwasanaethau lefel 3 ar gyfer plant yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru.
  • dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi fframwaith gwerthuso ar gyfer ei strategaethau'n ymwneud â gordewdra plant, er mwyn sicrhau bod modd monitro perfformiad y strategaethau yn ôl y canlyniadau.
Ymateb Llywodraeth Cymru Yn ei hymateb ysgrifenedig i'r adroddiad, derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor, gan adrodd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r argymhellion hynny. Roedd y cynnydd hwn yn cynnwys:
  • newidiadau i'r broses asesu ar gyfer y Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan.
  • datblygu Polisi Mynediad Clinigol Cenedlaethol a Manylion Gwasanaeth Lefel Tri drafft ar gyfer Gordewdra gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer oedolion, ac ymrwymiad i ddatblygu polisi drafft tebyg ar gyfer plant.
  • bod Llywodraeth Cymru yn gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer strategaethau sy'n ymwneud â gordewdra ymysg plant fel rhan o gynllun gwaith 2014/15.
Camau Ataliol Gordewdra mewn Plentyndod Ym mis Chwefror 2015, cyhoeddodd y Grŵp Llywio Atal Gordewdra ymysg Plant ei adroddiad, Turning the Curve on Childhood Obesity in Wales. Roedd y Grŵp Llywio wedi cael ei gomisiynu gan raglen waith y Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Agored i Niwed, sef un o bedair rhaglen genedlaethol o waith a arweinir gan Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus, i ystyried atebion ar draws y gwasanaethau cyhoeddus i'r broblem gordewdra ymysg plant. Ffocws yr adroddiad oedd nodi camau ymarferol y gall gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu cymryd i atal y tuedd gordewdra ymysg plant. Nododd y Grŵp Llywio chwe thema allweddol neu 'newidiadau rydym am eu gweld':
  1. Y gall mwy o blant gerdded neu feicio i'r ysgol ac oddi yno.
  2. Amgylcheddau diogel lle y gall plant chwarae gyda'r nosau, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau.
  3. Sicrhau bod mwy o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn gwirioni ar chwaraeon am oes.
  4. Y gall pob plentyn gael gafael ar brydau bwyd iach, maethlon cytbwys bob dydd.
  5. Y gall plant a rhieni wahaniaethu rhwng bwydydd iach a llai iach, deimlo'n hyderus wrth roi cynnig ar fwydydd iach ac wrth eu paratoi, a gallu gwneud dewisiadau dietegol gwybodus.
  6. Sicrhau ei bod yn haws cael gafael ar ddewisiadau iach na dewisiadau afiach.
Gwybodaeth ychwanegol Adroddiad y Fforwm Gordewdra Cenedlaethol State of the Nation's Waistline 2015. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg