Blog Wythnosol newydd yr UE (18/01/2016)

Cyhoeddwyd 18/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Ionawr 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Croeso i'r ail yn y gyfres newydd o flogiau wythnosol yr UE gan Swyddfa Brwsel y Cynulliad. Y nod yw rhoi ciplun o'r datblygiadau allweddol ar agenda yr UE (ym Mrwsel a gartref) sydd fwyaf perthnasol i Gymru. Yr wythnos hon bydd Senedd Ewrop yn cynnal ei sesiwn lawn gyntaf o 2016, sy'n cael ei chynnal yn ôl yr arfer yn Strasbwrg. Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys dadl ar yr agenda ar gasgliadau'r Cyngor Ewropeaidd (17-18 Rhagfyr), Llywyddiaethau yr UE Lwcsembwrg a'r Iseldiroedd, ymchwiliad y Comisiwn i Wlad Pwyl (gweler isod am fwy ar hwn), a mabwysiadu adroddiadau gan gynnwys un ar sgiliau i ymladd diweithdra ymhlith pobl ifanc. Bydd nifer o gyfarfodydd pwyllgor hefyd yn cael eu cynnal yn Strasbwrg, a bydd Comisiynydd yr UE Phil Hogan yn trafod symleiddio PAC yn y Pwyllgor Amaethyddiaeth. Mae’r Cyngor Materion Cyffredinol yn cyfarfod yr wythnos hon, a bydd yn trafod yr agenda drafft ar gyfer Cyngor Ewropeaidd y mis nesaf (18-19 Chwefror), sef wrth gwrs y cyfarfod lle mae Cameron yn gobeithio sicrhau bargen diwygio'r UE ar gyfer y DU. Bydd Gweinidogion yn derbyn cyflwyniad gan Raglen Waith Llywyddiaeth yr UE yr Iseldiroedd. Bu Pwyllgor Dethol yr UE Tŷ'r Arglwyddi yn ymweld â Brwsel yr wythnos ddiwethaf er mwyn casglu tystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i ddiwygio UE y DU. Fe wnaethon nhw gwrdd ag Is-Lywydd Timmermans y Comisiwn Ewropeaidd yn breifat, Jonathan Faull, Pennaeth Tasglu'r Comisiwn Ewropeaidd ar Refferendwm UE y DU, a nifer o Aelodau o Senedd Ewrop, gan gynnwys Manfred Weber ASE, Cadeirydd y Grŵp EPP y cyfarfu'r Prif Weinidog ag ef yn ystod ei ymweliad â Bafaria bythefnos yn ôl, a Chadeiryddion y Pwyllgorau Materion Cyfansoddiadol a Thramor. Atebodd Ysgrifennydd Tramor Llywodraeth y DU Philip Hammond gwestiynau ar y trafodaethau ar ddiwygio'r UE a'r refferendwm yn Nhŷ'r Cyffredin ar 12 Ionawr, yn cynnwys cwestiwn gan gyn Brif Weinidog yr Alban Alex Salmond AS yn galw am oedi o chwe wythnos rhwng yr etholiadau datganoledig (6 Mai 2016) a Refferendwm UE y DU. Gan barhau ar y thema hon, mae nifer o flogiau newydd wedi cael eu hychwanegu at wefan UK in a Changing EU. Cynhaliodd y Comisiwn Ewropeaidd drafodaeth gyfarwyddo ar y driniaeth o Tsieina mewn ymchwiliadau gwrth-ddympio. Mae Tsieina yn destun nifer o ymchwiliadau parhaus dros honiadau o ddympio dur yng nghyd-destun yr argyfwng sy'n wynebu diwydiant dur yr UE (a Chymru). Hefyd yr wythnos ddiwethaf lansiodd y Comisiwn asesiad rhagarweiniol o ddeddfau newydd dadleuol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Pwyl ynghylch prosesau penodi i'r cyfryngau a'r farnwriaeth. Yn y Cynulliad, cymeradwyodd y Pwyllgor Menter a Busnes (mewn sesiwn breifat) yr adroddiad drafft ar ei ymchwiliad i Botensial yr Economi Forol yng Nghymru. Caiff hwn ei gyhoeddi yn y man. Yn olaf, bydd Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru yn cynnal ei dderbyniad Blwyddyn Newydd blynyddol yr wythnos hon, lle bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC yn brif siaradwr. Mewn ymateb i Argymhelliad 9 o’r adroddiad o ymchwiliad i rôl Cymru ar wneud penderfyniadau yn yr UE y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, paratowyd adroddiad gan gynrychiolwyr Cymru i Bwyllgor y Rhanbarthau (CoR) ar eu gweithgareddau diweddar ar y corff UE hwn. Gosodwyd adroddiad diweddariad y CoR gerbron y Cynulliad gan Mick Antoniw AC (a gamodd i lawr o CoR ym mis Rhagfyr 2015) a Rhodri Glyn Thomas AC yr wythnos ddiwethaf. Lincs defnyddiol: Ystafell Newyddion Europa (datganiadau i'r wasg; manylion pob cynnig newydd) Pwyllgorau Senedd Ewrop (manylion cyfarfodydd, agendâu ac ati) Senedd Ewrop y DU (cynrychiolaeth yn Llundain a Chaeredin) Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (datganiadau i'r wasg ac ati) Y DU mewn UE sy'n Newid (Prosiect ESRC i hysbysu'r cyhoedd cyn y refferendwm ar yr UE - yn cynnwys Ysgol y Gyfraith Caerdydd) Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddEurope View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg