Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru - Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 19/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Ionawr 2016 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_3843" align="alignnone" width="1011"]'Dengys y darlun hwn ton yn torri dros y wal môr Llun: o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ddydd Mercher, 20 Ionawr 2016, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod llifogydd yng Nghymru. Ar 12 Ionawr 2016, traddododd Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, ddatganiad llafar i'r Cynulliad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Daeth y datganiad yn sgil achosion o lifogydd yng ngogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig. Cyhoeddodd y Gweinidog becyn cyllid gwerth £3.3 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol, ar gyfer cynlluniau sy'n gwneud 'a real difference to recovery, restoring resilience to flooded communities and reducing flood risk'. Rhaid i'r cynlluniau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2016. Mae'r pecyn cyllid yn cynnwys £1 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ar 29 Rhagfyr 2015, ac £2.3miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ar 4 Ionawr 2016. Mae'r £2.3 miliwn yn gyllid canlyniadol o gyllideb Llywodraeth y DU. Gallwch wylio datganiad y Gweinidog ar SeneddTV: Diweddariad am y gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar Lifogydd yng Nghymru, neu ddarllen Cofnod y Trafodion. Yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu pecyn o gyllid gwerth tua £200miliwn ar gyfer ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd a achoswyd gan stormydd y gaeaf. Mae'r pecyn yn cynnwys cymorth ar gyfer cartrefi, busnesau, ac elusennau, yn ogystal â chyllid ar gyfer seilwaith rhag llifogydd. Gallwch weld manylion y pecyn yma: Llifogydd gaeaf 2015 i 2016: ymateb y Llywodraeth Rhaglen Rheoli Perygl Arfordiroedd Ym mis Rhagfyr 2014, cyhoeddodd y Gweinidog, ar y cyd â Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, fod Llywodraeth Cymru yn 'bwriadu rhoi buddsoddiad newydd o £150 miliwn mewn cynlluniau allweddol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol.' Bydd y rhaglen yn weithredol yn 2018 ac fe'i cyflwynir mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% tuag at gostau prosiect, gydag awdurdodau lleol yn cyfrannu 25%. Cefndir polisi a chyllid Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol i Gymru, a hi yn bennaf sy'n ariannu gweithgareddau arfordirol a gweithgareddau'n ymwneud â llifogydd y mae 'awdurdodau gweithredol' yn gyfrifol amdanynt, sef Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn bennaf yng Nghymru. Mae wedi buddsoddi tua £245 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn ystod y Cynulliad hwn. Yn ogystal â'r arian hwn, mae £47 miliwn pellach o gyllid Ewropeaidd. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. O dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae'n ofynnol ar i Gyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno adroddiad i'r Gweinidog ar y cynnydd o ran rhoi'r strategaeth ar waith. Mae adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru, yn nodi'r canlynol:
  • fod £165 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru rhwng mis Tachwedd 2011 a mis Mawrth 2014.
  • Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, amcangyfrifir bod lifogydd yng Nghymru er mis Tachwedd 2011 wedi achosi dros £71 miliwn o ddifrod, gan effeithio ar gymunedau, yr economi, a'r seilwaith trafnidiaeth.
  • Gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd o ran rheoli llifogydd ac erydu arfordirol. Mae hyn yn cynnwys nodi perygl o lifogydd, ymdrin â digwyddiadau pan ddigwyddant, a chodi ymwybyddiaeth gymunedol am faterion llifogydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gefndir yn Nodyn Ymchwil y Gwasanaeth Ymchwil, Llifogydd a Rheoli Per Erydu Arfordirol (PDF 231kb). Yr adolygiad o lifogydd arfordirol 2014 Ar ôl y stormydd arfordirol difrifol ym mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014, gofynnodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Alun Davies, i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiad mawr o amddiffynfeydd arfordirol. Roedd yr adolygiad mewn dau gam - yn y cyntaf, aseswyd effaith y llifogydd, ac yn yr ail, gwnaed cyfres o argymhellion gyda'r nod o wella gwytnwch Cymru i lifogydd arfordirol. Yn yr ail adroddiad, argymhellwyd gweithredu mewn chwe maes:
  • Buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl erydu arfordirol.
  • Gwybodaeth well am systemau amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.
  • Mwy o eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau asiantaethau ac awdurdodau.
  • Asesu sgiliau a chapasiti.
  • Mwy o gymorth i helpu cymunedau i wrthsefyll llifogydd yn well.
  • Datblygu a chyflwyno cynlluniau lleol ar gyfer cymunedau arfordirol.
Gallwch weld adroddiadau adolygu llawn CNC yma: Adroddiad Cam 1 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru Adroddiad Cam 2 Adolygu Llifogydd Arfordirol Cymru View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg