Dur yng Nghymru: cymorth posibl gan Lywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd 21/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Ionawr 2016 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4577" align="alignnone" width="640"]Second blog post pic Llun o Flickr gan Ben Salter.  Dan drwydded Creative Commons[/caption]   Yn dilyn ein herthygl gyntaf ar y diwydiant dur a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw, mae'r erthygl hon yn ystyried y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i weithlu'r diwydiant dur yn dilyn digwyddiadau diweddar. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gynorthwyo'r gweithlu? Mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gadeirio tasglu lefel uchel i gefnogi gweithwyr yr effeithir arnynt gan gyhoeddiad Tata Steel, a chyfarfu'r tasglu am y tro cyntaf ddoe. Gan edrych ar raglenni penodol, mae rhaglen Llywodraeth Cymru, ReAct, yn cefnogi unigolion y mae eu swyddi'n cael eu dileu a chyflogwyr sy'n cyflogi gweithwyr y cafodd eu swyddi eu dileu cyn hynny. Mae cymorth ar gyfer unigolion o dan y cynllun ReAct ar gael yn rhad ac am ddim i bobl sydd wedi cael rhybudd bod eu swyddi'n cael eu dileu, neu bobl y dilëwyd eu swyddi yn y 3 mis diwethaf, ac nad ydynt wedi bod mewn cyflogaeth barhaus am 6 wythnos neu fwy ers cael eu diswyddo. Mae'r gefnogaeth a gynigir gan ReAct yn cynnwys cymorth ym maes recriwtio a hyfforddiant, a grantiau yn ôl disgresiwn ar gyfer cymorth ychwanegol a hyfforddiant galwedigaethol. Mae dau becyn ar gael i gyflogwyr sy'n cyflogi gweithwyr y cafodd eu swyddi eu dileu'n flaenorol.
  • Cefnogaeth Recriwtio i'r Cyflogwr - mae'r gronfa hon yn rhoi cyllid i gyflogwyr sy'n penodi unigolion a gafodd eu diswyddo yn ystod y tri mis blaenorol. Mae’r pecyn hwn yn cynnig hyd at £3,000 sy’n cael ei dalu mewn pedwar rhandaliad fel cyfraniad at gostau cyflog
  • Cefnogaeth Hyfforddi'r Cyflogwr - mae hon yn gronfa ddewisol ar wahân sy'n cynnig hyd at £1,000 i gyflogwr ei ddefnyddio i dalu costau hyfforddiant sy’n berthnasol i swydd y sawl y mae wedi’i benodi. Rhaid i unrhyw gais am yr arian hwn gael ei wneud ar y cyd â Chymorth Recriwtio i Gyflogwyr.
Mae gwybodaeth fanwl am y meini prawf cymhwysedd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn ystod ymchwiliad diweddar Pwyllgor Dethol San Steffan ar Fusnes, Arloesi a Sgiliau i'r diwydiant dur yn y DU, amlygodd yr undeb llafur, Community, gynllun blaenorol Llywodraeth Cymru, ProAct, fel enghraifft o arfer da wrth sicrhau bod sgiliau'n cael eu cadw ar gyfer y diwydiant pan fydd bygythiad o gau gweithfeydd. Pecyn cymorth ariannol oedd ProAct, ac roedd ar gael yn y dirywiad economaidd i fusnesau a oedd wedi cyflwyno oriau gweithio byr ac yn wynebu'r bygythiad o orfod dileu swyddi. Yn fras, roedd yn cynnig:
  • Hyd at £2,000 yr unigolyn tuag at gostau hyfforddi
  • Cymhorthdal ​​cyflog o hyd at £2,000 (ar gyfradd o £50 y dydd) fesul unigolyn tra bo'n dilyn yr hyfforddiant hwn (hyd at 12 mis).
Yn yr Alban, cyflwynodd Llywodraeth yr Alban becyn tebyg yn ddiweddar lle y bydd staff yn cael tua 60 y cant o'u cyflog gros ac yn derbyn hyfforddiant uwch i sicrhau y gall gweithfeydd ailagor yn gyflym pan fydd y gwaith cynhyrchu'n ailddechrau. Beth ellid ei wneud i leihau swm yr ardrethi busnes a delir gan y diwydiant dur? Mae ardrethi busnes wedi'u datganoli'n llawn i Gymru, a bu galwadau i eithrio offer a pheiriannau o ardrethi busnes. O ran y diwydiant dur , byddai cymorth yn y maes hwn yn golygu na fyddai busnesau'n gorfod talu ardrethi busnes ar isadeiledd fel ffwrneisi chwyth, ffyrnau golosg, tyrbinau a generaduron. Mae rhai o'r farn bod y trefniant presennol yn annog cwmnïau i beidio â buddsoddi, ac mae UK Steel wedi tynnu sylw at y ffaith bod cwmnïau yn y DU yn talu rhwng pump a 10 gwaith yn fwy mewn ardrethi busnes na'u cystadleuwyr yn yr UE. Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi datgan bod  Llywodraeth Cymru, gan gofio'r ystyriaethau cymorth gwladwriaethol sydd ynghlwm wrth gefnogi diwydiant penodol, wedi bod yn ystyried eithrio offer a pheiriannau wrth gyfrifo ardrethi busnes ar draws pob sector. Mae'r Gweinidog yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio tua £25 miliwn i £30 miliwn y flwyddyn ariannol. Agwedd arall ar bolisi ardrethi busnes sy'n cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru yw sicrhau bod yr agwedd gyffredinol at brisio yn ystyried yr heriau presennol sy'n wynebu'r diwydiant dur. Mae hyn yn cael ei ddatblygu trwy drafodaethau gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sef adran Llywodraeth y DU sy'n asesu'r ardrethi busnes y mae cwmnïau'n atebol i'w talu yng Nghymru a Lloegr. Beth ellir ei wneud o safbwynt caffael i helpu'r diwydiant dur cartref? Mae cymorth gyda chaffael yn faes allweddol arall lle y mae'r diwydiant dur yn gofyn am gymorth. Mae gan Lywodraeth Cymru ddatganiad polisi caffael ar gyfer Cymru, sy'n nodi'r arferion caffael a'r camau gweithredu penodol y mae'n ofynnol i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru eu cymryd. Mae'n ystyried bod ei pholisïau caffael yn cefnogi egwyddorion y Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydeinig. Mae'r ystadegau diweddaraf ar gaffael yn dangos bod 55% o wariant y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd ar gwmnïau o Gymru. Yn ei datganiad yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, nododd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth fod Llywodraeth Cymru yn adolygu dogfennau contractau enghreifftiol ar gyfer prosiectau trafnidiaeth mawr, i sicrhau eu bod yn bodloni amcanion y Siarter ar gyfer Dur Cynaliadwy Prydeinig. Mae Llywodraeth Cymru yn galw am Ardal Fenter ym Mhort Talbot. Beth yw Ardal Fenter, a beth allai ei gyflawni? Mae Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys gyda chynnig i greu Ardal Fenter ychwanegol o gwmpas Gwaith Dur Port Talbot. Mae 7 Ardal Fenter yng Nghymru ar hyn o bryd, yn canolbwyntio ar sectorau busnes allweddol, â'r nod o greu swyddi newydd a thwf cynaliadwy. Mae'r Gweinidog o'r farn y byddai angen Lwfansau Cyfalaf Uwch er mwyn sicrhau bod yr Ardal Fenter yn cael yr effaith fwyaf posibl, ac mae wedi cynnwys hyn yn rhan o'r cynnig i Lywodraeth y DU. Mae'r rhain wedi'u hanelu'n benodol at Ardaloedd Menter sy'n cefnogi gweithgynhyrchu, ac maent yn galluogi busnesau i hawlio lwfans blwyddyn gyntaf o 100% ar gyfer costau cyfalaf buddsoddiad mewn peiriannau ac offer a wneir cyn 31 Mawrth 2020. Yn y gorffennol hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal cynlluniau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yn y 7 ardal fenter sydd eisoes yn bodoli.  Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar fusnesau yn yr ardal sydd newydd gael eu sefydlu neu sy'n cynyddu maint eu gweithlu. Awgrymwyd hefyd y gellid addasu rhai enghreifftiau eraill o bolisïau datblygu economaidd i ymdrin â'r sefyllfa ym Mhort Talbot. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Newport Unlimited a sefydlwyd yn 2003 yn dilyn y dirywiad mewn diwydiant trwm yn yr ardal, a'r gwaith a wnaed yn dilyn cau purfa olew Murco yn Sir Benfro. Pa gymorth sy'n cael ei ddarparu ym maes ymchwil a datblygu a gwelliannau amgylcheddol? Mewn briff diweddar gan UK Steel, crybwyllwyd cymorth cyllid uniongyrchol ar gyfer y sector ym maes ymchwil a datblygu a gwelliannau amgylcheddol. Byddai'n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae enghreifftiau o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Partneriaeth Ymchwil ac Arloesi Diwydiant Dur (STRIP), sydd â'r nod o roi hwb i sgiliau'r diwydiant dur yng Nghymru a'i gadwyn gyflenwi, a'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC). Mae'r Gweinidog hefyd wedi datgan bod Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i gyfleoedd i wella a moderneiddio'r sector dur trwy ddefnyddio'r Ganolfan Gynghori ynghylch Buddsoddiadau Ewropeaidd a Chronfa Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddiadau Strategol. Byddwn yn dychwelyd at y maes hwn pan fydd datblygiadau'n digwydd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg