Disgwylir i ganlyniadau’r broses o gategoreiddio ysgolion gael eu cyhoeddi yfory (28 Ionawr 2016)

Cyhoeddwyd 27/01/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Ionawr 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1590" align="alignnone" width="640"]Llun o bensiliau lliw Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Yfory (28 Ionawr 2016), bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canlyniadau diweddaraf y system o gategoreiddio ysgolion yn seiliedig ar eu perfformiad a’u gallu i wella.

O dan y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, rhennir pob ysgol gynradd ac uwchradd yng Nghymru yn ôl ‘categori cefnogaeth’ a chanddo god lliw fel a ganlyn:

  • Gwyrdd: yw’r ysgolion gorau
  • Melyn: yw’r ysgolion da
  • Oren: yw’r ysgolion sydd angen gwella
  • Coch: yw’r ysgolion sydd angen y gwelliant mwyaf

Gwnaethom ysgrifennu erthygl blog pan gafodd y system o gategoreiddio ysgolion ei chyflwyno am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2015 ac ym mis Medi 2014 pan gyhoeddwyd y byddai’r system hon yn disodli’r system fandio flaenorol ar gyfer ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud mai prif bwrpas y system hon yw nodi pa ysgolion sydd angen cymorth fwyaf ac nid labelu neu greu tablau cynghrair. Un o’r negeseuon yn codi o adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o’r system addysg yng Nghymru (Pdf 3.75MB – Saesneg yn unig) ac adolygiad yr Athro Graham Donaldson (pdf 1.58MB) o’r cwricwlwm yng Nghymru oedd y dylai asesu disgyblion a mesur perfformiad ysgolion ddigwydd er mwyn llywio dysgu ac addysgu, a gwella ysgolion, yn hytrach nag at ddibenion atebolrwydd a’r gallu i wneud cymariaethau.

Mae tri cham i’r broses o gategoreiddio ysgolion, sydd, yn y bôn, fel a ganlyn: dod i farn ar ddata perfformiad ysgol a hunan-werthuso, herio a thrafod rhwng yr ysgol a’r consortia rhanbarthol, gan arwain at farn gyffredinol a phenderfynu ar god lliw. Rhagor o fanylder:

Cam 1

Mae cam 1 yn defnyddio data ar berfformiad a safonau ysgol i ffurfio barn rhwng 1 a 4. Mae’r data hwn yn bennaf wedi’i seilio ar asesiadau gan athrawon o gyrhaeddiad disgyblion mewn ysgolion cynradd a chyrhaeddiad yn yr arholiadau TGAU mewn ysgolion uwchradd. Mae hyn yn digwydd dros gyfnod o dair blynedd i sicrhau bod barn yn cael ei ffurfio yn yr hirdymor gymaint â phosibl ac i ystyried pwy sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim er mwyn nodi’r cyd-destun economaidd-gymdeithasol.

Cam 2

Mae cam 2 yn cynnig cyfle i ysgolion hunan-werthuso ac mae’n seiliedig ar allu’r ysgol i wella ei hun. Mae’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu. Mae Cynghorwyr Herio y consortia rhanbarthol, sydd mewn gwirionedd yn cyflawni rôl flaenorol swyddogaethau gwella ysgolion awdurdodau lleol unigol, yn archwilio sut mae hunan-werthusiad ysgolion yn cyfateb i’r data perfformiad o dan Gam 1. Y nod yw sicrhau bod y broses hon yn gadarn. Canlyniad Cam 2 fydd dyfarniad rhwng A a D.

Cam 3

O dan Gam 3, bydd y ddau ddyfarniad a gafwyd o dan y ddau gam cyntaf yn arwain at ddyfarniad cyffredinol a chategori ar gyfer pob ysgol yn seiliedig ar bedwar lliw: Gwyrdd, Melyn, Oren a Choch. Bydd y dyfarniadau hyn yn sbarduno rhaglen wedi’i theilwra a fydd yn cynnwys cymorth, her ac ymyrraeth, y bydd angen cytuno arni rhwng yr awdurdod lleol a’r consortia rhanbarthol.

Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn credu mai model cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer categoreiddio ysgolion yw’r dull mwyaf cywir ac effeithiol a fu erioed o reoli ansawdd mewn system ysgol. Dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 13 Ionawr 2016:

'We have a system of categorisation around our schools now that I’m very proud of, and that I think is by far the most intelligent accountability system for parents, in particular, and for the wider public, around how our schools are doing, that there has ever been, anywhere in Britain. It’s a co-production between the professionals in the schools themselves, the local authority and the improvement services at a regional level. It’s rigorous, it’s intensive and, as you know, it rolls on year after year.'

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys y metrigau data a ddefnyddiwyd ar gyfer y data perfformiad yn ystod Cam 1, a nifer o ddogfennau eraill yn egluro’r modelau categoreiddio mewn ateb i rai cwestiynau cyffredin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd canlyniadau’r system gategoreiddio ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Fy Ysgol Leol ddydd Iau 28 Ionawr 2016.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg