Cynigion i greu chwech o ardaloedd morol gwarchodedig newydd yng Nghymru – ymgynghoriad yn mynd rhagddo

Cyhoeddwyd 02/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Chwefror 2016 Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4624" align="alignnone" width="604"]Llamidyddion yn Swnt Dewi Delwedd gan Wikimedia Commons. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wrthi’n ymgynghori ynghylch cynigion i greu chwech o ardaloedd morol gwarchodedig newydd yng Nghymru. Mae’r cynigion yn cynnwys creu tair o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) newydd ac ymestyn tair o Ardaloedd Gwarchodedig Arbennig (AGA) a grëwyd eisoes. Mae’r dogfennau ymgynghori llawn i’w gweld ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma:  Ymgynghoriad i warchod ardaloedd môr pwysig Daw’r ymgynghoriad i ben ar 19 Ebrill 2016. Beth sy’n cael ei gynnig? Cynlluniwyd yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) arfaethedig i ddiogelu llamidyddion yn nyfroedd Cymru. Y tair ACA yw Gogledd Môn Forol, Gorllewin Cymru Forol, a Dynesfeydd Môr Hafren, sy’n cynnwys ardal o dros 16,000km2 at ei gilydd. Mae ACA Dynesfeydd Môr Hafren yn cael ei rheoli ar y cyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, Natural England a Chydbwyllgor Cadwraeth Natur. Gallwch ddarllen am yr ymgynghoriad yma: Bristol Channel Approaches Selection Document . Caiff llamidyddion eu diogelu o dan gyfraith y DU a’r UE. Ym mis Hydref 2014, cafodd y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eu rhybuddio gan y Comisiwn Ewropeaidd nad oeddent wedi dynodi digon o safleoedd i warchod llamidyddion yn nyfroedd y DU. O ganlyniad, cynhaliwyd arolwg o safleoedd addas drwy’r DU a chyflwynwyd y cynigion presennol i greu tri safle yn nyfroedd Cymru. Mae’r tair Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) wedi’u cynllunio i ddiogelu rhywogaeth o adar y môr sydd dan fygythiad, yn enwedig adar mudol. Estyniad i safle a gaiff ei warchod yn barod ar Ynys Môn yw’r gyntaf, a hynny i ddiogelu gwenoliaid y môr a’u safleoedd bwydo. Ym Mae Gogledd Ceredigion y mae’r ail, a hynny i ddiogelu poblogaeth y trochydd gyddf-goch dros fisoedd y gaeaf. Estyniad i’r safle presennol ar Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm yw’r drydedd, i ddiogelu adar drycin Manaw ac adar y pâl. Mae Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm eisoes yn diogelu poblogaethau adar drycin Manaw, gwylanod cefnddu llai ac adar y pâl. Byddai’r AGA newydd yn cynnwys yr ynysoedd eu hunain a moroedd sy’n ymestyn o arfordir Penfro. Mae’r chwe ardal arfaethedig i’w gweld ar y map isod gan Gyfoeth Naturiol Cymru: [caption id="attachment_4625" align="alignnone" width="682"]Map o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig Cymru Map o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig Cymru (delwedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru).[/caption] Os cânt eu diogelu, bydd yr ardaloedd newydd hyn yn ychwanegu at rwydwaith Natura 2000 , sy’n diogelu safleoedd bridio a gorffwys rhywogaethau prin a rhywogaethau dan fygythiad, yn ogystal â mathau o gynefinoedd prin Ewrop, sydd eisoes yn cynnwys chwech y cant o diriogaeth forol yr UE ac 18 y cant o’i thir mewn dros 27,000 o safleoedd dynodedig. Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae gan Gymru eisoes ugain o safleoedd yn y môr sy’n rhan o’r rhwydwaith hwn, rhwng 1a12 o fôr-filltiroedd o arfordir Cymru, sy’n cynnwys bron 40 y cant o foroedd tiriogaethol Cymru, yn ogystal â nifer o safleoedd ar y tir. Beth fydd yn digwydd nesaf? Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen i ddynodi’r safleoedd hyn, neu rai ohonynt, bydd y broses o ddynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ffurfiol ychydig yn wahanol. Yn achos Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno’r Ardaloedd arfaethedig gerbron y Comisiwn Ewropeaidd. Os cânt eu derbyn gan y Comisiwn, fel ‘Safle o Bwysigrwydd Cymunedol’, bydd gan Weinidogion Cymru hyd at chwe blynedd i ddynodi’r safleoedd yn ffurfiol yn Safleoedd Cadwraeth Arbennig a rhoi’r holl fesurau rheoli angenrheidiol ar waith. Yn achos Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, Gweinidogion Cymru sy’n cael penderfynu, a chaiff y Comisiwn wybod bod Ardal Gwarchodaeth Arbennig wedi’i chreu wedi iddi gael ei dynodi’n ffurfiol. O gofio y daw’r ymgynghoriad i ben fis Ebrill 2016, a chan dybio na chaiff dim, neu fawr ddim, gwelliannau eu cyflwyno, gellid dynodi’r Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig yn ffurfiol erbyn haf 2016, a chyflwyno’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig gerbron y Comisiwn tua’r un pryd. Gallai’r Comisiwn oedi cyn cymeradwyo’r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig os bydd angen addasu’r cynigion cyn y bydd yn fodlon datgan bod yr Ardaloedd dan sylw’n Safleoedd o Bwysigrwydd Cymunedol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg