Bil yr Amgylchedd (Cymru): pleidlais y Cynulliad yn paratoi'r ffordd i'r Ddeddf

Cyhoeddwyd 03/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Chwefror 2016 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4631" align="alignnone" width="640"]Glöyn byw yn eistedd ar fwyar duon Llun o Flickr gan Heidi. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Pleidleisiodd y Cynulliad ar 2 Chwefror 2016 i wneud Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn gyfraith. Er na fydd y Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol er mwyn dod yn ddeddf tan fis Mawrth 2016, mae'r bleidlais yn y Cyfarfod Llawn yn nodi cam olaf y Bil drwy'r Cynulliad. Dechreuodd y Bil ei daith drwy'r Cynulliad ym mis Mai ac ers hynny mae wedi bod yn destun craffu manwl gan Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yng Nghymru. Mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r Bil ers iddo gael ei gyflwyno. Cytunwyd ar y set derfynol o welliannau yn ystod cyfnod 3 y Bil, a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2016. Cyfnod 3 y Bil yw'r cyfle cyntaf i'r Cynulliad cyfan ddiwygio a thrafod y Bil. Cynhaliwyd y cyfnodau blaenorol, fel yr amlinellwyd yn ein cofnodion blog eraill am y Bil, yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn dilyn ein cofnod blog am y newidiadau allweddol yng nghyfnod 2 y Bil, mae'r cofnod hwn yn ystyried y gwelliannau ychwanegol a gyflwynwyd yn ystod cyfnod 3. Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 3
  • Mae adran 4 y Bil yn amlinellu'r egwyddorion rheoli cyfoeth naturiol cynaliadwy y bydd angen i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill eu hystyried. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys gofyniad i atal niwed sylweddol i ecosystemau yn y Bil a gofyniad i ystyried strwythur a gweithrediad ecosystemau, yn ogystal â'u cyflwr.
  • Mae adran 6 y Bil yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid cryfhau'r gofynion adrodd ar gyfer y ddyletswydd hon. Bydd yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru. Wrth ymgymryd â'u dyletswydd, bydd hefyd angen iddynt roi sylw i adroddiadau eraill a gofynion sydd yn y Bil. Er enghraifft, wrth gyflawni'r ddyletswydd bioamrywiaeth, bydd angen i awdurdodau roi sylw i'r rhestr o rywogaethau ac organebau o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru, a grëwyd o dan adran 7 y Bil.
  • Mae adran 8 y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru lunio Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol yng Nghymru. Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid cynnwys mwy o fanylion ar wyneb y Bil ynghylch yr hyn a ddylai fod yn yr adroddiad.
  • Cafodd diffiniad o'r term bioamrywiaeth ei gynnwys yn y Bil.
  • Mewn perthynas â newid hinsawdd, cytunodd yr Aelodau y dylid cynnwys y flwyddyn 2020 fel targed interim ychwanegol ar allyriadau carbon.
  • Hefyd, pleidleisiodd yr Aelodau o blaid gwelliant a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried cytundebau rhyngwladol ar fesurau i gyfyngu ar y cynnydd mewn tymereddau byd eang ar gyfartaledd wrth newid targedau allyriadau 2050, targedau allyriadau interim neu osod cyllideb garbon.
  Mae adran 57 y Bil yn rhoi'r pwerau i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i werthwyr roi yr enillion o unrhyw dâl am fagiau siopa yng Nghymru i fenter elusennol. Cytunodd yr Aelodau y dylai'r enillion o unrhyw dâl newydd am fagiau siopa fynd yn y lle cyntaf i elusennau yng Nghymru sy'n gwarchod neu'n gwella'r amgylchedd. Fodd bynnag, roeddent hefyd yn cytuno y gallai siopau oedd wedi sefydlu perthynas eisoes â math gwahanol o elusen, fel elusen iechyd, ofyn i barhau i roi'r enillion i'r elusen hon yn hytrach nag i achos amgylcheddol newydd. Newidiadau na chytunwyd arnynt Ni chytunodd mwyafrif o Aelodau'r Cynulliad ar rai o'r newidiadau yr oedd Aelodau eisiau eu gwneud i'r Bil yng Nghyfnod 3, ac felly ni fyddant yn cael eu cynnwys yn y Ddeddf. Roedd y newidiadau a gyflwynwyd ond na chytunwyd arnynt yn cynnwys:
  • Rhoi diffiniad o ecosystemau ar wyneb y Bil;
  • Roedd yn cynnwys cyfeiriad at nodweddion tirweddau yn egwyddorion rheoli cyfoeth naturiol cynaliadwy yn Adran 4 y Bil;
  • Gofynion ychwanegol i gyhoeddi ymatebion i ymgynghoriadau a gwybodaeth a ddefnyddiwyd wrth ddatblygu Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol;
  • Roedd yn cynnwys gofyniad i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar gynnydd yn erbyn targedau allyriadau carbon a chyllidebau carbon;
  • Gosod targed allyriadau interim 2020 40 y cant yn is na'r llinell sylfaen ar wyneb y Bil;
  • Gofyniad i ystyried effaith cynigion cyllideb Gweinidogion Cymru ar allyriadau carbon; a
  • Gwelliant i'r diffiniad o wastraff bwyd yn adran 66 y Bil.
View this post in English Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg