Gwaith athrawon cyflenwi yng Nghymru: Dadl y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 05/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

5 Chwefror 2016 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma llun Siambr Wythnos nesaf (dydd Mercher 10 Chwefror 2016), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar waith athrawon cyflenwi (pdf 1.34MB). Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi yng Nghymru, gan ddechrau ym mis Mawrth a chyhoeddi ei adroddiad ym mis Rhagfyr 2015. Roedd hyn yn adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru (pdf 814KB) ac Estyn (pdf 695KB) ynglŷn ag absenoldeb athrawon, oedd yn amcangyfrif bod ychydig yn llai na 10 y cant o bob gwers yn cael eu cyflwyno gan staff heblaw athro arfer y dosbarth. Caiff adroddiad y Pwyllgor ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2016. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb (pdf 399KB) ar 3 Chwefror 2016. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan randdeiliaid amrywiol. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor arolwg gyda phlant, pobl ifanc a rhieni (pdf 1.02MB). Roedd y prif faterion a nodwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys:
  • defnyddio athrawon cyflenwi o ganlyniad i salwch athrawon a materion cysylltiedig o ran rheoli absenoldeb athrawon parhaol;
  • cymorth i Athrawon Newydd Gymhwyso sy'n gweithio fel staff cyflenwi;
  • yr effaith bosibl ar ddeilliannau disgyblion o ganlyniad i ddefnyddio athrawon cyflenwi;
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) a rheoli perfformiad;
  • rôl awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o ran goruchwylio athrawon cyflenwi;
  • asiantaethau cyflenwi a sicrhau ansawdd;
  • prinder athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael hyfforddiant digonol.
Y prif argymhelliad Yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor yn cytuno y gellid mynd i'r afael â llawer o'r materion hyn drwy drefniadau agosach rhwng cyflogwyr athrawon cyflenwi a'r rheini sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg ysgol. Felly, roedd prif argymhelliad y Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ystod o opsiynau ar gyfer cyflogi athrawon cyflenwi, gan gynnwys trefniadau clwstwr a weithredir gan awdurdodau lleol neu drwy gorff cenedlaethol. Gwnaeth y Pwyllgor 22 argymhelliad i gyd. Ymateb y Gweinidog Cyhoeddwyd ymateb Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, ar 3 Chwefror 2016. Derbyniodd yr holl argymhellion, naill ai'n gyfan neu'n rhannol, a dywedodd ei fod yn cefnogi bwriad y rhai y mae angen eu hystyried ymhellach. Roedd y Gweinidog yn derbyn y prif argymhelliad mewn egwyddor ac yn cefnogi cyfeiriad yr argymhelliad. Mae'n dweud bod hyn yn cyd-fynd ag ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ymchwilio i fodelau darparu amgen ar draws y gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad i barhau i ymchwilio i opsiynau ynghylch modelau ar gyfer darparu athrawon cyflenwi. Canllawiau'r Llywodraeth Wrth i'r ymchwiliad ddod i gasgliad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y canllawiau Rheoli presenoldeb gweithlu ysgolion yn effeithiol (pdf 548KB) (Gorffennaf 2015). Ystyriwyd y canllawiau diwygiedig yn ystod trafodaeth y Pwyllgor, ynghyd â nifer o argymhellion y cyfeirir atynt yn y canllawiau newydd. Yn arbennig, cytunodd y Pwyllgor y gallai adolygiad thematig pellach gan Estyn werthuso effeithiolrwydd y canllawiau. Roedd dau o'r meysydd yn yr argymhellion yn ymwneud â DPP ac absenoldeb oherwydd salwch: DPP a Rheoli Perfformiad Un o'r prif feysydd o bryder oedd yn codi o'r dystiolaeth oedd sut gall athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Gwnaeth y Pwyllgor chwe argymhelliad yn y maes hwn. Clywodd y Pwyllgor ei bod yn anodd i athrawon cyflenwi fanteisio ar DPP ac y gall cost fod yn broblem. Mae'n bosibl bod yn rhaid i athrawon cyflenwi dalu am eu DPP a cholli diwrnod o dâl er mwyn cael hyfforddiant. Roedd yn amlwg nad yw'r DPP sydd ar gael i athrawon cyflenwi o reidrwydd yn adlewyrchu blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru. Mae angen Cynlluniau Datblygu Ysgol i amlinellu darpariaeth ysgolion ar gyfer mynd i'r afael â dysgu proffesiynol i staff, gan gynnwys y rheini sydd yn yr ysgol dros dro. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor o'r farn bod y rhain yn canolbwyntio'n amlwg ar staff parhaol yr ysgol yn hytrach nag athrawon cyflenwi, yn enwedig y rheini ar gontractau dyddiol tymor byr. Hefyd, nid oedd yn amlwg sut bydd y Fargen Newydd ar gyfer y Gweithlu Addysg yn berthnasol i athrawon cyflenwi. Ymysg yr argymhellion mewn perthynas â DPP, roedd y Pwyllgor yn argymell y dylid ymchwilio i DPP gorfodol ar gyfer athrawon, ac y dylai Llywodraeth Cymru egluro sut gellir defnyddio Cynlluniau Datblygu Ysgol a'r Fargen Newydd i gefnogi anghenion DPP athrawon cyflenwi. Hefyd, clywodd y Pwyllgor mai prin yw'r trefniadau rheoli perfformiad sydd ar waith ar gyfer athrawon cyflenwi yn aml. Y broses ddeddfwriaethol sy'n sail i'r system yw'r rheswm am lawer o'r anhawster, gan bennu bod yn rhaid i'r ysgol gynnal y broses rheoli perfformiad ar gyfer athro a gyflogir am gyfnod penodol o un tymor ysgol neu fwy. Er y gall asiantaethau ofyn am adborth a darparu adborth am yr athrawon y maent yn eu cyflogi, clywodd y Pwyllgor fod rheoli perfformiad yn aml wedi'i gyfyngu i'r athrawon hynny sy'n tanberfformio Absenoldeb oherwydd salwch Mae'r Gofrestr Athrawon Cymwys yng Nghymru, a gynhelir gan Gyngor y Gweithlu Addysg, yn cynnwys bron 5,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru (pdf 295KB), gyda'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gweithio ar hyn o bryd. Canfu arolwg gan Gyngor y Gweithlu Addysg mai'r rheswm mwyaf cyffredin ysgolion dros gyflogi athrawon cyflenwi oedd absenoldeb oherwydd salwch. Fodd bynnag, canfu'r Pwyllgor fod diffyg data ynghylch absenoldeb athrawon yn gyffredinol yng Nghymru. Un bwriad sydd gan ganllawiau newydd Llywodraeth Cymru yw cynnig data mwy cyson a chymaradwy. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai hyn helpu i ddeall y rhesymau dros absenoldeb athrawon, a all helpu wedyn i leihau absenoldeb oherwydd salwch a'r angen am athrawon cyflenwi. Roedd argymhellion eraill y Pwyllgor yn ymwneud â'r canlynol: Effaith ar ddeilliannau a chyfrwng Cymraeg – prin oedd y dystiolaeth bendant bod defnyddio athrawon cyflenwi yn cael effaith andwyol gyffredinol ar gyrhaeddiad disgyblion, ond roedd 80 y cant o'r bobl ifanc yn arolwg y Pwyllgor yn credu eu bod wedi dysgu llai gydag athro cyflenwi nag yr oeddent gyda'u athro dosbarth arferol. Hefyd, mae'n bosibl bod mwy o athrawon cyflenwi yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd dan anfantais. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth anecdotaidd hefyd am y posibilrwydd o ddiffyg athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg. Mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymchwil yn y maes hwn. Athrawon Newydd Gymhwyso – clywodd y Pwyllgor mai dim ond 3.8 y cant o athrawon newydd gymhwyso oedd wedi cychwyn ac wedi cwblhau eu cyfnod cynefino wrth weithio fel athrawon cyflenwi yn unig, ac y gallai fod yn i athrawon newydd gymhwyso wneud pob math o waith gofynnol i ddangos eu bod yn bodloni Safonau Athrawon wrth eu Gwaith. Athrawon lleol a chonsortia - clywodd y Pwyllgor hefyd fod y trefniadau presennol awdurdodau lleol a chonsortia lleol ar gyfer athrawon cyflenwi yn aneffeithiol. Asiantaethau - argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a fyddai sefydlu marc ansawdd Cymru yn gwella'r drefn sicrhau ansawdd. Cafodd Marc Ansawdd blaenorol Llywodraeth Cymru ei atal yn 2011. Yn dilyn adolygiad, canfuwyd bod cyfyngiadau ar allu'r cynllun i ddylanwadu ar arferion recrwitio a rheoli pob asiantaeth gyflenwi. Bydd y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor yn cael ei chynnal oddeutu 4.00pm ddydd Mercher 10 Chwefror 2016. Gallwch ei gwylio ar SeneddTV. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg