Blog Wythnosol newydd yr UE (08/02/2016)

Cyhoeddwyd 08/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

08 Chwefror 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Nod yr e-bost wythnosol yw rhoi ciplun o’r datblygiadau allweddol ar agenda’r UE (ym Mrwsel a gartref) sydd fwyaf perthnasol i Gymru. Y prif newyddion, wrth gwrs, yn ystod yr wythnos diwethaf oedd cyhoeddi’r testunau trafod drafft ar gyfer ailnegodi perthynas y DU â’r UE. Mae adran 2.3 isod yn cynnwys nifer o linciau i ddadleuon, blogiau a straeon newyddion ar y pwnc hwn. Mae trafodaethau ar y testunau yn parhau, drwy gyfarfodydd ‘Sherpa’ (hynny yw, Llysgenhadon Aelod-wladwriaethau’r UE) yn ogystal â chyfarfodydd dwyochrog rhwng y Prif Weinidog a Phenaethiaid Gwladol a Phenaethiaid Llywodraethau eraill. Pen draw’r daith fydd cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym Mrwsel yr wythnos nesaf (18-19 Chwefror). Mae’r suon ym Mrwsel a phrifddinasoedd yr UE yn awgrymu bod gobaith o gael cytundeb yn Uwchgynhadledd yr UE. Bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod (mewn sesiwn breifat) goblygiadau’r datblygiadau hyn i’w ymchwiliad i agenda ddiwygio’r DU o ran yr EU yn ei gyfarfod y prynhawn yma. Mae’n hanner tymor ym Mrwsel yr wythnos hon, heb unrhyw fusnes ffurfiol yn Senedd Ewrop, ac ar wahân i’r cyfarfodydd ‘Sherpa’ y cyfeiriwyd atynt eisoes, cynhelir cyfarfod o Weinidogion Materion Economaidd ac Ariannol yn y Cyngor. Mae Pwyllgor y Rhanbarthau yn cynnal ei sesiwn lawn yr wythnos hon, a bydd Rhodri Glyn Thomas AC ym Mrwsel ar gyfer ei sesiwn lawn olaf cyn iddo roi’r gorau i’w rôl pan fydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu (o 6 Ebrill ymlaen). Ddydd Llun nesaf, bydd DG Grow (y Cyfarwyddwr Cyffredinol yw Lowri Evans) yn trefnu Cynhadledd Lefel Uchel ar Ddiwydiannau Ynni Dwys yn dilyn cyfarfod y Cyngor Cystadleurwydd Eithriadol ar y Diwydiant Dur a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2015. Bydd Anna Soubry, Gweinidog Gwladol y DU dros Fusnes Bach, Diwydiant a Menter yn gwneud rhai sylwadau i gloi’r gynhadledd. Bydd David Rees AC yn bresennol yn y gynhadledd ac yn cynnal cyfarfodydd eraill ym Mrwsel yn ystod ei ymweliad dros ddau ddiwrnod. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ymgynghoriadau ar y gwerthusiad ex-post o Gronfeydd Strwythurol yr UE ar gyfer 2007-2013, gyda dyddiad cau o 27 Ebrill ar gyfer ymatebion. Linciau defnyddiol: Ystafell Newyddion Europa (datganiadau i’r wasg; manylion pob cynnig newydd) Pwyllgorau Senedd Ewrop (manylion cyfarfodydd, agendâu ac ati) Senedd Ewrop y DU (cynrychiolaeth yn Llundain a Chaeredin) Swyddfa’r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru Cyngor yr Undeb Ewropeaidd (datganiadau i’r wasg ac ati) Y DU mewn UE sy’n Newid (Prosiect ESRC i hysbysu’r cyhoedd cyn y refferendwm ar yr UE - yn cynnwys Ysgol y Gyfraith Caerdydd) Dilynwch ni ar Twitter: @SeneddEurope View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg