Sut mae incwm ffermydd wedi newid yng Nghymru dros y deng mlynedd diwethaf?

Cyhoeddwyd 10/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Chwefror 2016 Erthygl gan Rachel Prior, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4649" align="alignnone" width="640"]Llun o ddefaid Llun oddi ar Flickr gan walkinguphills. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ffigurau incwm ffermydd yng Nghymru ar gyfer 2014-15 yn ddiweddar. Gallwch weld y ffigurau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru yma: incwm ffermydd, 2014-5 Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae lefelau incwm ffermydd llaeth yng Nghymru wedi lleihau ddeg y cant, i £70,200, ac incwm ffermydd gwartheg a defaid ar lawr gwlad wedi lleihau bedwar y cant, i £27,800. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd o 20 y cant yn achos ffermydd gwartheg a defaid mewn 'Ardaloedd Llai Ffafriol' (ALFf), i £23,300. Mae hyn yn golygu bod y cymedr cyffredinol ar draws pob math o fferm wedi gweld gostyngiad bach o un y cant, i £29,400, o'i gymharu â 2013-14. Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio Incwm Busnes Fferm fel yr enillion i'r llafurlu di-dâl (ffermwyr, eu priod, partneriaid nad ydynt yn brif bartneriaid, gweithwyr teuluol ac eraill sydd â buddiant entrepreneuraidd yn y busnes fferm) ac i'w holl gyfalaf a fuddsoddwyd yn y busnes fferm gan gynnwys adeiladau a thir fferm. Felly mae Incwm Busnes Fferm yn cyfateb yn fras i Elw Net, mewn cyd-destun ffermio. Mae Incwm Busnes Fferm yn ystyried yr holl gymorthdaliadau, e.e. taliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin, unrhyw elw o ganlyniad i arallgyfeirio'r tir fferm, a chostau megis tanwydd, rhent, bwyd anifeiliaid a llafur cyflogedig. Mae Llywodraeth Cymru yn ei ddefnyddio fel dangosydd allweddol o gyflwr y sector ffermio. Mae'r graff isod yn dangos yr Incwm Busnes Fferm cymedrig ar gyfer nifer o sectorau ffermio yng Nghymru ers 2003, wedi'i addasu i brisiau heddiw.   welsh farm income graph Data o adroddiadau Llywodraeth Cymru ar incwm ffermydd, gan gynnwys datganiadau'r gorffennol. Wedi'u haddasu i brisiau heddiw yn seiliedig ar datchwyddwyr Cynnyrch Mewnwladol Crynswth Trysorlys y DU. Er bod Incwm Busnes Fferm ffermwyr llaeth wedi gostwng ers y llynedd, y duedd gyffredinol dros y 12 mlynedd diwethaf fu cynnydd cythryblus â'r ffigurau'n amrywio'n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn. Mae lefelau incwm ffermydd llaeth wedi codi tua £35,000 ar gyfartaledd yn ystod y degawd diwethaf (mewn termau real, prisiau 2014-15). Mae'r darlun yn wahanol yn achos ffermwyr gwartheg a defaid ar lawr gwlad ac mewn Ardaloedd Llai Ffafriol (Term gan yr UE yw Ardaloedd Llai Ffafriol, ac fe'i defnyddir i ddisgrifio tir sy'n anffafriol i ffermio am amrywiaeth o resymau daearyddol fel tywydd neu bridd gwael, uchder y tir neu'r ffaith ei fod yn fynyddig), ac ni welwyd fawr o newid yn gyffredinol - gostyngiad bychan i ffermwyr mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, a chynnydd bychan i ffermwyr ar lawr gwlad. Roedd y darlun eto yn newid rhywfaint o flwyddyn i flwyddyn, gyda blynyddoedd gwell yn 2009-10 a 2011-12 ar gyfer y ddau grŵp. Wrth edrych ar y cyfartaledd ar gyfer pob math o fferm yn ystod y 10-12 mlynedd diwethaf, gwelir ychydig o flynyddoedd ffafriol rhwng 2007 a 2012, ond ychydig iawn o newid drwyddi draw rhwng 2003-04 a 2014-15. Mae'r rhain yn ddata lefel uchel iawn, a cheir cymhlethdodau ychwanegol y mae'n bwysig eu cadw mewn cof wrth ddehongli. Er enghraifft, mae'r data hyn ar gyfer cymedr yr holl ffermydd o fewn y categori penodol dan sylw. Er ei bod yn ymddangos mai gan ffermydd llaeth y mae'r incwm mwyaf o bell, gallai hynny ddeillio o'r ffaith bod y cymedr yn fwy o'i gymharu â ffermydd gwartheg a defaid. Yn ogystal, mae'r ffaith y defnyddir y cymedr yn cuddio'r potensial ar gyfer amrywiaeth eang o fewn y sampl: er enghraifft, yn 2014-15, methodd 11 y cant o ffermydd llaeth â gwneud elw, tra bod 45 y cant wedi gwneud elw o fwy na £75,000. Yn ddiweddar, bu mwy o gefnogaeth ar gael i ffermwyr llaeth yng Nghymru o ganlyniad i brisiau isel, a'r effaith a gafodd hynny ar incwm ffermydd. Darparwyd cyfanswm o €420 miliwn gan y Comisiwn Ewropeaidd i gefnogi ffermwyr llaeth a da byw yn uniongyrchol ar draws yr UE. Derbyniodd ffermwyr Cymru £3.2 miliwn o hwn, a chafodd ei ddyrannu i ffermwyr llaeth yn seiliedig ar faint o laeth a gynhyrchwyd ganddynt yn ystod y flwyddyn 2014-15. Y taliad cyfartalog i ffermydd llaeth yng Nghymru oedd £1,800, a dechreuwyd gwneud y taliadau ar 16 Tachwedd. Mae bron 20 y cant o ffermydd gwartheg a defaid mewn Ardaloedd Llai Ffafriol, ac oddeutu 17 y cant o ffermydd defaid a gwartheg ar lawr gwlad, yn methu â gwneud elw. Yn gyffredinol methodd 19 y cant o'r holl ffermydd â gwneud elw yn 2014-15. Hefyd, mewn crynodeb o Arolwg Busnesau Fferm 2014-15, a gynhaliwyd yng Nghymru gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, nodwyd gwahaniaeth sylweddol mewn proffidioldeb rhwng y fferm gyfartalog mewn categori, a fferm yn nhraean uchaf y categori hwnnw. Llwyddodd y traean mwyaf proffidiol ymhlith y ffermydd defaid mynydd i wneud dwywaith gymaint yr hectar â'r fferm gyfartalog yn y categori hwnnw. Mae'r ffigwr yn fwy eithafol yn achos ffermydd llaeth, â'r traean mwyaf proffidiol yn gwneud chwe gwaith cymaint â'r cyfartaledd. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg