Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

Cyhoeddwyd 11/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Chwefror 2016 Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae’r ffeithlun yn dangos newidiadau yn y modd y mae gwariant wedi'i ddyrannu'n gyffredinol rhwng adrannau Llywodraeth Cymru yn yr Ail Gyllideb Atodol 2015-16 Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) ail Gyllideb Atodol 2015-16 ar 9 Chwefror 2016. Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i'r adrannau. Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio'r Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2015-16, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2015. Y prif ddyraniadau refeniw yn y gyllideb hon yw cyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, gan gynnwys £45 miliwn i wella gwasanaethau'r GIG, £45 miliwn i helpu gyda phwysau'r gaeaf, £13.8 miliwn i ariannu cyffuriau newydd ar gyfer triniaeth ac £1.75 miliwn ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Hefyd, ceir £11.3 miliwn ychwanegol i ariannu'r galw cynyddol am grant dysgu Llywodraeth Cymru. Y prif ddyraniadau cyfalaf yw £63 miliwn o gyllid trafodion ariannol i gefnogi busnesau ledled Cymru: gan gynnwys £15 miliwn ar gyfer y gronfa newydd, Cronfa Fusnes Cymru; £10 miliwn ar gyfer y Gronfa Fuddsoddi Interim mewn Menter Technoleg; £7.7 miliwn i gefnogi buddsoddiadau strategol mewn busnesau; a £5 miliwn ar gyfer y Gronfa Twf Busnesau Bach a Chanolig. Ceir hefyd £23 miliwn i'w dyrannu i brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif i gefnogi'r gwaith o ailadeiladu ac adnewyddu ysgolion ac £20 miliwn i adeiladu 230 o gartrefi fforddiadwy drwy'r Grant Tai Cymdeithasol. Ariennir y buddsoddiadau hyn trwy gymysgedd o ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn a chronfeydd a gariwyd drosodd o'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac maent hefyd yn ystyried newidiadau yn y cyllid gan Lywodraeth y DU. Mae'r gostyngiadau o £46 miliwn sy'n deillio o Gyllideb y DU ar gyfer haf 2015 wedi eu cynnwys yn y gyllideb hon, ynghyd â £32 miliwn o gyllid ychwanegol yn sgil penderfyniadau dilynol gan Lywodraeth y DU. Mae'r siart sy'n cyd-fynd â'r erthygl hon yn rhoi crynodeb o'r newidiadau yn y modd y mae gwariant wedi'i ddyrannu'n gyffredinol rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru yn y Gyllideb Atodol hon ar gyfer 2015-16. Sylwer, mae'r gyllideb atodol hon yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol bresennol, ac felly nid yw'n cynnwys unrhyw un o'r ymrwymiadau gwariant a gyhoeddwyd ar gyfer 2016-17 yn ystod y ddadl ar y gyllideb ddrafft a gynhaliwyd ar 9 Chwefror. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg