Adolygu Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Cyhoeddwyd 18/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Chwefror 2016 Erthygl gan Hannah Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cafodd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith fesul cam rhwng Info-g-cyIonawr a Hydref 2012. Ei nod oedd sicrhau mynediad cynharach a haws i wasanaethau i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Mae'r Mesur wedi cael ei grynhoi yn y diagram isod. Gellir gweld manylion am hyn yn y daflen crynodeb cyhoeddus ar y Mesur. Roedd gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i adolygu'r Mesur o fewn 4 blynedd i ddechrau gweithredu. Mae'r adroddiad cychwyn yn disgrifio'n fanwl sut y byddai'r gwerthusiad hwn yn digwydd. Cyhoeddwyd adroddiad interim yn 2014, a oedd yn nodi
[…] bu cyflymder y newid sydd ei angen yn her i wasanaethau mewn rhai ardaloedd. Er bod yr un ddeddfwriaeth a chanllawiau yn gymwys ar draws Cymru, mae angen lleol a'r ffordd yr oedd gwasanaethau wedi eu trefnu'n flaenorol wedi dylanwadu ar weithredu’r Mesur.

Adroddiad adolygu

Mae adroddiad terfynol y ddyletswydd i adolygu, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015, yn nodi bod pob bwrdd iechyd ac awdurdod lleol yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol y Mesur. Mae gweddill canfyddiadau'r adroddiad, ar i ba raddau y mae gweithredu'r Mesur yn cyflawni ei nodau, wedi'u crynhoi isod. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen newid mewn diwylliant i sicrhau bod y bwriad y tu ôl i'r Mesur yn dod yn fwy amlwg ledled Cymru. Mae'n datgan er bod lle i wella'n barhaus, mae byrddau iechyd yn gorfod rhoi mwy o flaenoriaeth a ffocws i iechyd meddwl.

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol

Mae Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, a leolir o fewn, ac ochr yn ochr â, gwasanaethau meddygon teulu, yn ateb galw sylweddol nad oedd yn cael ei ateb yn flaenorol. Mae pryder bod y galw uchel hwn yn rhoi straen ar wasanaethau ac yn arwain at amseroedd aros hwy, yn enwedig ar gyfer therapïau seicolegol (neu 'siarad') Mae amseroedd aros ar gyfer asesu wedi lleihau dros y ddwy flynedd diwethaf a bellach yn unol â'r targed, tra bod amseroedd aros ar gyfer ymyrraeth yn amrywiol. Ar hyn o bryd dim ond 71% o gleifion ddechreuodd eu triniaeth o fewn 28 diwrnod (targed o 80%). Cododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y mater hwn yng ngwaith craffu ar y Mesur ar ôl deddfu yn 2014, a datblygwyd cynllun ar gyfer cyflwyno ymyriadau seicolegol yn 2015. Mae adroddiad yr adolygiad yn argymell y dylai data ar amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol eu casglu fel mater o drefn i fonitro cynnydd. Mae hefyd yn nodi yr angen i fynd i'r afael â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhai sy'n gallu cynnal asesiadau Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol. Ceir ymgynghoriad ar y newidiadau drafft i'r meini prawf yn 2016. Canfu'r adroddiad mai effaith ddilynol gadarnhaol Rhan 1 y Mesur yw 'ehangu sylweddol yn y rhaglenni addysg seicolegol hunan-gyfeirio sydd ar gael', sydd hefyd yn cael ei alw'n wasanaethau Haen 0.

Rhan 2: Cynlluniau gofal a thriniaeth

Y targed yw y dylai 90% o unigolion sy'n cael gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd gael Cynllun Gofal a Thriniaeth, ac mae hyn yn cael ei wneud gan bob bwrdd iechyd heblaw un. Mae'r adroddiad yn nodi bod ansawdd y cynlluniau gofal a thriniaeth yn amrywio, ac nid yw pob defnyddiwr gwasanaeth yn teimlo eu bod yn rhan o ddatblygu eu cynlluniau. Mae pryderon wedi'u nodi bod y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm â llunio cynlluniau gofal a thriniaeth yn creu rhwystrau rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd ac mae hynny'n effeithio ar yr amser sydd gan ymarferwyr ar gyfer gofal i gleifion. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai ffurf a chynnwys y cynlluniau gael eu hadolygu, ac mae galwadau wedi bod ar gyfer hyfforddi cydgysylltwyr gofal ymhellach. Mae'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pwy all wneud rôl y cydlynydd gofal yn cael eu hailystyried ac argymhellwyd canllawiau pellach ynghylch beth yw'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rôl. Awgrymwyd y gallai cyfraniad y gofalwyr hefyd wella ansawdd rhai cynlluniau, ac mae gwaith i'w wneud o ran cynyddu nifer y cleifion sy'n cael cynnig bod eu cynlluniau yn Gymraeg neu yn iaith o'u dewis.

Rhan 3: Hunan-atgyfeirio at wasanaethau eilaidd

Mae'r adroddiad yn nodi ers gweithredu Rhan 3, hunan-atgyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl eilaidd gan gleifion a oedd wedi'u rhyddhau'n flaenorol wedi dod yn haws, er nid yw'n glir p'un a yw'r cynnydd mewn hunan-atgyfeirio wedi arwain at ostyngiad cyfatebol mewn mynediad ac asesiadau brys. Mae peth amheuon ynghylch a yw ailasesu cleifion yn amserol yn cael ei gyflawni. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen casglu mwy o ddangosyddion perfformiad er mwyn mesur hyn. Mae hefyd yn nodi bod diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o hyd ymysg cleifion, meddygon teulu ac ymarferwyr gofal eilaidd ynghylch hunanatgyfeirio.

Rhan 4: Gwasanaethau Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol

Mae dros 168 o bobl y mis bellach yn derbyn gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol nad oedd ar gael cyn y Mesur. Er bod y Mesur wedi arwain at fwy o eglurder a gwell mynediad i wasanaethau eiriolaeth, mae'r nifer sy'n manteisio ar y gwasanaeth mewn ysbytai yn isel. Credir bod hyn o ganlyniad i lefelau annigonol o ymwybyddiaeth ymysg staff gofal iechyd. Roedd 42% o gleifion yn teimlo nad oedd staff ar wardiau yn rhoi eglurhad o'u hawl i gael eiriolaeth. Mae'r adroddiad yn nodi bod angen gwneud gwaith hefyd i alluogi mynediad i'r rhai nad ydynt yn gallu gofyn amdano.

Plant a phobl ifanc

[caption id="attachment_4713" align="alignright" width="300"]Dau berson yn eistedd gyferbyn â'i gilydd mewn sesiwn gwnsela. Delwedd o flickr.com gan Joe Houghton. Trwydded Creative Commons[/caption] Nododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ei waith craffu ar ôl deddfu mai'r prif bryder oedd nad yw plant a phobl ifanc yn cael budd llawn o'r Mesur. O ran y mater hwn, nododd yr adolygiad y bydd darpariaeth o dan Ran 1 yn cael ei datrys gyda menter Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, a gafodd ei lansio ym mis Chwefror i adolygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Mae diweddariad ar adolygiad CAMHS wedi'i gynnwys mewn datganiad ysgrifenedig ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, 7 Hydref 2015. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell y dylai Rhan 3 gael ei diwygio i gynnwys plant a phobl ifanc er mwyn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Cynhaliodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ymchwiliad i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn 2014. Gellir gweld rhagor o wybodaeth ar dudalen we y Pwyllgor.

Profiadau a barn cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Boddhad cleifion

Mae 90% o'r rhai sy'n derbyn Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn sgorio'r gwasanaethau yn gadarnhaol ac mae'r rhan fwyaf o gleifion a arolygwyd yn nodi bod eu meddyg teulu yn eithriadol o gydymdeimladol neu'n gydymdeimladol iawn. Ar y llaw arall, roedd rhai cleifion wedi nodi cymorth cyfyngedig neu ymyriadau nad oeddent yn diwallu eu hanghenion. Canfu gwaith ymchwil annibynnol amrywiaeth o brofiadau ailasesu. Roedd rhai cleifion yn teimlo ei fod wedi bod yn ddidrafferth tra bod rhai eraill wedi dod ar draws rhwystrau ar gyfer asesu'n amserol.

Safbwynt gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Mae'r adroddiad yn nodi bod casglu barn gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi bod yn anoddach, gyda chyfraddau ymateb isel i arolygon. Sgoriodd 74% o feddygon teulu y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn gadarnhaol, ond o ganlyniad i'r Mesur roedd meddygon teulu a staff gofal sylfaenol yn teimlo bod ganddynt fwy o lwyth gwaith, ac roedd llawer yn teimlo bod y gwaith hwn yn anodd. Dywedodd y rhan fwyaf o staff practis meddygon teulu a arolygwyd eu bod yn gobeithio dysgu mwy am sut i reoli cleifion â salwch meddwl. Mae'r adroddiad yn argymell bod cymorth a chyngor i feddygon teulu a staff gofal sylfaenol eraill yn cael ei flaenoriaeth. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg