Adroddiad Blynyddol Prif Arolygydd Estyn 2014/15: Trosolwg byr cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 18/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Chwefror 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_2448" align="alignnone" width="640"]Llun yw hwn o fformiwla fathamategol mewn sialc ar fwrdd du. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Yr wythnos nesaf (dydd Mawrth 23 Chwefror 2016), bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Estyn, sy'n rhoi crynodeb o ddeilliannau arolygu ysgolion a lleoliadau addysg a hyfforddiant eraill yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15. Dyma'r cyntaf o ddwy erthygl sy'n ceisio rhoi rhywfaint o wybodaeth cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf. Adroddiad blynyddol 2014/15 yw'r cyntaf ers i Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd newydd, gael ei benodi ym mis Mehefin 2015. Mae'r nodweddion newydd eleni yn cynnwys cyfleuster chwilio a hidlo ar-lein, sy'n darparu data ynghylch deilliannau pob arolygiad a gynhaliwyd yn 2014/15 a hefyd drwy gydol y cylch arolygu cyfredol a ddechreuodd yn 2010. Yn ei adroddiad, mae'r Prif Arolygydd yn cyfeirio at y diwygiadau addysg a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf, gan nodi iddynt 'osod sylfeini cadarn ar gyfer addysg' yng Nghymru. Dywed: 'Ar y cyfan, mae cynnydd yn cael ei wneud gyda’r sylfeini hyn, ac rydym yn dechrau gweld budd y gwaith cychwynnol hwn, er bod mwy i’w wneud o hyd.' Gellir dadlau mai'r brif neges gan y Prif Arolygydd yw'r 'amrywioldeb' mewn safonau, y mae'n ei ddisgrifio fel 'un o nodweddion mwyaf amlwg system addysg Cymru'. Dywed: 'Unwaith eto eleni, mae cyferbyniad nodedig, yn enwedig rhwng ansawdd yr addysgu a’r dysgu, yn ein darparwyr addysg gorau ac yn y rhai gwannaf. Nid ffactorau economaidd-gymdeithasol sy’n bennaf gyfrifol am yr amrywioldeb hwn, gan fod rhai o’n darparwyr gorau mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig.' (…) '...mae’r bwlch rhwng yr ysgolion sy’n gwneud yn dda a’r rhai nad ydynt yn gwneud yn dda yn rhy eang o hyd. Mae angen mynd i’r afael â’r amrywioldeb yn ansawdd yr addysg rhwng darparwyr, a’u gallu amrywiol ar gyfer arweinyddiaeth, hunanwella a gweithio mewn partneriaeth.' Mae'r cyferbyniad mewn perfformiad yn fwyaf amlwg ymysg ysgolion uwchradd. Barnwyd bod un o bob chwe ysgol uwchradd yn Rhagorol ar y cyfan, a barnwyd bod tua'r un gyfran yn anfoddhaol. Dywed y Prif Arolygydd fod hyn dangos 'polareiddio mewn canlyniadau arolygu' mewn ysgolion uwchradd, yn ôl y sampl a arolygwyd yn 2014/15, gan fod cyfran y rhai a gafodd ddyfarniad Rhagorol neu Anfoddhaol wedi codi ers y flwyddyn flaenorol. Mae Mr Rowlands eisoes wedi ateb cwestiynau ynghylch ei adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 27 Ionawr 2016 (pdf 461KB). Ceisiodd esbonio i'r Pwyllgor pam mae safonau yn tueddu amrywio i'r eithafion mewn ysgolion uwchradd yn fwy nag ysgolion cynradd: ‘Why is that polarisation greater in secondary than in primary? I think it’s not just a function of inspection, as you see it in lots of other indicators. So, for example, the gap between boys’ performance and girls’ performance seems to get wider as children get older. The gap between disadvantaged pupils and their peers also seems to get wider as they get older. There seems to be a cumulative effect that starts, maybe, in primary school, but gets wider in secondary. I think the other factor in terms of this polarisation, possibly, is that secondary schools are bigger and more complex organisations than primary schools.’ Beth y mae Estyn yn edrych arno wrth arolygu ysgolion a lleoliadau eraill? Mae Estyn defnyddio Fframwaith Arolygu Cyffredin a gyflwynwyd ar ddechrau'r cylch arolygu cyfredol ym mis Medi 2010. Mae'r Fframwaith yn cynnwys tri chwestiwn allweddol ynghylch 'pa mor dda' yw'r deilliannau, y ddarpariaeth, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn dilyn hynny, mae Estyn yn ffurfio dwy farn gyffredinol am berfformiad cyfredol a rhagolygon ar gyfer gwella ym mhob lleoliad yn ôl graddfa â phedwar pwynt iddi, sef Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol. Ceir dau dabl ar ddiwedd yr erthygl hon. Mae Tabl 1 yn dangos deilliannau'r ddau ddyfarniad cyffredinol ynghylch lleoliadau yn y sector oedran ysgol a'r sector blynyddoedd cynnar yn 2014/15. Mae Tabl 2 yn dangos y deilliannau hyn ar sail gronnus drwy gydol y cylch cyfredol hyd yn hyn. Beth sydd wedi digwydd i ddeilliannau arolygu? Mae data Estyn ar-lein yn darparu ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn deilliannau arolygu rhwng blynyddoedd unigol
  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion cynradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn, y barnwyd eu bod yn Rhagorol neu'n Dda, ostwng o 70% yn 2012/13 i 62% yn 2013/14, cyn codi i 67% yn 2014/15.
  • Gwnaeth cyfran yr ysgolion uwchradd a arolygwyd yn ystod y flwyddyn, y barnwyd eu bod yn Rhagorol neu'n Dda, gynyddu o 45% yn 2012/13 i 53% yn 2013/14, cyn gostwng i 41% yn 2014/15.
Fodd bynnag, mae'r Prif Arolygydd yn dweud y dylid bod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau ar sail samplau blynyddol yn unig. Yn ei adroddiad, mae'n tynnu sylw at y ffaith nad oedd yr un o’r newidiadau a nodir uchod yn arwyddocaol yn ystadegol. Ar 27 Ionawr 2016, dywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: ‘..all those changes were, in fact, within those error bars [used to measures ranges of statistical significance]. So, what that means is that, in reality, you can be pretty sure that, overall, there hasn’t been a lot of change in either primary or secondary.’ Felly, er nad oedd fawr ddim newid arwyddocaol yng nghyfran yr ysgolion sy'n Dda neu well, roedd cynnydd yn nghyfran yr ysgolion hynny sy'n Rhagorol yn y sector uwchradd. Yn yr un modd, nid oedd newid sylweddol yng nghyfran yr ysgolion sy'n Ddigonol ar y gorau, ond roedd cynnydd yng nghyfran yr ysgolion uwchradd sy'n Anfoddhaol. Felly, dyna oedd y Prif Arolygydd yn cyfeirio ato wrth sôn am bolareiddio. Yn ôl Meilyr Rowlands, y rheswm pennaf am hyn yw'r lefel o gysondeb a geir mewn ysgolion a safon yr arweinyddiaeth. Dyma a ddywedodd wrth y Pwyllgor, ‘So, ultimately, we have little doubt that what makes the biggest difference in terms of what makes good provision in a school is good leadership.’ Byddwn yn cyhoeddi erthygl arall yfory, yn edrych ar sectorau penodol a'r hyn y mae Estyn yn ei ddweud am berfformiad yn erbyn blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru. Tabl 1: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2014/15 [caption id="attachment_4688" align="alignnone" width="682"]Tabl 1: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2014/15 Ffynhonnell: Data Estyn (data.estyn.llyw.cymru)
Nodiadau: a) mae'r rhif mewn cromfachau ar ôl enw'r sector yn dynodi nifer y lleoliadau a arolygwyd; b) efallai na fydd y canrannau'n dod i gyfanswm o 100 am fod y ffigurau wedi'u talgrynnu; c) oherwydd y nifer fechan o ddarparwyr a gynhwyswyd, mae ffigurau ar gyfer categorïau ac eithrio ysgolion cynradd ac uwchradd, a lleoliadau i blant o dan 5 oed, wedi cael eu darparu fel rhifau yn hytrach na chanrannau.[/caption] Tabl 2: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2010/11 - 2014/15 [caption id="attachment_4689" align="alignnone" width="682"]Tabl 2: Deilliannau arolygiadau fesul sector, 2010/11 - 2014/15 Ffynhonnell: Data Estyn (data.estyn.llyw.cymru)
Nodiadau: a) mae'r rhif mewn cromfachau ar ôl enw'r sector yn dynodi nifer y lleoliadau a arolygwyd; b) efallai na fydd y canrannau'n dod i gyfanswm o 100 am fod y ffigurau wedi'u talgrynnu; c) oherwydd y nifer fechan o ddarparwyr a gynhwyswyd, mae ffigurau ar gyfer categorïau ac eithrio ysgolion cynradd ac uwchradd, a lleoliadau i blant o dan 5 oed, wedi cael eu darparu fel rhifau yn hytrach na chanrannau.[/caption] View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg