Diweddariad ar Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol 2016-17

Cyhoeddwyd 23/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

23 Chwefror 2016 Erthygl gan Owen Holzinger a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn ystod y ddadl ar Gyllideb Ddrafft 2016-17 ar 9 Chwefror 2016, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt AC) ddyraniad ychwanegol o £2.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy. Caiff y dyraniad o £2.5 miliwn ei ddyrannu fel a ganlynol:
  • Powys – £1.95 miliwn
  • Ceredigion – £0.44 miliwn
  • Sir Fynwy – £0.11 miliwn
Y tri awdurdod lleol sy'n derbyn cyfran o'r dyraniad ychwanegol sy'n wynebu'r gostyngiad canran mwyaf o ran Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn Setliad Llywodraeth Leol dros dro Cymru a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2015. Cyllid Allanol Cyfun yw'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i lywodraeth leol, sef cyfuniad o'r Grant Cymorth Refeniw ac ailddosbarthu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol. Amlinellodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (Leighton Andrews AC) y dosbarthiad AEF dros dro diweddaraf ar 10 Chwefror 2016, sy'n nodi'r dyraniadau ar gyfer pob cyngor a'r newid canran AEF mewn perthynas â setliad 15-16. Cyfanswm y newid AEF yw gostyngiad o £54.3 miliwn o'i gymharu â £56.8 miliwn yn y setliad dros dro gwreiddiol. Y gostyngiad AEF ar gyfartaledd fydd 1.3% o'i gymharu ag 1.4%, a chynghorau Powys, Ceredigion a Sir Fynwy fydd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf o 3%. O dan y setliad dros dro gwreiddiol, Powys oedd yn wynebu'r gostyngiad mwyaf, sef 4.1%. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar 1 Mawrth, ac yna bydd y Setliad Terfynol Llywodraeth Leol yn cael ei gyflwyno i'r Cynulliad ei gymeradwyo. Ceir crynodeb yn y siart sydd ynghlwm o'r newid canran AEF yn y setliad llywodraeth leol dros dro diweddaraf. draft budget 2016-17 Update(Local Government Settlement welsh) copy-01 View this post in English Darllenwch yr erthygl hon yn Saesneg