Y Cynulliad i bleidleisio ynghylch cynnwys caniatadau amddiffyn rhag llifogydd yn y gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol

Cyhoeddwyd 25/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Chwefror 2016 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4738" align="alignnone" width="682"]Peiriant tyrchu ar waith mewn afon Llun o Flickr gan Jeremy Atkinson. Trwydded Creative Commons. Tynnwyd manylion y cwmni o'r peiriant tyrchu gan ddefnyddio Photoshop.[/caption] Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar 1 Mawrth 2016 ynghylch is-ddeddfwriaeth (PDF 509KB) a fydd yn symleiddio'r broses o gael caniatâd i gynnal gwaith adeiladu yn agos at amddiffynfeydd môr a phrif afonydd. Bydd y Rheoliadau arfaethedig yn ehangu'r gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol i gynnwys caniatadau amddiffyn rhag llifogydd. Byddant hefyd yn eithrio rhai gweithgareddau risg isel fel nad oes angen trwydded ar eu cyfer. Y prif afonydd yw'r cyrsiau dŵr a ddiffinnir ar y map o brif afonydd. Ar hyn o bryd, mae angen caniatadau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer gweithgareddau fel y rhai a ganlyn:
  • Adeiladu gollyngfeydd;
  • Adeiladu ac atgyweirio pontydd;
  • Gwaith i atal erydu glannau afonydd a cholli tir;
  • Darparu mannau croesi afonydd ar gyfer cyfleustodau; a
  • Chreu ceuffosydd ar gyrsiau dŵr.
Mae amrywiaeth o Ddeddfau ac is-ddeddfau gwahanol yn gwneud caniatadau'n ofynnol, ac mae'r cosbau, y cyfnodau ymgeisio a'r prosesau apelio yn wahanol ar gyfer pob cyfundrefn. Bydd y Rheoliadau yn caniatáu rhoi trwydded unigol ar gyfer gweithgareddau y mae angen trwyddedau ar wahân o dan fwy nag un cynllun ar eu cyfer ar hyn o bryd. Lluniwyd y Rheoliadau ar sail Cymru a Lloegr ar y cyd ac mae angen i'r Cynulliad a Senedd y DU eu cymeradwyo cyn iddynt ddod i rym yn y ddwy wlad. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y newidiadau yn creu system symlach, mwy tryloyw ac yn lleihau biwrocratiaeth. Maent yn dweud y bydd y dull newydd yn galluogi rheoleiddwyr i ganolbwyntio ar y gweithgareddau sy'n peri'r risg fwyaf wrth ddyrannu adnoddau. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rheoleiddiwr yng Nghymru. Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r rheoleiddiwr yn Lloegr. Ymgynghorodd y ddwy Lywodraeth ar y cynigion rhwng 10 Rhagfyr 2014 a 17 Chwefror 2015 ac maent wedi cyhoeddi ymateb ar y cyd i'r sylwadau a gafwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Memorandwm Esboniadol (PDF 704KB) i gyd-fynd â'r Rheoliadau. Teitl llawn y Rheoliadau yw: The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)   View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg         Teitl llawn y Rheoliadau yw: The Environmental Permitting (England & Wales) (Amendment) (No2) Regulations 2016 (PDF 509KM)