Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr yn dod i San Steffan

Cyhoeddwyd 29/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Chwefror 2016 Erthygl gan Alys Thomas a Laura Waddilove, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4776" align="alignnone" width="682"]Dyma lun o San Steffan Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr wedi dod yn realiti. Cafodd y newidiadau i Reolau Sefydlog Tŷ’r Cyffredin sy’n rhoi Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr ar waith eu pasio gan y Tŷ o 312 pleidlais i 270 ar 22 Hydref 2015. Gwnaethom gyhoeddi blog ar ddatblygiadau cynharach yn yr hydref ym 2015. Yn awr, mae’n rhaid i Lefarydd Ty’r Cyffredin benderfynu a yw Biliau cyfan Llywodraeth y DU, elfennau o Filiau a chynigion i newid Biliau ar ffurf cymalau newydd, atodlenni newydd a diwygiadau yn cael pasio drwy’r broses hon yn ei farn ef. Mae’r Llefarydd yn cael ei gynghori gan y Clerc Deddfwriaeth a Chwnsler y Llefarydd, a gall hefyd ofyn am gyngor gan ddau o Gadeiryddion y Pwyllgorau a benodir i’r diben hwn. Os bydd y Llefarydd yn penderfynu bod y broses hon yn berthnasol i Fil cyfan, neu ran o Fil, bydd yn cyflwyno Tystysgrif y Llefarydd. Gall y broses Ardystio ddigwydd yn ystod nifer o gamau ar daith Bil. Gall ddigwydd cyn Ail Ddarlleniad, ar ôl y cyfnod Adrodd, ar ôl cyfnod Ailystyried newydd ac wrth i Dŷ’r Cyffredin drafod gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Arglwyddi. Fel Biliau eraill, bydd Biliau sy’n ddarostyngedig i’r broses Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr yn mynd trwy Ddarlleniad Cyntaf, Ail Ddarlleniad, cyfnod Pwyllgor a chyfnod Adrodd. Os bydd Bil yn ei gyfanrwydd yn cael ei ardystio yn berthnasol i Loegr yn unig, bydd aelodau’r pwyllgor Bil cyhoeddus yn cael eu dewis o blith Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau yn Lloegr yn unig. Hefyd, gellir ardystio bod Bil neu ddarpariaethau mewn Bil yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Yn yr achosion hyn, gellir cynnwys Aelodau Seneddol o Gymru yn y broses graffu. Erbyn hyn, mae tri cham newydd y gallai Bil fynd drwyddynt rhwng y cyfnod Adrodd a’r Trydydd Ddarlleniad. Mae’r camau hyn fel a ganlyn: Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol, y Cyfnod Ailystyried ac Ystyriaeth Ganlyniadol. Mae penderfynu a oes angen i Bil fynd drwy’r holl gamau hyn yn dibynnu ar y penderfyniadau a wnaed yn ystod ei daith ddeddfwriaethol. Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol Ar ôl y Cyfnod Adrodd mae’r Llefarydd yn ystyried y bil eto ar gyfer ei ardystio, os yw wedi cael ei ddiwygio. Os bydd y Bil cyfan, neu ddarpariaethau penodol ynddo, yn cael ei ardystio gan y Llefarydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr, a/neu Lloegr, rhaid i Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau yng Nghymru a Lloegr, a/neu Lloegr, basio cynnig cydsyniad, naill ai o ran y Bil cyfan neu rannau penodol o’r Bil dan sylw, cyn iddo symud ymlaen i’r Trydydd Ddarlleniad. Gall yr Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol gynnull ar ffurf pwyllgor i Loegr yn unig ac fel pwyllgor i Gymru a Lloegr. Gall pob Aelod Seneddol gymryd rhan mewn dadleuon yn yr Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol, ond dim ond Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli etholaethau yn Lloegr, neu Gymru a Lloegr, all bleidleisio ar y Bil neu’r darpariaethau perthnasol. Y Cyfnod Ailystyried Os nad yw Aelodau’r Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol yn cydsynio i ddarpariaethau penodol, cynhelir Cyfnod Ailystyried (yn debyg i’r cyfnod adrodd, mae’r holl Aelodau’n cymryd rhan yn y cam hwn). Unig ddiben y Cyfnod Ailystyried yw trafod gwelliannau i’r Bil i ddatrys materion sy’n peri diffyg cydsyniad. Ystyriaeth Ganlyniadol Pan fydd y cyfnod ailystyried yn cael ei gwblhau, rhaid i’r Llefarydd ystyried unrhyw newidiadau i’r Bil cyn ardystio. Mae’r Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol wedyn yn cyfarfod eto i drafod y newidiadau ardystiedig. Gall yr Uwch Bwyllgor wrthod rhoi caniatâd i’r Bil cyfan ac ni fydd yn cael ei basio. Os nad yw darpariaethau penodol yn cael eu pasio, cânt eu tynnu o’r Bil, a fydd wedyn mynd yn ei flaen i drydydd ddarlleniad. Ar y pwynt hwn, gellir cynnal cyfnod o 'ystyriaeth ganlyniadol' os oes angen gwneud mân newidiadau neu newidiadau technegol i’r rhannau hynny o’r Bil sy’n weddill o ganlyniad i ddileu rhai darpariaethau. Gwelliannau gan yr Arglwyddi Os caiff Bil ei ddiwygio gan Dŷ’r Arglwyddi, cynhelir cyfnod arall o ardystio . Mae angen 'mwyafrif dwbl' ar y gwelliannau hyn - hynny yw, mwyafrif o’r holl Aelodau Seneddol sy’n pleidleisio a mwyafrif o’r Aelodau Seneddol o Loegr neu o Gymru a Lloegr. Y broses yn dechrau Y Bil cyntaf i gael ei ardystio gan y Llefarydd oedd y Bil Tai a Deddfwriaeth. Mae gwefan Tŷ’r Cyffredin yn cynnwys linciau i’r dystysgrif berthnasol ac i Femorandwm Llywodraeth y DU at y Pwyllgor Bil Cyhoeddus a fu’n craffu ar y Bil yn ystod y cyfnod cyntaf. Ar ôl i’r Pwyllgor Bil Cyhoeddus ddiwygio’r Bil, cyhoeddodd y Llefarydd dystysgrif ddiwygiedig. Dyfarnodd y Llefarydd fod y rhan fwyaf o’r Bil yn berthnasol i Loegr yn unig. Fodd bynnag, penderfynwyd bod rhai cymalau yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Fodd bynnag, cytunwyd ar y cymalau hyn heb gyfnod pleidleisio. Ar ôl i’r Cyfnod Adrodd ddod i ben ar 12 Ionawr 2016 trefnodd y Tŷ ei hun yn Uwch Bwyllgor Deddfwriaethol ar gyfer Lloegr er mwyn cydsynio i’r cymalau a oedd yn weddill. Codwyd pwynt o drefn gan yr Arglwyddes Hermon, Aelod Seneddol o Ogledd Iwerddon, a ofynnodd am eglurhad pam bod y Llefarydd wedi ardystio bod cymal a oedd yn cyfeirio at Gymru yn berthnasol i Loegr yn unig. Drannoeth, cododd bwynt o drefn gyda’r Llefarydd: 'On a point of order, Mr Speaker. I wondered whether, overnight, you have had an opportunity to reflect on the point of order that I raised at the end of last night’s debate. The certification process is a new procedure, so it is very, very important that we get it right, particularly as it has such negative and adverse effects for MPs from Northern Ireland and Scotland. I intend no criticism of you, Mr Speaker. However, I hope that you will accept that when the Government table a new clause, which mentions both England and Wales, and then a designation is made in a certificate that it applies exclusively to England, it is inherently ambiguous and contradictory. That is the point that I was making. I should like clarification on how we correct a certificate that is designated apparently incorrectly.' Roedd ymateb y Llefarydd fel a ganlyn: '[…] It is understandable that she initially surmised that new clause 62 should have been certified as relating to Wales as well as to England, but the reality is, as close examination testifies, that the application to Wales falls into the category of minor or consequential as, crucially, it makes no change in the law applying in Wales. So, in the view of the Chair, which was informed by the combined advice of the Clerks and the Office of Speaker’s Counsel, it was rightly certified as relating exclusively to England.' Cynhaliodd Bwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ’r Cyffredin ymchwiliad i Bleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr, a cyhoeddodd ei adroddiad ar 26 Ionawr 2016. Mae’r adroddiad yn nodi: 'The Supreme Court referrals of Welsh legislation represent a worrying portent of the potential controversy that may arise from attempts to adjudicate both where the devolution boundaries lie and working out what minor or consequential effects on devolved competence might be'. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliad a ganlyn: 'The devolution test for certification is not a “very simple test” and, alongside the instruction that “minor or consequential effects” be disregarded, risks putting the Speaker in an unnecessarily controversial position. At the very least, it is highly likely that interested parties from inside and outside the House will want to make representations to the Speaker on how he adjudicates: a) where the devolution boundaries lie, and b) whether the effects of a Bill, or a clause or schedule of a Bill, are more than minor or consequential. PACAC therefore agrees with the Procedure Committee that there is a case for the Speaker to establish and publish a procedure for how he would handle such representations. While we note that the Speaker has issued a statement that outlined how the new Standing Orders would be implemented and recommended that representations should be made to the Clerk of Legislation, we nonetheless feel that a more thorough set of guidelines regarding representations would be beneficial for Members.' Y Biliau eraill sydd wedi’u hardystio yw’r Bil Gofal Plant, a oedd yn berthnasol i Loegr yn unig, a’r Bil Elusennau (Amddiffyn a Buddsoddiad Cymdeithasol), a gafodd ei ardystio yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae Arweinydd y Tŷ wedi ymrwymo Llywodraeth y DU i adolygu’r Rheolau Sefydlog newydd deuddeg mis ar ôl iddynt ddod i rym. Mae’r Pwyllgor Gweithdrefn hefyd yn gwneud gwerthusiad technegol o’r Rheolau Sefydlog newydd i helpu llywio’r adolygiad hwn. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg