Cynulliad i bleidleisio ar Reoliadau newydd ar gyfer storio olew

Cyhoeddwyd 02/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Mawrth 2015 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o'r adeilad y Senedd, Bae Caerdydd Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar is-ddeddfwriaeth (PDF 257KB) ar 8 Mawrth 2016 sy'n ceisio lleihau llygredd dŵr o ganlyniad i gyfleusterau storio olew annigonol. Beth fydd y Rheoliadau'n gwneud? Bydd y Rheoliadau'n ei gwneud yn ofynnol i gynwysyddion storio olew sydd ar ben tir neu mewn adeiladau i fod yn addas at y diben ac i gael system atal eilaidd. Bwnd yw'r math o system fel arfer (wal allanol neu uned gaeedig) neu badell ddiferion, wedi'i gynllunio i ddal unrhyw olew sy'n gollwng o'r cynhwysydd storio. Bydd y Rheoliadau hefyd yn disodli'r darpariaethau presennol ar gyfer storio tanwydd amaethyddol. Pam fod angen y Rheoliadau? Mae Memorandwm Esboniadol (EM) (PDF 402KB) Llywodraeth Cymru yn nodi bod cyfran fawr o achosion llygredd olew yn cael eu hachosi gan fethiannau mewn cyfleusterau storio olew. Mae'n nodi bod y digwyddiadau hyn yn peri risg i'r amgylchedd dŵr ac y gallai effeithio ar gyflenwadau dŵr cyhoeddus, yn ogystal ag achosi difrod i eiddo. Ar hyn o bryd, mae'r unig safonau sy'n berthnasol i gyfleusterau storio olew yng Nghymru, sy'n ceisio gwarchod yr amgylchedd dŵr, yn ymwneud â storio tanwydd amaethyddol, olew gwastraff a rhai gosodiadau diwydiannol mawr. Mae'r safonau ar gyfer tanciau mwy na 3,500 litr at ddibenion eiddo domestig yn ddarostyngedig i Reoliadau Adeiladu wrth gael eu gosod. Mae'r Rheoliadau sy'n rheoli storio olew tanwydd amaethyddol yn cynnwys eithriad ar gyfer tanciau a osodwyd cyn 1991. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod yr hen danciau hyn yn peri risg uchel. Felly, bydd y Rheoliadau newydd yn cael gwared ar yr eithriad hwn. Mae rheolau tebyg eisoes yn eu lle yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ar bwy fydd hyn yn effeithio? Yn bennaf, bydd y Rheoliadau'n cael effaith ar:
  • Eiddo domestig â chyfleusterau newydd neu amgen i storio olew ar ben tir (â chapasiti llai na 3,500 litr).
  • Eiddo masnachol / diwydiannol / sefydliadol â chyfleusterau storio olew ar ben tir newydd neu gyfredol.
  • Eiddo amaethyddol â chyfleusterau storio olew ar ben tir newydd neu gyfredol (â chapasiti llai na 1,500 litr) a chyfleusterau storio yn y ddaear a osodwyd cyn 1991.
Bydd cynhwysyddion o dan 200 litr wedi'u heithrio rhag y Rheoliadau. Bydd gan gyfleusterau storio olew cyfredol, ac eithrio rhai domestig, rhwng dwy a phedair blynedd i gydymffurfio. Sut ymateb sydd wedi bod i'r Rheoliadau? Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Rheoliadau rhwng 24 Mehefin 2015 a 24 Medi 2015 ac mae wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a'i hymateb i'r sylwadau a ddaeth i law (PDF 587KB). Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o'r ymatebion yn nodi bod yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn gyffredinol gefnogol i'r Rheoliadau newydd. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr o'r sector amaethyddol eisiau eithriad ar gyfer y sector hwnnw. Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) ac NFU Cymru nad oedd tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau cynnwys amaethyddiaeth o fewn cwmpas y Rheoliadau. Dywedodd NFU Cymru hefyd nad fu asesiad digonol o'r costau i'r sector. Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod y dull cyfredol o ran rheoli storio olew amaethyddol yn gweithio ac y dylid parhau â hynny. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r sylwadau hyn gan ddweud nad oedd yn briodol i eithrio amaethyddiaeth oherwydd y risgiau sy'n gysylltiedig â'r dull presennol sy'n eithrio cyfleusterau a osodwyd ar ffermydd cyn 1991. Nododd hefyd na fydd mwyach rhaid i ffermwyr roi gwybod i Gyfoeth Naturiol Cymru am gyfleusterau storio olew newydd, a bydd un set o safonau ar gyfer storio olew ledled Cymru. Os cânt eu pasio, bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 15 Mawrth 2016. Dyma'r teitl llawn: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016 (PDF 257KM) View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg