Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Newidiadau allweddol yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 03/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Mawrth 2016 Erthygl gan Philippa Watkins ac Amy Clifton Disgwylir i’r Cynulliad gynnal trafodion Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth 2016. Cynhaliwyd y trafodion Cyfnod 2 gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 28 Ionawr a 3 Chwefror 2016. Cafodd nifer o welliannau eu derbyn yng Nghyfnod 2. Hefyd, nododd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno, neu’n ystyried, diwygiadau pellach mewn nifer o feysydd yng Nghyfnod 3. Rhan 2: Tybaco a Chynhyrchion Nicotin - Pennod 1: Ysmygu a’r defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin Trin tybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin yn wahanol Yn y Bil fel y’i cyflwynwyd, rhoddwyd y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin o dan yr un cyfyngiad mewn mannau cyhoeddus/gweithleoedd ag ysmygu sigaréts tybaco. Mae’r newid mwyaf arwyddocaol i’r rhan hon o’r Bil yng Nghyfnod 2 yn deillio o ddiwygiadau sy’n nodi ffyrdd gwahanol o ymdrin â thybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin o ran cyfyngu ar eu defnydd. Yng Nghyfnod 1, nid oedd y Pwyllgor wedi llwyddo dod i gonsensws wrth benderfynu a fyddai unrhyw gyfyngiad ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin yn cyfrannu at y nod o wella a diogelu iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mewn ymateb i bryderon y gallai trin tybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin yn yr un modd anfon neges eu bod yr un mor niweidiol, roedd rhai o aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi dull amgen a fyddai’n pennu – ar wyneb y Bil – ardaloedd lle y byddai defnyddio dyfeisiau mewnanadlu nicotin yn cael ei wahardd, yn hytrach na chynnwys y dyfeisiau hyn o dan yr un cyfyngiad eang â thybaco. Dywedodd y Gweinidog wedi hynny y byddai, yn unol â dull o’r fath, yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a 3 i ddiffinio’r mannau lle byddai cyfyngiad ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin. Yn unol â hynny, mae gwelliannau’r Llywodraeth ynghylch cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau cludiant ysgol, safleoedd gofal plant, ysgolion a sefydliadau addysg bellach, sefydliadau sy’n gwerthu bwyd, cyfleusterau cludiant cyhoeddus ac ysbytai wedi’u cyflwyno yng Nghyfnod 2 ac fe gytunwyd arnynt. Mae ysbytai wedi’u cynnwys yn fangreoedd di-ddyfeisiau mewnanadlu nicotin, ond bydd rheolwyr yn gallu dynodi ardaloedd lle y mae caniatâd i ddefnyddio’r dyfeisiau hyn. Ymestyn y cyfyngiad i ardaloedd eraill nad ydynt yn gaeedig Ni dderbyniwyd gwelliannau’r gwrthbleidiau i osod gwaharddiad ar ysmygu tybaco mewn mannau chwarae i blant, tir ysgolion a thir ysbytai nad ydynt yn gaeedig ar y wyneb y Bil yng Ngham 2. Yn ystod Cyfnod 1, rhannodd y Gweinidog reoliadau drafft â’r Pwyllgor a fyddai’n ymestyn y cyfyngiad ar dybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin i’r ardaloedd hyn. Yng Nghyfnod 2, dywedodd y Gweinidog y byddai’n barod i ystyried cyflwyno gwelliannau’r Llywodraeth yng Nghyfnod 3, ond pwysleisiodd y byddai’r gwelliannau hyn yn trafod tybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin:
I have to be clear with Members that those Government amendments would make these areas both smoking free and nicotine inhaling device free, because, if the argument that we are advancing today is that the protection of children from the impact of renormalisation is key to all of this, then you certainly would not want to see them being freely used in children’s play areas and on school grounds.
Adolygu’r dystiolaeth Byddai gwelliannau eraill gan y gwrthbleidiau a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2 wedi darparu bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal o’r modd y mae’r darpariaethau i gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin wedi effeithio ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru, a hefyd yn cynnwys darpariaeth i’r Cynulliad ddiddymu’r cyfyngiadau hyn. Ni dderbyniwyd y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2. Fodd bynnag, roedd y Gweinidog yn cefnogi’r egwyddor y dylai’r dystiolaeth barhau i gael ei hadolygu, a dywedodd y byddai’n ystyried cyflwyno gwelliant i’r perwyl hwnnw yng Nghyfnod 3. Rhan 3 Triniaethau arbennig Ar hyn o bryd, nid yw’r diffiniad o driniaethau arbennig (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio) ar wyneb y Bil wedi newid. Ni dderbyniwyd gwelliannau’r gwrthbleidiau i ychwanegu brandio, ysgriffio, mewnblannu is-groenol a hollti tafod at y rhestr hon yng Nghyfnod 2. Dywedodd y Gweinidog fod angen ymchwilio i’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r triniaethau arbennig hyn cyn ystyried eu hychwanegu at y ddeddfwriaeth. Nododd y Gweinidog fwriad i ymgynghori’n gynnar ar yr egwyddor o ychwanegu mwy o driniaethau at y rhestr yn fuan ar ôl deddfu, gan nodi y bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys y triniaethau uchod, yn ogystal â thriniaethau eraill a nodwyd yn ystod hynt y Bil hyd yn hyn, fel rholio’r croen, dyfrhau colonig a chwpanu gwlyb. Meini prawf ac amodau trwyddedu Derbyniwyd gwelliannau i roi meini prawf allweddol o ran trwyddedu ar wyneb y Bil. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau i reoli heintiau a chynnig cymorth cyntaf yng nghyd-destun y driniaeth arbennig berthnasol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos eu bod yn gyfarwydd â’r dyletswyddau a osodir arnynt fel y person sydd wedi’i awdurdodi i gynnig triniaeth arbennig. Hefyd, cafodd yr amodau trwyddedu gorfodol (sy’n rheoli ymddygiad ymarferwyr sydd wedi cael trwydded) eu diwygio i gynnwys amodau ynghylch profi oedran unigolyn sydd am gael triniaeth arbennig, rheoli heintiau a chymorth cyntaf. Mae’r amodau trwyddedu gorfodol, a bennir mewn rheoliadau, hefyd yn berthnasol i feddwdod, er mwyn atal deiliad trwydded rhag cynnig triniaeth arbennig i unigolyn sy’n feddw oherwydd diod, cyffuriau neu unrhyw ddull arall, neu sy’n ymddangos i fod yn feddw. Lefel y ddirwy a osodir Derbyniwyd gwelliannau i gael gwared ar y terfyn ar y ddirwy sy’n gysylltiedig â throseddau o ran triniaethau arbennig, gan newid lefel y ddirwy o lefel 3 i ddirwy ddiderfyn. Rhan 4: Rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff Tyllu’r tafod Cafodd y tafod ei ychwanegu at y rhestr o rannau personol o’r corff a restrir ar y wyneb y Bil ynghylch rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff, oherwydd y risg cysylltiedig o niwed. Mae hyn yn golygu y bydd yn drosedd i dyllu tafod tyllu person sydd o dan 16 oed neu wneud trefniadau i dyllu tafod person o dan yr oedran hwn. Lefel y ddirwy a osodir Derbyniwyd gwelliannau i gael gwared ar y terfyn ar y ddirwy sy’n gysylltiedig â throseddau o ran rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn, neu wneud trefniadau i roi twll, o ddirwy lefel 3 i ddirwy ddiderfyn. Rhan 5: Gwasanaethau fferyllol Ni dderbyniwyd unrhyw welliannau i’r rhan hon o’r Bil yng Nghyfnod 2. Rhan 6: Darpariaeth toiledau Cafodd y rhan hon o’r Bil ei diwygio yng Nghyfnod 2 i nodi bod yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddatblygu eu strategaethau toiledau lleol (yn hytrach na’u bod yn gallu cyhoeddi’r canllawiau hyn), ac i nodi’n fanylach yr hyn y mae’n rhaid i’r canllawiau hyn ei gynnwys. Hefyd, diwygiwyd y Bil i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi datganiadau cynnydd interim (fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyfnod 1). Mae hwn yn ofyniad newydd sy’n ychwanegol at y ddyletswydd ar awdurdodau lleol (yn y Bil fel y’i cyflwynwyd) i adolygu eu strategaethau yn llawn heb fod yn hwyrach na blwyddyn ar ôl diwedd tymor etholiadol. Rhan 7: Amrywiol – Troseddau sgôr hylendid bwyd Cafodd y Bil ei ddiwygio yng Nghyfnod 2 i wneud mân ddiwygiad technegol i Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 fel bod yn rhaid i’r derbyniadau o hysbysiadau cosb benodedig am beidio â chydymffurfio â’r cynllun sgorio hylendid bwyd gael eu defnyddio gan awdurdodau bwyd (awdurdodau lleol yn bennaf) i sicrhau cydymffurfiad â’r cynllun. Bydd hyn alinio Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 â darpariaethau Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), sy’n nodi bod yn rhaid i dderbyniadau o hysbysiadau cosb benodedig a wneir o dan Benodau 1 a 2 o Ran 1 gael eu defnyddio gan awdurdodau gorfodi i gefnogi’r dyletswyddau newydd a osodir arnynt gan y penodau hyn yn y Bil. Asesiad o’r Effaith ar Iechyd Yn ystod Cyfnod 2, gwnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymiad i gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i gynnwys asesiad o’r effaith ar iechyd ar wyneb y Bil. Mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghyfnod 1 i gyflwyno gofyniad i gynnal asesiadau gorfodol o’r effaith ar iechyd wrth ddatblygu polisïau, cynlluniau neu raglenni penodol. Cafodd gwelliannau yn y maes hwn eu cyflwyno gan y gwrthbleidiau yng Nghyfnod 2, ond ni chynigiwyd y gwelliannau hyn oherwydd yr ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Gweinidog. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg