Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016

Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun o internationalwomensday.com

Llun o internationalwomensday.com

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth.

Cafodd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei sefydlu ddechrau’r ugeinfed ganrif. Daeth i fodolaeth yn dilyn cytundeb yng Nghynhadledd Ryngwladol Menywod sy’n Gweithio yn Copenhagen yn 1910. Roedd yr Unol Daleithiau wedi cynnal Diwrnod Cenedlaethol y Menywod yn flaenorol (mae bellach yn neilltuo mis Mawrth cyfan i ddathlu hanes menywod), ond ni wnaeth Awstria, Denmarc, yr Almaen a’r Swistir ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod tan 1911, o ganlyniad i’r fenter yn Copenhagen. Yna, fe ddilynodd gwledydd eraill eu harweiniad. Nid cyfrifoldeb llywodraeth neu sefydliad unigol yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae’n fudiad rhyngwladol.

Thema fyd-eang Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016 yw Addewid Cydraddoldeb (Pledge for Parity). Y nod yw bod unigolion yn cymryd camau pendant i helpu i gyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn gynt.   Gallai hyn ddigwydd drwy addo i helpu menywod a merched i gyflawni eu huchelgeisiau, herio rhagfarn a rhagfarn ddiarwybod, a galw am arweinyddiaeth gydradd rhwng y rhywiau.

Bydd rhai sefydliadau, gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, yn mabwysiadu eu thema eu hunain ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Eleni, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu’r thema “Planet 50-50 by 2030: Step It Up for Gender Equality. Nod y thema hon yw ystyried sut i gyflymu’r broses Agenda 2030 ar gyfer datblygu cynaliadwy. Ni wnaeth y Cenhedloedd Unedig ddechrau dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod tan y 1970au, ond y siarter a’i sefydlodd, a lofnodwyd yn 1945, oedd y cytundeb rhyngwladol cyntaf i gadarnhau’r egwyddor o gydraddoldeb rhwng menywod a dynion.

Nid yw Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ymwneud â thynnu sylw at yr anghydbwysedd sydd wedi’i gydnabod ym meysydd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol yn unig, mae hefyd yn dathlu llwyddiannau menywod yn y meysydd hynny. Ar 9 Mawrth, bydd cyfle i Aelodau’r Cynulliad wneud addewidion cydraddoldeb, yn ogystal â dathlu llwyddiannau niferus menywod yng Nghymru wrth iddynt drafod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2016. Bydd nifer o ddigwyddiadau yng Nghymru i nodi’r diwrnod, gan gynnwys digwyddiadau Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd.


Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus

Cafodd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ei sefydlu cyn bod gan unrhyw fenyw yng Nghymru’r hawl i bleidleisio. Bellach, o’r 60 Aelod Cynulliad yng Nghymru, mae 25 yn fenywod – sef 42 y cant. Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Rhwng 2006 a 2007 roedd mwy o fenywod na dynion yn Aelodau’r Cynulliad. Er bod cynrychiolaeth menywod yn y Cynulliad yn is nawr nag yr oedd yn y gorffennol, byddai Cymru yn dod yn rhif naw o ran y deddfwrfeydd mwyaf cytbwys o ran y rhywiau yn y byd pe bai’n wlad annibynnol, yn ôl yr Undeb Rhyngseneddol. Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn rhif 40 ar fynegai’r Undeb Rhyngseneddol, gydag ychydig o dan 30 y cant o Aelodau’r Senedd yn fenywod.

Gan ddatblygu enw da’r Cynulliad ar gyfer cydraddoldeb, mae’r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC, wedi arwain yr ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Mae ei gwaith wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol, gan arwain at wahoddiadau i ymweld â Senedd Gwlad yr Iâ, Senedd Canada, a seneddau rhanbarthol yn Ne Affrica a Lesotho i gyfnewid syniadau ac arferion gorau o ran cynrychiolaeth menywod.


Heriau sy’n wynebu menywod yng Nghymru

Mae rhaglenni a chynlluniau niferus wedi’u cynnal i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu’r camau y mae Llywodraeth bresennol Cymru wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn.

O ran cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiadau penodol i ddarparu cronfa fwy gynrychioliadol o’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn ceisio cyflwyno cwotâu o ran y rhywiau, tebyg i Norwy, ar gyfer penodiadau i gyrff cyhoeddus.   Cyhoeddwyd galwad am dystiolaeth yn ddiweddar ynghylch penodiadau i fyrddau yn y sector cyhoeddus gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, ac mae crynodeb o’r canfyddiadau bellach ar gael.

Mae Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2014-15 Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion a nodwyd yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae’n nodi, ar gyfer 2014-15:

  • bod 48.5 y cant o benodiadau cyhoeddus newydd yn fenywod; a
  • bod 41 y cant o ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus newydd yn fenywod.

Wrth gwrs, nid dim ond yn y sector cyhoeddus y gallwn weld enghreifftiau o anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, fel y mae ymgyrchoedd fel 50/50 erbyn 2020 wedi tynnu sylw atynt; mae gan y sector preifat a’r trydydd sector faterion i fynd i’r afael â hwy yn ogystal.

Yn economaidd, rydym yn gweld ystadegau sy’n tynnu sylw at yr anghydbwysedd rhwng y rhywiau yn rheolaidd. Mae ystadegau diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 7.8 y cant yn 2015, sy’n golygu bod enillion canolrifol yr awr, heb gynnwys goramser, dynion sy’n gweithio’n llawn amser 7.8 y cant yn uwch nag enillion menywod.  Mae hyn yn is na’r rhan fwyaf o ranbarthau yn Lloegr a’r cyfartaledd yn y DU, ond mae’n uwch na’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae mwy o wybodaeth am fenywod yn economi Cymru gan Pigion yn y blog hwn o’r llynedd.

Rhoddodd Adroddiad y ‘Global Gender Gap’ (GGGR) 2015, a gynhyrchwyd gan Fforwm Economaidd y Byd, ystadegau llwm ar yr heriau sy’n wynebu cymdeithasau a llywodraethau ledled y byd.

Gydag enillion cyfartalog byd-eang dynion bron dwbl rhai menywod, mae’r adroddiad yn awgrymu y byddai’n cymryd 118 mlynedd arall, neu hyd nes 2133, i’r byd gau’r bwlch economaidd rhwng y rhywiau’n gyfan gwbl.

View this post in English

Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg