Y Cynulliad i bleidleisio ar Reoliadau sgorio hylendid bwyd

Cyhoeddwyd 10/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Mawrth 2016 Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Llun o berson yn coginio   Bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar is-ddeddfwriaeth (PDF 922KB) ar 15 Mawrth 2016 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd tecawê gynnwys datganiad ar ddeunydd cyhoeddusrwydd copi caled sy’n cyfeirio cwsmeriaid at y wefan sgorio hylendid bwyd. Beth fydd y Rheoliadau yn gwneud?  Bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd tecawê yng Nghymru arddangos datganiad dwyieithog rhagnodedig ar ddeunyddiau copi caled penodol - er enghraifft, bwydlenni a thaflenni - sy’n cyfeirio cwsmeriaid at y wefan sgorio hylendid bwyd, ac yn annog cwsmeriaid i ofyn i’r busnes bwyd am ei sgôr. Byddant hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer defnydd gwirfoddol o ddelweddau sgorio hylendid bwyd, ac, os cânt eu defnyddio, byddant yn rhagnodi ffurf y graffeg. Bydd y Rheoliadau yn ei gwneud yn drosedd i beidio â dangos y datganiad ar ei ffurf ragnodedig neu, os caiff ei ddefnyddio, i arddangos sgôr anghywir neu ffug, neu i arddangos graffeg y sgôr ar ffurf arall i’r ffurf rhagnodedig. Yn olaf, bydd y Rheoliadau hefyd yn creu pŵer i swyddogion gorfodi bwyd awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, cynnal erlyniadau a chael gwared ar ddeunyddiau at ddibenion ymchwiliadau. Y cefndir Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud Rheoliadau o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (119KB). Dyma’r ddeddfwriaeth sy’n ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid bwyd lle gall cwsmeriaid ei weld yn hawdd. Yn ystod hynt y Ddeddf drwy’r Cynulliad, trafododd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Lesley Griffiths, y rhinweddau dros gynnwys gofyniad statudol i sgoriau hylendid bwyd gael eu harddangos ar ddeunydd hyrwyddo busnesau bwyd. Cytunodd y Pwyllgor â’r Gweinidog y byddai cynnwys gofyniad o’r fath yn gosod beichiau ychwanegol ar fusnesau bwyd, a chan gofio y gall yr un deunyddiau hyrwyddo gael eu defnyddio dros nifer o flynyddoedd, gallai achosi dryswch os bydd sgôr busnes yn newid. Ceir crynodeb o’r drafodaeth yn Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (661KB). Fodd bynnag, arweiniodd y trafodaethau at y Gweinidog yn newid y ddeddfwriaeth fel y gallai Gweinidogion Cymru wneud Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd gyhoeddi datganiad ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn cyfeirio defnyddwyr at wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, lle gallant weld y cynllun sgoriau hylendid bwyd. Bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Rheoliadau rhwng 24 Awst 2015 a 13 Tachwedd 2015 ac mae wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a’i hymateb i’r sylwadau a ddaeth i law (PDF 342KB). Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Memorandwm Esboniadol (PDF 386KB) i gyd-fynd â’r Rheoliadau. Os cânt eu pasio, bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 28 Tachwedd 2016, gan ganiatáu amser rhagarweiniol i fusnesau bwyd ac awdurdodau lleol. Dyma’r teitl llawn: Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgoriau Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 (PDF 922KB). View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg