Cyllideb yr Undeb Ewropeaidd: Cyfraniad net y DU – a yw'r ffigurau yn eich drysu?

Cyhoeddwyd 11/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Mawrth 2016 Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rydym wedi cael llawer o gwestiynau ynghylch faint o arian y mae'r DU a Chymru yn ei gyfrannu at gyllideb yr UE, a faint o arian sy'n dod yn ôl drwy wahanol fathau o gyllid. A yw'n bosibl cyfrifo'n gywir costau net aelodaeth o'r UE i'r DU a Chymru? Mae gwahanol fethodolegau yn cael eu defnyddio ar lefel yr UE a chan Drysorlys y DU i gyfrifo faint o arian y mae Llywodraeth y DU yn ei gyfrannu at yr UE a faint o arian y mae'n ei gael yn ôl. Pa bynnag fethodoleg a ddefnyddir, bydd yn dangos bod y DU yn gyfrannwr net i Gyllideb yr UE (hynny yw, ei fod yn talu mwy o arian i'r UE nag y mae'n ei gael yn ôl). Fodd bynnag, mae ffigurau'r Comisiwn Ewropeaidd (mewn ewros) yn dangos cyfraniad net is gan y DU na'r cyfraniad net sydd i'w weld yn ffigurau'r Trysorlys (mewn punnoedd), fel y nodir isod.

Ffigurau'r Comisiwn Ewropeaidd

Yn flynyddol, mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cyhoeddi Adroddiad Ariannol sy'n nodi'r cyfraniadau a wneir i gyllideb yr UE gan yr holl Aelod-wladwriaethau a'r arian y maent yn ei gael yn ôl. Mae'r Adroddiad Ariannol mwyaf diweddar, ar gyfer 2014, yn datgan bod y DU yn gwneud cyfraniad net i'r UE o ychydig o dan €5 biliwn (gweler y tabl ar dudalen 145 o'r adroddiad). Mae ffigurau'r Comisiwn Ewropeaidd wedi'u haddasu i gynnwys ad-daliad y DU (yr ad-daliad blynyddol a wneir i'r DU gan yr UE ac a negodwyd yn wreiddiol gan Margaret Thatcher pan yr oedd hi'n Brif Weinidog yn 1984). Nid yw'r adroddiad yn cynnwys ffigurau o dan lefel yr Aelod-wladwriaethau, felly nid oes manylion ar gael ar gyfer Cymru.

Ffigurau Trysorlys y DU

Mae adroddiad gan Drysorlys y DU a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2015 yn datgan mai cyfanswm cyfraniad net y DU i Gyllideb yr UE yn 2014 oedd £9.785 biliwn. Mae'r ffigur hwn hefyd wedi'i addasu i gynnwys ad-daliad y DU. Mae adroddiad y Trysorlys yn egluro'r gwahaniaethau fel a ganlyn (Paragraff 3.9):
...the Commission’s numbers take into account all of the UK’s receipts, including those that go directly to the UK private sector, such as funding for research paid directly to UK universities. The OBR [Office of Budget Responsibility] numbers capture only those receipts that pass through the UK public sector.

Dadansoddiad gan arbenigwr

Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Athro Iain Begg o Ysgol Economeg Llundain bapur ymchwil, sef "Who pays for the EU and how much does it cost the UK?" ar wefan UK in a Changing EU. Mae'n ddadansoddiad manwl o'r methodolegau gwahanol a ddefnyddir gan y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth y DU i gyfrifo'r ffigurau ynghylch cyfraniadau a derbyniadau mewn perthynas â Chyllideb yr UE. Mae papur yr Athro Begg yn nodi nifer o wahaniaethau eraill ym methodoleg y Comisiwn i esbonio'r anghysondeb rhwng ffigurau'r DU a ffigurau'r Comisiwn. Mae'r Comisiwn yn hepgor 'Adnoddau Hunan Traddodiadol' (hynny yw, incwm sy'n deillio o dolldaliadau a threthi siwgr) o'i gyfrifiadau. Mae hefyd yn gwahaniaethu rhwng y gwariant sydd 'er budd y wlad derbyn' a'r gwariant sydd 'er budd yr UE yn ei chyfanrwydd' (er enghraifft, costau sefydliadau'r UE sydd wedi'u lleoli mewn Aelod-wladwriaeth).

Effaith net ar Gymru

Yn ogystal â'r cyfrifiadau uchod, mae rhai cyrff wedi ceisio amcangyfrif yr effaith ariannol net ar Gymru sy'n deillio o aelodaeth y DU o'r UE. Er enghraifft, roedd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2014 gan y Ganolfan ar gyfer Diwygio Ewrop yn datgan y byddai Cymru'n fuddiolwr net yn yr UE ar gyfer y cyfnod rhwng 2014 a 2020, a hynny o tua €878 miliwn y flwyddyn. Mae'r Ganolfan yn defnyddio ffigurau Trysorlys Ei Mawrhydi wrth gyfrifo cyfraniad cyffredinol y DU i gyllideb yr UE, ac mae'r cyfraniad hwn yn cael ei briodoli i'r 'gwledydd cartref' ar sail cyfran pob cenedl o'r cyfraniadau treth a wneir i'r Trysorlys. Mae'r ffigur hwn yn cael ei wrthbwyso yn erbyn y swm o arian Ewropeaidd y bydd pob cenedl yn ei gael yn ystod y cyfnod hwn. Fel y gallwn weld, mae'r cyfrifiad hwn yn darogan y byddai Cymru'n fuddiolwr net. Gan edrych yn fwy penodol ar gyllid y gallai Cymru ei gael gan yr UE yn ystod y cyfnod rhwng 2014 a 2020, y ddwy brif ffynhonnell o gyllid fydd y Cronfeydd Strwythurol (cyfraniad o tua £1.8 biliwn gan yr UE ar gyfer y cyfnod hwn) a'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (rhagwelir cyfraniad blynyddol o tua £240 miliwn, ynghyd â thua €355 miliwn mewn cyllid datblygu gwledig, ar gyfer y cyfnod dan sylw). Dylai Cymru elwa hefyd ar symiau sylweddol o gyllid gan Horizon 2020, sef rhaglen ymchwil ac arloesi yr UE. Yn ystod y cyfnod rhwng 2007 a 2013, cafodd prifysgolion a busnesau yng Nghymru dros €140 miliwn o FP7, sef y rhaglen flaenorol. Mae Rhaglen Gydweithredu Trawsffiniol Iwerddon-Cymru yn darparu dyraniad gan yr UE o tua €80 miliwn i'w rannu rhwng Iwerddon a Chymru. Mae gan Gymru fynediad hefyd at nifer o raglenni cystadleuol eraill yn yr UE. Mae canllaw cyllido Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion am y mater hwn.

Buddsoddiadau gan Fanc Buddsoddi Ewrop yn y DU

Un ffynhonnell arall o gyllid nad yw wedi'i chynnwys yn y ffigurau a drafodir uchod mewn perthynas â Chyllideb yr UE yw Banc Buddsoddi Ewrop. Mae mwyafrif helaeth y cyllid a ddyrennir gan Fanc Buddsoddi Ewrop (tua 90%) yn mynd i brosiectau yn yr UE. Yn 2015, cafwyd y buddsoddiad mwyaf erioed gan Fanc Buddsoddi Ewrop yn y DU, sef €7.7 biliwn (11.2% o gyfanswm y benthyciadau a wnaed gan Fanc Buddsoddi Ewrop yn ystod y flwyddyn). Mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi bod yn destun sylw cynyddol yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf. Cafwyd buddsoddiadau mawr ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'r posibilrwydd o ddefnyddio cyllid gan Fanc Buddsoddi Ewrop i gefnogi prosiectau seilwaith cyfalaf mawr yng Nghymru, gan gynnwys Metro arfaethedig de Cymru, yn cael ei ystyried. (Byddai hyn yn digwydd fel rhan o Gynllun Buddsoddi Ewrop; gweler ein blogiau blaenorol ar y mater hwn.) Mae hwn yn faes y mae'r Cynulliad wedi ei ystyried yn fanwl yn y blynyddoedd diwethaf drwy waith Rhodri Glyn Thomas AC ar Bwyllgor y Rhanbarthau. Yn ogystal, ymwelodd y Pwyllgor Menter a Busnes â Phencadlys Banc Buddsoddi Ewrop yn Lwcsembwrg ym mis Mehefin 2016, ac ymwelodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd â swyddfa Banc Buddsoddi Ewrop ym Mrwsel ym mis Mehefin, i weld sut y gallai Cymru ddefnyddio'r adnodd hwn yn effeithiol. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn un o sefydliadau'r UE. Fel y cyfryw, felly, mae aelodaeth o'r banc wedi'i chyfyngu i Aelod-wladwriaethau'r UE. Pe byddai'r DU yn gadael yr UE, byddai hefyd yn rhoi gorau i'w haelodaeth o Fanc Buddsoddi Ewrop, er na fyddai hyn o reidrwydd yn atal y DU rhag cael mynediad at gyllid gan y banc. Byddai hynny'n dibynnu ar y cytundeb a fyddai'n cael ei negodi gan Lywodraeth y DU gyda'r UE. Mae Banc Buddsoddi Ewrop yn buddsoddi y tu allan i'r UE, a hynny at ddibenion darparu cymorth i wledydd sy'n datblygu, y gwladwriaethau sydd wedi'u derbyn gan yr UE a gwledydd sy'n bartneriaid allanol (gan gynnwys ardal masnach rydd Ewrop). Mae rhagor o fanylion ar wefan Banc Buddsoddi Ewrop. Fodd bynnag, mae dros 90% o'r buddsoddiadau ariannu y mae'r banc yn eu gwneud bob blwyddyn yn mynd i Aelod-wladwriaethau'r UE.

Rhywfaint o eglurder ymhlith y cymhlethdod?

Gobeithio bod y blog hwn wedi rhoi rhywfaint o eglurder ynghylch tarddiad yr anghysonderau sy'n bodoli o ran y ffigurau a ddyfynnir gan y cyfryngau, sef y gwahanol fethodolegau a ddefnyddir ar lefel yr UE a'r DU. Yn y bôn, mae cyfrifiadau sy'n ymwneud ag amcangyfrif cyfraniadau net i'r UE yn gymhleth ofnadwy, a gellir defnyddio nifer o fethodolegau posibl. Fel y cyfryw, nid oes modd darparu un ateb diamheuol ynghylch y mater hwn. At hynny, nid yw ffigurau'r UE a Llywodraeth y DU yn cymryd i ystyriaeth buddsoddiadau a wneir gan Fanc Buddsoddi Ewrop yn y DU. O gofio'r swm o €7.7 biliwn a fuddsoddwyd yn y DU yn 2015, nid yw'r buddsoddiadau hyn yn ansylweddol. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg