Ffordd Liniaru'r M4: troi cornel arall ar y ffordd i'w chyflawni?

Cyhoeddwyd 15/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mawrth 2016 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_4865" align="alignnone" width="682"]Yr M4 yn ne Cymru Llun o Flickr gan Richardjo53. Trwydded Creative Commons[/caption] Cymerodd gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 i'r de o Gasnewydd, rhwng cyffyrdd 23 a 29 o'r ffordd bresennol, gam arall ymlaen ar 10 Mawrth. Cafodd nifer sylweddol o ddogfennau eu cyhoeddi yn nodi cam allweddol yn y broses o gynllunio a chyflawni. Hefyd, cafodd deg o arddangosfeydd cyhoeddus eu cyhoeddi, lle y gall y cyhoedd weld gorchmynion drafft, gwybodaeth amgylcheddol ac adroddiadau a deunyddiau cysylltiedig eraill. Mae'r erthygl hon yn esbonio beth sydd wedi'i gyhoeddi a beth sy'n digwydd nesaf. Beth sydd wedi'i gyhoeddi? Mae nifer eithaf sylweddol o ddogfennau wedi'u cyhoeddi mewn tri maes. Gorchmynion Drafft a Thystysgrifau Statudol Mae pedwar o orchmynion drafft wedi'u cyhoeddi gan ddefnyddio pwerau a roddwyd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980: Disgwylir i ddwy ddogfen arall gael eu cyhoeddi ar 24 Mawrth 2016:
  • Gorchymyn prynu gorfodol drafft yn rhoi pwerau i gaffael y tir sydd ei angen i adeiladu'r ffordd; a
  • Thystysgrifau Adran 19, o dan adran 19 o Ddeddf Caffael Tir 1981, yn rhoi pwerau i ddisodli tir comin a rhandiroedd.
Datganiad amgylcheddol Mae'r Datganiad Amgylcheddol yn nodi asesiad Llywodraeth Cymru o'r prif effeithiau amgylcheddol y mae wedi eu nodi yn ystod y gwaith datblygu. Mae'n disgrifio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lliniaru effaith y ffordd. Mae'r datganiad ei hun yn ddogfen enfawr. Fodd bynnag, mae'r Datganiad Amgylcheddol – Crynodeb Annhechnegol yn rhoi fersiwn fwy hylaw o'r canfyddiadau. Yn benodol, mae'n crynhoi asesiadau amgylcheddol arbenigol gan ystyried yr effaith mewn meysydd fel:
  • draenio ffyrdd a llifogydd;
  • ansawdd aer;
  • treftadaeth ddiwylliannol;
  • tirwedd ac effaith weledol;
  • ecoleg a chadwraeth natur;
  • daeareg a phriddoedd;
  • sŵn a dirgrynu; a'r
  • effaith ar asedau cymunedol a phreifat.
Adroddiadau Cysylltiedig Hefyd, mae ystod o adroddiadau cysylltiedig eraill bellach ar gael, gan gynnwys adroddiad yn asesu'r cynllun, adroddiad datblygu cynaliadwy, adroddiadau ar asesiad economaidd o'r cynllun ac adroddiad ar ragolygon o ran traffig. Mae'r adroddiad yn asesu'r cynllun yn rhoi trosolwg defnyddiol o'r hyn sy'n digwydd. Mae'n crynhoi agweddau allweddol ar y cynllun nad ydynt yn ymwneud â'r amgylchedd, gan gynnwys manylion am y llwybr, seilwaith cerdded a beicio, y cyffyrdd, pontydd a strwythurau eraill sydd eu hangen, a'r ffordd y mae'r cynllun yn effeithio ar gysylltedd drwy ffyrdd ymyl. Mae tri deg pump o bontydd wedi'u cynllunio, gan gynnwys pont dros yr Afon Wysg / Dociau Casnewydd, yn ôl pob tebyg i geisio mynd i'r afael â phryderon gan Associated British Ports y byddai'r ffordd newydd yn cael effaith negyddol ar waith Porthladd Casnewydd. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y byddai angen cyfanswm o tua 721 hectar o dir ar gyfer y cynllun, gan gynnwys tir sydd ei angen dros dro ar gyfer adeiladu'r ffordd. Dywedir bod y tir hwn yn cynnwys ardaloedd o ddiddordeb amgylcheddol a hanesyddol. Bydd yn rhaid dymchwel 12 o adeiladau preswyl er mwyn adeiladu'r ffordd, pump ohonynt eisoes yn eiddo i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys un adeilad rhestredig Gradd II. Mae'r asesiad hefyd yn nodi'r effaith ar dagfeydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei disgwyl. Yn gyffredinol, disgwylir i gyfanswm y cerbydau sy'n trosglwyddo o'r M4 bresennol o amgylch Casnewydd Rhagwelir fod rhwng 45 y cant a 48 y cant (yn codi i 60 y cant drwy'r twnnel oherwydd bod llai o symudiadau lleol drwy'r twnnel). Disgwylir i lefel y cerbydau nwyddau trwm sy'n trosglwyddo wrth y twnnel fod tua 75 y cant. A ydym yn gwybod mwy am y gost erbyn hyn? Ydyn. Mae'r ddogfennaeth yn cynnwys amcangyfrifon cost. Er bod y Prif Weinidog wedi dweud wrth y Cynulliad ar 12 Mai 2015 y byddai'r ffordd liniaru yn costio ymhell o dan £1 biliwn, mae'r dogfennau hyn yn awgrymu y bydd cyfanswm y gost yn uwch. Er mai'r gost adeiladu a amcangyfrifir yn yr asesiad yw £857 miliwn, mae'r amcangyfrif ar gyfer y prosiect sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad yn asesu'r cynllun (hynny yw, gan gynnwys gwaith gan eraill, cost tir, iawndal a chostau risg y prosiect / optimistiaeth) yn dod i £1.093 biliwn. Mae'n werth nodi mai amcangyfrif ar gyfer y prosiect, heb gynnwys TAW a chwyddiant, yw'r ffigurau hyn. Hefyd, mae'r arfarniad economaidd (seasneg yn unig) yn nodi costau pellach o tua £38.19 miliwn, yn cynnwys costau o £16.19 miliwn ar gyfer ailgyflunio Cyffordd Caerllion, sydd y tu allan i gwmpas y prif gontract. Amcangyfrifir mai cyfanswm y gost ar gyfer gwerthusiad economaidd, felly, fydd £1.131 biliwn. Mae'r asesiad yn ei gwneud yn glir y byddai'r prosiect yn cael ei ariannu drwy gyfuniad o fenthyciad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a chyllideb drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n rhagweld y bydd tri chwarter o gostau'r prosiect yn cael ei wario yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, ac yn amcangyfrif mai'r gymhareb cost a budd fydd 2.83 (hynny yw, adennill £2.83 am bob £1 sy'n cael ei wario). Beth sy'n digwydd nesaf? Gwahoddir y cyhoedd i ymateb i Lywodraeth Cymru o ran y gorchmynion drafft a'r datganiad amgylcheddol erbyn 4 Mai 2016. Yn dibynnu ar yr ymatebion hyn, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid cynnal Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus (seasneg yn unig) . Os ydynt yn gwneud hynny, mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd hyn yn digwydd yn yr hydref / gaeaf yn 2017. Wedyn, yn dilyn adroddiad yr arolygydd, bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynllun. Os byddant yn penderfynu bwrw ymlaen, a heb unrhyw her gyfreithiol bellach (seasneg yn unig), disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn y gwanwyn yn 2018, gyda'r ffordd yn agor yn yr hydref yn 2021. Ar hyn o bryd, disgwylir i'r gwaith i droi llwybr yr M4 bresennol yn gefnffordd ddechrau dod i ben yn yr hydref yn 2022. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg