Y Cynulliad i drafod adroddiad diweddar gan bwyllgor ynghylch yr Adolygiad o Siarter y BBC

Cyhoeddwyd 15/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

15 Mawrth 2016 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma llun Siambr Ddydd Mercher, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod adroddiad diweddar y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, sef yr Adroddiad ar yr Adolygiad o Siarter y BBC. Siarter Frenhinol y BBC yw sail gyfansoddiadol y BBC. Mae Llywodraeth y DU wrthi'n llunio Siarter newydd yn lle'r Siarter bresennol a ddaw i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2016. Mae cofnod blog am ymchwiliad y Pwyllgor eisoes wedi'i gyhoeddi, yn edrych ar y prif faterion a nodwyd gan y Pwyllgor yn ystod ei waith. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor yn gynharach y mis hwn ac roedd yn cynnwys yr argymhellion a ganlyn: Argymhelliad 1: Rydym yn argymell y dylid cryfhau'r datganiad ynglŷn â dibenion cyhoeddus y BBC i sicrhau bod y BBC yn adlewyrchu, yn cynrychioli ac yn gwasanaethu anghenion y Deyrnas Unedig, ei chenhedloedd, ei rhanbarthau a’i chymunedau. Argymhelliad 2: Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth nesaf Cymru fynd ati ar fyrder i sefydlu fforwm cyfryngau annibynnol i Gymru. Dylai rôl y fforwm gynnwys, ymysg pethau eraill, adolygu, monitro a chloriannu darpariaeth Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru a rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru. Dylai ddefnyddio arbenigedd ar draws sectorau’r cyfryngau a'r byd academaidd. Argymhelliad 3: Rydym yn argymell y dylai’r BBC ddatblygu targedau penodol a mesuradwy ar gyfer portreadu Cymru yn ei raglenni rhwydwaith. Dylai gyflwyno adroddiad yn flynyddol ar y cynnydd yn erbyn y targedau hyn (gweler argymhelliad 7). Argymhelliad 4: Rydym yn argymell y dylai’r BBC roi trefniadau ar waith i ddatganoli ei waith comisiynu i sicrhau bod comisiynwyr rhwydwaith ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau wedi’u lleoli yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau hynny. Argymhelliad 5: Rydym yn argymell y dylai’r BBC ddatganoli cyfran fwy o gyllid y rhwydwaith i gomisiynwyr yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau fel ffordd o gynyddu ystod ac amrywiaeth yr allbwn, yn lleol ac ar gyfer y rhwydwaith. Argymhelliad 6: Rydym yn argymell y dylai’r BBC fuddsoddi £30 miliwn yn ychwanegol yn y gwasanaethau y mae'n eu darparu ar gyfer Cymru. Argymhelliad 7: Rydym yn argymell y dylai’r BBC gyflwyno adroddiad bob blwyddyn i'r Cynulliad ar ei allbynnau a'i weithrediadau sy'n berthnasol i Gymru, a darparu datganiad archwiliedig o gyfrifon. Argymhelliad 8: Rydym yn argymell y dylai’r BBC ymddangos gerbron pwyllgorau’r Cynulliad ynglŷn â materion sy’n berthnasol i Gymru. Argymhelliad 9: Rydym yn argymell y dylai’r pumed Cynulliad benderfynu sefydlu pwyllgor ar gyfathrebu. Byddai'r pwyllgor hwn yn sicrhau bod y BBC a sefydliadau eraill yn y cyfryngau sy'n gweithredu yng Nghymru yn cael eu dwyn i gyfrif yn gyhoeddus ynglŷn â chyflawni eu cyfrifoldebau a'u hymrwymiadau i Gymru. Argymhelliad 10: Fel rhan o adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o gylch gorchwyl, llywodraethiant a chyllid S4C, rydym yn argymell y dylai anghenion ariannol ariannu S4C yn y dyfodol gael eu hystyried ar sail eu teilyngdod eu hunain, ar wahân i ddarpariaeth gwasanaethau cyffredinol y BBC ar gyfer Cymru. Argymhelliad 11: Rydym yn argymell y dylai llinellau atebolrwydd rhwng S4C a'r Cynulliad gael eu ffurfioli drwy gytundeb a fydd yn rhwymo S4C i gyflwyno adroddiadau blynyddol a chyfrifon archwiliedig i’r Cynulliad, ac i ymddangos gerbron pwyllgorau Cynulliad. Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig i ffurfioli'r broses o graffu ar y BBC yng Nghymru Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2016, bu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn trafod y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig drafft (y Memorandwm diwygiedig) rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r BBC. Mae'r Cynulliad wedi'i restru fel un o'r cyrff sy'n rhan o'r broses o baratoi'r Memorandwm diwygiedig, ond nid yw'n un o'r cyrff a fydd yn llofnodi'r ddogfen derfynol. Diben y Memorandwm diwygiedig yw ffurfioli rôl ymgynghorol Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol yn y broses o adolygu'r Siarter. Mae hefyd yn rhwymo'r BBC i gyflwyno adroddiadau blynyddol a chyfrifon archwiliedig i’r Cynulliad, ac i ymddangos gerbron pwyllgorau Cynulliad. Bwriedir i'r Memorandwm diwygiedig gymryd lle Memorandwm cynharach rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r BBC ym mis Hydref 2015. Nid oedd y Memorandwm cynharach yn cynnwys rhoi rôl ymgynghorol i'r Cynulliad yn y broses o adolygu'r Siarter. Croesawodd y Pwyllgor y Memorandwm diwygiedig, a'r syniad o ffurfioli rôl ymgynghorol y Cynulliad yn y broses o adolygu'r Siarter. Fodd bynnag, roedd dau argymhelliad gan yr Aelodau a fyddai'n gwella'r Memorandwm diwygiedig yn eu barn nhw: Rydym o’r farn y dylid newid y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig i ddarparu ar gyfer gosod adroddiadau blynyddol a chyfrifon archwiliedig sy’n benodol i Gymru gerbron y Cynulliad. (Mae hyn yn debyg i argymhelliad 7 yn adroddiad y Pwyllgor ar yr adolygiad o Siarter y BBC). Credwn y dylid darparu ar gyfer ymgynghori’n llawn ac agored gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad am bennu ffi’r drwydded yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig. Mae ail ran y cynnig heddiw yn cynnig bod y Cynulliad: Yn cytuno y dylai'r BBC, os yw'n derbyn argymhelliad y pwyllgor, osod adroddiadau blynyddol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.

Ni all y BBC gyflwyno adroddiadau gerbron y Cynulliad ar hyn o bryd gan nad ydynt wedi’u cynnwys yn y categorïau o ddogfennau y gellir eu cyflwyno o dan Reol Sefydlog 15. Os derbynnir y cynnig hwn, bydd yn galluogi’r BBC i gyflwyno’r adroddiadau hyn gerbron y Cynulliad yn y dyfodol.

View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg