Beth yw'r diweddaraf am gontractau dim oriau yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 16/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mawrth 2016 Erthygl gan Gareth Thomas ac Amy Clifton Mae contractau dim oriau wedi dod yn destun trafod mawr yn ddiweddar, gan ymddangos yn y newyddion yn y dyddiau diwethaf, wrth i Senedd Seland Newydd ddeddfu i'w gwahardd o Ebrill 2016. daveimageYng Nghymru a'r DU, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi'r ystadegau diweddaraf am nifer y bobl a oedd ar gontract dim oriau ar 9 Mawrth 2016. Mae'r erthygl hon yn ddiweddariad o'n herthygl flaenorol ar y mater. Ynddi, fe edrychwn ar y datblygiadau diweddaraf o ran gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, yn enwedig y sector gofal cymdeithasol. Beth mae'r ffigurau diweddaraf yn ei ddangos yng Nghymru a'r DU? Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai contract dim oriau yw prif gyflogaeth 48,000 o bobl yng Nghymru - 3.4% o'r gweithlu - rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2015. Yn y DU, dywedodd 801,000 o bobl eu bod ar gontract dim oriau – sef 2.5% o'r gweithlu. O gymharu’r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr, Cymru sydd â'r ganran uchaf ond dwy o ran nifer y gweithlu sydd ar gontract dim oriau, y tu ôl i ogledd-orllewin a de-orllewin Lloegr. Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer Cymru yn dangos cynnydd o 13,000 o fis Hydref tan fis Rhagfyr 2014, gyda 35,000o bobl yn nodi eu bod ar gontract oriau bryd hynny - sef 2.5% o'r gweithlu. Noder: Nid yw'n glir i ba raddau y mae'r cynnydd hwn o ganlyniad i'r ffaith bod y cyhoedd yn fwy ymwybodol o gontractau dim oriau oherwydd y sylw a roddwyd i'r pwnc hwn yn wleidyddol ac yn y cyfryngau. Nid oes ffigurau mwy manwl ar gyfer Cymru ar gael i ddangos pa mor debygol yw gwahanol grwpiau demograffig o gael eu cyflogi ar gontractau dim oriau, ond ar gyfer y DU, gellir gweld y canlynol:
  • O'r bobl sy'n gweithio ar gontractau dim oriau, hoffai 37% weithio mwy o oriau, o gymharu â 10% o bobl eraill mewn gwaith;
  • Caiff 45% o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau eu cyflogi yn y diwydiannau bwyd a llety neu iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Mae bron 40% o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau rhwng 16 a 24 oed; ac
  • Mae menywod yn fwy tebygol o gael eu cyflogi ar gontract dim oriau na dynion; maent yn 53% o'r rheini a gyflogir ar gontractau dim oriau.
Beth sy'n digwydd yn y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru? Comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i'r defnydd o gontractau dim oriau yn y gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015. Casglodd yr ymchwil fod manteision ac anfanteision i'r defnydd o gontractau dim oriau i gyflogwyr ac unigolion. Fodd bynnag, derbynnir yn gyffredinol bod y manteision yn mynd i'r cyflogwyr a'r anfanteision i'r gweithwyr, oherwydd, o dan gontractau dim oriau, mae risg yn trosglwyddo o'r cyflogwr i'r gweithiwr. Tanlinellodd Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr astudiaeth yn codi materion y mae angen eu hystyried ymhellach, megis effaith enillion amhenodol ar weithwyr, rhoi digon o rybudd ymlaen llaw am waith, rhoi digon o rybudd ac iawndal am ganslo gwaith, dosbarthu gwaith yn deg, a mynediad i hawliau cyflogaeth fel gwyliau blynyddol, tâl salwch a thâl dileu swydd. Dywedodd y Gweinidog mai Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus a fyddai’n gwneud y gwaith hwn, ac yn ôl ei gynllun gweithredol , caiff y gwaith ei wneud yn 2016-17. Beth yw'r diweddaraf yn y sector gofal cymdeithasol? Mae'r defnydd o gontractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol, yn enwedig gofal cartref, wedi cael llawer o sylw, a gwelwyd nifer o ddatblygiadau yng Nghymru yn ddiweddar. Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru, amcangyfrifir trosiant o tua 32% yn y sector gofal cartref, a chyfradd o 6% ar gyfer swyddi gwag. Codwyd y mater yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth iddo graffu ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru). Ym mis Gorffennaf 2015, adroddodd y Pwyllgor y gall telerau ac amodau gwael i staff gofal cymdeithasol, gan gynnwys contractau dim oriau, arwain at lefelau uchel o drosiant yn y gweithlu hwnnw ac effeithio'n niweidiol ar safon y gofal cymdeithasol a ddarperir. Nododd y Pwyllgor farn y Gweinidog y byddai'r ddeddfwriaeth yn cael effaith ar y defnydd o gontractau dim oriau yn y sector gofal cymdeithasol yn sgil ei ffocws ar ansawdd gofal. Ym mis Gorffennaf 2015, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ymchwil i ffactorau sy'n effeithio ar recriwtio a chadw gweithwyr gofal cartref, gan gynnwys contractau dim oriau, a sut y mae'r rhain yn effeithio ar ansawdd gofal cartref. Canfu'r ymchwil mai contractau dim oriau sydd fwyaf cyffredin yn y sector annibynnol, a dim ond y gweithwyr gofal hynny a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd â chontract â nifer benodol o oriau fel arfer. Dywed yr adroddiad fod y rhan fwyaf o'r gweithwyr gofal yr ymgynghorwyd â hwy yn anfodlon ar yr ansicrwydd a grëir gan gontractau dim oriau (er enghraifft, anawsterau cael morgais) ac er iddynt weithio oriau hir yn aml, nid yw'r oriau hyn yn cael eu gwarantu. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno rheoleiddio neu arferion comisiynu er mwyn sicrhau bod contractau cyflogaeth diogel yn cael eu mabwysiadau ac, yn hytrach na'u defnyddio'n rheolaidd, dylid cynnig contractau dim oriau i greu hyblygrwydd ar yr ymylon. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion newydd i wella ansawdd gofal cymdeithasol drwy gyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau a sicrhau bod cyflogwyr yn talu'r isafswm cyflog cenedlaethol i weithwyr gofal cartref. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y gweithlu gofal cartref yn nodi y gall contractau dim oriau fod o fudd i ddarparwyr gofal cartref a gweithwyr gofal cartref gan eu bod yn rhoi hyblygrwydd. Fodd bynnag, gallant hefyd gael effaith negyddol ar ansawdd gofal drwy, er enghraifft:
  • Gwneud recriwtio yn fwy anodd drwy wneud gweithio ym maes gofal cartref yn llai dymunol
  • Cael effaith negyddol ar gadw staff gan y gall gweithwyr gofal cartref adael y maes hwnnw am swyddi sy'n cynnig oriau rheolaidd ac, felly, tâl rheolaidd bob wythnos
  • Gofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau ymaddasu i ofal nad yw'n cael ei ddarparu gan eu gofalwyr rheolaidd ac a all fod yn anghyson.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus (sy'n dod i ben ar 5 Ebrill 2016) yn rhestru syniadau ar gyfer cyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau ac mae'n gofyn am farn ynghylch lleihau yn effeithiol effeithiau negyddol contractau dim oriau ar ansawdd gofal cartref. Mae'r opsiynau yn cynnwys:
  • Gwneud i ddarparwyr gofal cartref gyhoeddi sawl awr o ofal a ddarparwyd gan weithwyr gofal sydd ar gontractau dim oriau;
  •  Rhoi dewis i bob gweithiwr gofal cartref o ran a ydyw'n cael ei gyflogi ar gontract dim oriau ynteu ar gontract oriau gwarantedig;
  •  Troi pob contract dim oriau yn gontract oriau gwarantedig ar ôl i weithwyr gofal cartref fwrw cyfnod penodol o gyflogaeth.
Cyfyngu ar nifer yr oriau gofal neu ganran yr oriau gofal y gall darparwyr gofal cartref eu darparu trwy gontractau dim oriau. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg