Y Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru drafft

Cyhoeddwyd 18/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Mawrth 2016 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dyma lun o'r Senedd Y cyhoeddiad Ar 29 Chwefror, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd saib yn y broses o gyflwyno Bil Cymru yr addawyd, yr ydym wedi blogio yn ei gylch. Fodd bynnag, cafwyd datblygiad pellach ddydd Llun 7 Mawrth, pan gyhoeddodd y Prif Weinidog Ddatganiad ysgrifenedig a chyhoeddodd y Bil Llywodraeth a Chyfreithiau yng Nghymru ('Y bil amgen') ynghyd â Chrynodeb Esboniadol. Mae’r datganiad yn dweud, wrth ymdrin â’r Bil Llywodraeth y DU drafft: '[...] rydym wedi bod yn ymdrechu i wella’r Bil drafft a oedd yn ceisio creu setliad newydd ar y model cadw pwerau drwy ddiwygio’r model rhoi pwerau presennol. Roedd yr ymdrech yn ofer gan ei fod yn parhau â’r sefyllfa o ddatganoli gweithredol a etifeddwyd. Mae’n glir i ni bellach bod angen ailfeddwl yn sylfaenol os ydym am greu setliad cydlynol a hir ei barhad i Gymru. Nid yw’n ddigon diwygio’r ddeddfwriaeth gynharach yn unig. Rydym o’r farn bod angen ymagwedd wahanol: un sydd wedi’i seilio ar egwyddor gyfansoddiadol, sy’n rhoi effaith lawn i argymhellion Comisiwn Silk, ac sy’n cydgrynhoi’r statudau datganoli blaenorol yn unol ag argymhellion CLAC.' Mae’r datganiad hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r Bil amgen fel cyfraniad adeiladol at ddatblygiad datganoli yng Nghymru, ac i gynorthwyo’r Ysgrifennydd Gwladol a Senedd y DU wrth iddynt ystyried sut y dylai’r setliad gael ei wella. Y bil amgen Mae’r bil amgen, fel y’i drafftiwyd, yn cynnwys 141 o gymalau a 14 o Atodlenni. Mae’n fil cyfunol felly mae’n ail-ddeddfu llawer o’r hyn sydd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, er enghraifft, o ran strwythur y Cynulliad. Mae darpariaethau eraill wedi’u cynnwys o fil presennol yr Alban, o Fesurau’r Cynulliad ac o Fil Cymru drafft, ac mae rhai darpariaethau newydd. Mae Cymal 1 (I) o’r bil amgen yn ailenwi’r Cynulliad yn 'Senedd'. Wrth ddrafftio’r Bil amgen, mae’r Crynodeb Esboniadol yn nodi mai’r egwyddorion arweiniol fu:
  • Sybsidiaredd
  • Eglurder
  • Setliad hir ei barhad?
Mae’r Bil yn darparu ar gyfer newid ar unwaith o fodel pwerau a roddir i fodel pwerau a gedwir yn ôl. Mae’r Crynodeb Esboniadol yn datgan bod y rhestr o faterion a gedwir yn ôl yn cynnwys y materion hynny sy’n hanfodol i undeb gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y DU. Felly, mae darpariaethau sy’n cefnogi marchnad fewnol y DU, neu nawdd cymdeithasol, yn faterion a gedwir yn ôl. Fodd bynnag, mae hefyd yn darparu ar gyfer datganoli yr heddlu, gweinyddiaeth gyfiawnder, cyfraith droseddol, a chyfraith deuluol yn y tymor hwy. Mae pob un o’r rhain yn ‘faterion gohiriedig’ nes y ‘dyddiad trosglwyddo gohiriedig’ sef 1 Mawrth 2026. Mae’r bil amgen yn darparu ar gyfer creu awdurdodaeth gyfreithiol neilltuol i Gymru ar unwaith, i wahanu cyfreithiau Lloegr oddi wrth gyfreithiau yng Nghymru. Mae’r Crynodeb Esboniadol yn datgan: 'Dechreuodd Llywodraeth Cymru drafodaeth am awdurdodaeth Cymru yn 2011. Bryd hynny, daethom i’r casgliad y dylai’r awdurdodaeth ddatblygu’n naturiol dros gyfnod o amser. Ond mae’r gwaith manwl ar y model cadw pwerau wedi dangos yn glir bod creu model o’r fath o fewn awdurdodaeth gyfunol yn peryglu creu rhagor o gymhlethdod ac ansicrwydd. Felly fel y gwnaethom ddadlau yn ein tystiolaeth i CLAC a nodwyd uchod, rydym wedi dod i’r casgliad mai awdurdodaeth i Gymru yw’r ffordd gywir i symud ymlaen yn unol â’r egwyddorion a nodwyd uchod.' Mae’r bil amgen yn darparu ar gyfer rhai cyfyngiadau newydd ar bwerau Senedd Cymru arfaethedig, mewn tair ffordd:
  • Bydd pwerau Senedd Cymru yn arferadwy mewn perthynas â Chymru yn unig. Felly, drwy sefydlu awdurdodaeth neilltuol i Gymru, mae’r gallu i gyfreithiau Cymreig fod yn berthnasol mewn rhai ffyrdd yn Lloegr yn cael ei ddileu. Fel yn achos yr Alban, bydd newidiadau yng nghyfraith Lloegr sy’n ddilynol i Ddeddfau Senedd Cymru a wneir ar gyfer Cymru yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU drwy reoliadau.
  • Mae rhywfaint o ostyngiad mewn grym yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r mater a gedwir yn ôl rhesymegol a chlir, sef hawliau a dyletswyddau cyflogaeth, sy’n angenrheidiol i fod yn sail i farchnad lafur fewnol y DU.
  • Yn drydydd, ni all Senedd Cymru addasu swyddogaethau na chyfansoddiadau awdurdodau a gedwir yn ôl rhestredig heb ganiatâd yr Ysgrifennydd Gwladol, nac addasu’r gyfraith ar faterion a gadwyd yn ôl oni bai bod gwneud hynny yn angenrheidiol at ddiben datganoledig.
Datganiad Llafar y Prif Weinidog Ddydd Mawrth, 8 Mawrth gwnaeth y Prif Weinidog Ddatganiad Llafar yn y Cyfarfod Llawn. Mewn ymateb, cododd Andrew RT Davies AC ddarpariaeth yn y bil amgen sy’n gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair yn y Cynulliad cyn i’r pwerau dros dreth incwm ddod i rym, y mae ef yn ei ddisgrifio fel "cam yn ôl". Ymatebodd y Prif Weinidog: 'Mae derbyn cyfrifoldeb am dreth incwm yn newid sylweddol. Nid felly sut y caiff ei rhoi ar waith. Penderfyniad y Llywodraeth yw ble i fynd oddi yno. Mae fy mhlaid i wedi derbyn datganoli treth incwm. Mae'r dadleuon ynglŷn â hynny wedi dod i ben erbyn hyn. Ni fyddwn yn derbyn datganoli treth incwm ar unrhyw sail. Mae'n rhaid iddo fod yn deg i Gymru, a chofiwch y gallai'r Trysorlys, os yw'n dymuno, ei orfodi beth bynnag. Rydym yn dal i geisio cyfarfod â’r Trysorlys gyda bwriad i ddwyn ymlaen fframwaith cyllid i Gymru sy'n adlewyrchu datganoli i gyfradd Cymru o’r dreth incwm. Rydym yn hapus i gael y trafodaethau hynny. Felly, nid yw'n ymwneud â cheisio atal y Cynulliad hwn rhag cael pwerau amrywiol o ran treth incwm. Rydym yn derbyn y bydd hynny’n digwydd, ac rydym yn gweithio tuag at hynny eisoes.' Dywedodd Simon Thomas AC: 'Felly, y cwestiwn cyntaf y mae’n rhaid ei ofyn i’r Prif Weinidog yw: os ŷm ni am gymryd y broses yma o ddifri, beth yw eich camau nesaf i sicrhau bod y Bil yma yn fwy na rhyw nodyn yn hanes Cymru ac yn symud y broses ymlaen ar y cyd, fel sydd yn gorfod digwydd, gyda Llywodraeth San Steffan, achos dim ond yn San Steffan y mae’r deddfu yma yn digwydd. Beth yw’r llwybr tuag at hynny a beth yw’r cerrig milltir y byddech chi’n disgwyl eu gweld ar hyd y llwybr yna?' Atebodd y Prif Weinidog fel a ganlyn: 'Beth yw’r camau nesaf? Wel, i fod yn realistig, ni fyddwn i’n erfyn i ddim ddigwydd rhwng nawr a’r etholiad, ond byddwn i’n erfyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb mewn ffordd gall a theg ynglŷn â beth yw’r ffordd ymlaen, achos, ar hyn o bryd, nid oes dim Bil gyda nhw ar y ford. Beth rŷm ni’n ei ddweud yw bod hwn yn dempled, felly. Mae yna rai pethau sydd ddim yn gytûn rhwng y pleidiau i gyd, ond mae hwn yn dempled ynglŷn â beth ddylai setliad cyfansoddiadol Cymru fod yn y pen draw.' Dywedodd Kirsty Williams AC: 'A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i’n credu ei bod yn gwbl briodol bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r drafft a welwn ger ein bron heddiw? Os yw rhywun yn beirniadu gweithredoedd Llywodraeth, ac yr ydych yn dweud nad ydych yn hoffi’r hyn sy’n cael ei gynnig, a'r hyn y maent wedi ei gyflwyno, mae'n ddyletswydd, byddwn i’n ei ddweud, dod o hyd i ddewis arall. Felly, rwy’n credu ei fod yn hollol dderbyniol, ac yn wir, y peth iawn i fod wedi ei wneud, i ddweud, 'Wel, os nad yw hynny’n gweithio—yr hyn sy'n cael ei gynnig gan Lundain—dyma ddewis arall.’ Ac yn fy marn i, mae'n ffurfio'r sail i ddadl y gallwn ei chynnal yma, ynghylch pa ffurf y dylai Bil Cymru ei gymryd, ac y gallai ddarparu'r hyn y mae pob un ohonom yn ei ddymuno, ar draws y Siambr hon, sef setliad sydd yn gynaliadwy, yn hirdymor, ac yn darparu eglurder—eglurder i Lywodraeth Cymru ynghylch ei swyddogaethau a’i chyfrifoldebau, ac eglurder i gyhoedd Cymru am yr hyn y gallant ei ddisgwyl i’r Llywodraeth honno ei wneud ar eu rhan, ac yn drist iawn bu’r eglurder hwnnw ar goll.' Ymatebodd y Prif Weinidog: 'O ran ein camau nesaf yn hyn o beth, mae’r Bil hwn wedi ei gyflwyno i’w drafod yn ddilys. Nid ydym yn cynnig y Bil hwn fel un i’w dderbyn neu’i wrthod; mae’n ddogfen a fydd, gobeithio, yn ffurfio sail ar gyfer trafodaeth am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ei ystyried wrth lunio Bil drafft ar gyfer y dyfodol. Dyma ein cyfraniad at y ddadl ac at yr hyn sydd wedi ei dderbyn i’w gyd-drafod hyd yn hyn.' View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg