Gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru – beth sydd wedi newid yn ystod y tair blynedd diwethaf?

22 Mawrth 2016

Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Dyma lun o blant yn chwarae

Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.

Heddiw, bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cyhoeddi  ei adroddiad  ar ei ‘Ymchwiliad dilynol i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru’. Mae’n briodol mai dyma’r polisi y mae’r Pwyllgor yn craffu arno yn ei adroddiad terfynol yn y Pedwerydd Cynulliad, o ystyried ei ddiddordeb sylweddol, dros gyfnod, yn y modd y mae’r gwasanaethau hyn yn gweithredu yng Nghymru a’u heffaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Mae ‘Gwasanaethau Mabwysiadu’ yn cyfeirio at y gwasanaethau hynny sy’n recriwtio, asesu, cymeradwyo a pharatoi rhieni sy’n mabwysiadu. Maent hefyd yn cynnwys y broses o baru plant a theuluoedd, y gwasanaethau cymorth sy’n paratoi plant cyn iddynt gael eu mabwysiadu ac, yn hanfodol, y gefnogaeth a roddir i’r plant a’u teuluoedd wedyn.

Yn unol â’r modd y bydd yn craffu ar feysydd polisi eraill, mae adroddiad y Pwyllgor yn rhoi pwys mawr ar wrando ar farn a phrofiadau’r rhai y mae gwasanaethau’n effeithio arnynt. Mae argymhellion yr adroddiad yn adlewyrchu rhai o’r prif bryderon a amlygwyd gan rieni a oedd wedi mabwysiadu, a hynny mewn sesiynau preifat a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Nodir prif bryderon y Pwyllgor yn yr adroddiad, sef:

  • Mae gwasanaethau mabwysiadu’n amrywio o’r naill ranbarth i’r llall drwy Gymru  Gweler ystadegau diweddaraf y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.
  • Mae diffyg cefnogaeth o hyd i deuluoedd ar ôl iddynt fabwysiadu plentyn, ac mae’n bosibl y caiff hyn effaith sylweddol a difrifol iawn ar blant a’u teuluoedd’.
  • Yn achos mwyafrif y plant a gaiff eu mabwysiadu, mae gwaith ‘hanes bywyd’ yn parhau i fod o safon isel.

Mae dros dair blynedd ers i’r Pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad cyntaf ar wasanaethau mabwysiadu yn 2012. Bryd hynny, roedd gwahaniaeth barn amlwg rhwng Aelodau’r Pwyllgor a’r Dirprwy Weinidog, Gwenda Thomas, ynglŷn â’r ffordd orau o wella gwasanaethau ledled Cymru. Roedd y Pwyllgor a’r Dirprwy Weinidog yn cytuno bod angen creu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol newydd. Yr hyn roeddent yn anghytuno yn ei gylch oedd rôl awdurdodau lleol yn y gwasanaeth newydd hwn. Ym marn y Pwyllgor, ni ddylai’r gwasanaeth newydd fod yn ‘eiddo’ i awdurdodau lleol a dylai’r gwasanaeth gael ei redeg gan rywun mewn rôl annibynnol uwch, a fyddai’n atebol i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn ei  hymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cadw at ei chynllun gwreiddiol ac mai’r awdurdodau lleol fyddai’n parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaeth newydd yn y pen draw.

Dair blynedd yn ddiweddarach, clywodd y Pwyllgor sylwadau cadarnhaol am ddyddiau cynnar y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, er enghraifft, y modd y llwyddwyd i greu seilwaith addas, i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac i greu systemau i gasglu data’n ymwneud â mabwysiadu. Fodd bynnag, clywodd bryderon hefyd am ddiffyg cynnydd o safbwynt rhai o’r polisïau a’r arferion a ystyriwyd yn feysydd yr oedd yn ‘fwy o her’ eu gwella. Yn benodol, roedd pryderon difrifol yn parhau ynghylch y cymorth a oedd ar gael ar ôl mabwysiadu, yn benodol gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed a chan ysgolion a ‘gwasanaethau addysg’. Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor hefyd yn cyfeirio at  dystiolaeth sy’n dangos mai dim ond yn achos nifer gymharol fechan o blant y ceir gwaith ‘hanes bywyd’ o safon, ac mae hynny’n achos pyder.

Nid dim ond rhanddeiliaid soniodd am y pryderon hyn, y rhain hefyd oedd rhai o brif bryderon y rhieni a oedd wedi mabwysiadu plant. Mae Atodiad A i  adroddiad y Pwyllgor yn crynhoi’r trafodaethau a gafwyd yn ddiweddar gyda’r rhieni hyn.

O gofio bod etholiad y Cynulliad yn agosáu, ni fydd Llywodraeth bresennol Cymru yn ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad dilynol hwn. Fodd bynnag, mae’r Gweinidog presennol eisoes wedi nodi ei fod yn derbyn bod angen gwneud rhagor mewn perthynas â phrif feysydd pryder y Pwyllgor. Yn ei dystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2016, dywedodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

‘[…] the three things that the committee is focusing on—variation, post-adoption support and life-story work—are the shared priorities that we agree, from a Government perspective, are the things that, as the national service moves on, it needs now to focus its attention on.’

Ar ôl cyhoeddi’r adroddiad ar y Gwasanaethau Mabwysiadu heddiw bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cyhoeddi ei adroddiad etifeddiaeth (PDF 3MB) yfory. Ei nod yw cynnig man cychwyn defnyddiol ar gyfer olynydd y Pwyllgor yn y Cynulliad nesaf, i ddangos yr hyn y mae’r Pwyllgor wedi’i wneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf, sut y mae wedi ymgymryd â’i waith a’r gwersi y mae wedi’u dysgu.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg