- Yr angen am setliad cyllido teg;
- Sut i rannu dyled bresennol Network Rail a rheoli benthyca yn y dyfodol;
- Sut y caiff y rhwydwaith trawsffiniol ei reoli; a
- Sut y caiff risgiau fel diffygion cudd neu orwariant eu rheoli.
Amser gwneud penderfyniad ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru
Cyhoeddwyd 24/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
24 Mawrth 2016
Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4941" align="alignnone" width="682"] Llun o Flickr gan Jeremy Segrott. Trwydded Creative Commons[/caption]
Beth sydd wedi'i gyhoeddi a pham nawr?
Cyhoeddodd y Pwyllgor Menter a Busnes adroddiad ei ymchwiliad olaf o'r Pedwerydd Cynulliad heddiw, gan ystyried blaenoriaethau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd Cymru yn y dyfodol (PDF 896KB).
Caiff prosiectau rheilffyrdd eu cyflwyno mewn 'cyfnodau rheoli' o bum mlynedd, a bydd y cyfnod nesaf, sef Cyfnod Rheoli 6 (CP6), yn para rhwng 2019 a 2024. Er bod hyn rai blynyddoedd i ffwrdd o hyd, roedd y Pwyllgor am ystyried y mater hwn nawr oherwydd bod y paratoadau ar gyfer CP6 yn cychwyn wrth i'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd lansio Adolygiad Cyfnodol 18.
Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd, nid yw'r cyfrifoldeb sylfaenol dros seilwaith rheilffyrdd Cymru wedi'i ddatganoli. Felly, bydd y broses yn arwain at yr Ysgrifennydd Gwladol yn pennu'r hyn y mae'n disgwyl i'r diwydiant rheilffyrdd ei gyflawni, ac yn y pen draw at 'benderfyniadau terfynol' ynghylch allbynnau a gwariant Network Rail ar gyfer CP6.
Beth y mae’r Pwyllgor wedi’i argymell?
Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 18 o argymhellion mewn nifer o feysydd.
Blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer gwelliannau i'r seilwaith
Amlinellodd y Pwyllgor ei flaenoriaethau allweddol yn y gogledd, y canolbarth a'r de mewn wyth argymhelliad. Gan fod hwn yn faes sydd heb ei ddatganoli i raddau helaeth, mae'r rhain yn canolbwyntio'n bennaf ar ddylanwadu ar Lywodraeth y DU a chyrff rheilffyrdd eraill. Roedd y rhain yn cynnwys:
Gogledd Cymru
Cyflwyno cynllun busnes cryf ar gyfer trydaneiddio yn y gogledd, i'w ariannu gan Lywodraeth y DU.
Mynediad o ogledd Cymru i feysydd awyr Lloegr.
Canolbarth a gorllewin Cymru
Gwella gwasanaethau yn y canolbarth, yn arbennig gwelliannau pellach i gysylltu Aberystwyth â Chanolbarth Lloegr a thu hwnt.
De Cymru
Yr angen am sicrwydd llwyr y bydd y gwaith o drydaneiddio Prif Linell De Cymru yn parhau fel un prosiect di-dor yr holl ffordd i Abertawe.
Mae angen cynllun cadarn ar gyfer Gorsaf Caerdydd Canolog ochr yn ochr â'r gwaith uwchraddio sydd ei angen i'r trac a'r signalau i greu gorsaf sy'n addas ar gyfer prifddinas yn yr unfed ganrif ar hugain.
Cludo Nwyddau
Uwchraddio llinellau'r gogledd a'r de (a'r llinellau lliniaru) i'r lled mwyaf ar gyfer trenau cludo nwyddau, trydaneiddio llinell Bro Morgannwg a'r angen i nodi blaenoriaethau seilwaith ar gyfer cludo nwyddau ar draws Cymru, a gweithio i'w cyflawni.
Cynllunio'r seilwaith a chyflawni'r gwaith
Edrychodd y Pwyllgor ar y ffordd y gwneir gwaith cynllunio yn y maes polisi hwn sydd heb ei ddatganoli. Mae wedi gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r trefniadau presennol sydd heb eu datganoli, a hefyd wedi ystyried dadleuon o blaid datganoli pellach.
O ran y trefniadau presennol, canfu fod rôl honedig Llywodraeth Cymru fel cyllidwr seilwaith 'trydydd parti' neu 'leiafrifol' yn aneglur. Roedd yn teimlo bod hyn yn achos pryder, yn enwedig wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau arwain ar brosiectau mawr gwerth miliynau o bunnoedd mawr fel trydaneiddio yn y Cymoedd.
Roedd hefyd yn teimlo nad yw data ariannol a pherfformiad Network Rail yng Nghymru yn ddigon tryloyw. Yn benodol, daeth i'r casgliad y dylai'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd osod targedau ac allbynnau ar lefel Cymru ar gyfer y Cyfnod Rheoli nesaf (fe'u gosodir ar gyfer Cymru A Lloegr ar hyn o bryd), gydag adrodd gwell.
Ar ôl clywed tystiolaeth oedd yn awgrymu tanberfformio gan Network Rail ar rai prosiectau, nododd y Pwyllgor fod angen sicrhau bod strwythurau Network Rail yn 'addas i'r diben' wrth weithio ar draws ffiniau gweinyddol y sefydliad, ac mai timau yng Nghymru ddylai reoli prosiectau yng Nghymru (mae rhai wedi cael eu rheoli o Swindon neu Fryste yn y gorffennol). Fodd bynnag, roedd yn falch o weld bod Network Rail eisoes yn gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hyn.
O ran pwerau Llywodraeth Cymru, argymhellodd y Pwyllgor y dylai gael mwy o gyfrifoldeb dros y seilwaith rheilffyrdd, a bod yn rhaid i Network Rail fod yn fwy atebol iddi wrth i fwy o fuddsoddiad ddod o Gymru ei hun.
Clywodd fod modd gwneud hyn heb ddeddfwriaeth, ond nododd 'achos cryf' dros ddeddfwriaeth i ddatganoli pwerau seilwaith rheilffyrdd yn ffurfiol i Gymru. Fodd bynnag, wrth argymell datganoli ffurfiol, nododd bedwar mater allweddol i roi sylw amlwg iddynt cyn datganoli: