Cytundeb Paris ar newid yn yr hinsawdd – Crynodeb

4 Ebrill 2016

Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Paris COP 21 Logo

Llun o flickr gan Ron Mader. Dan drwydded Creative Commons.

Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2015, cynhaliwyd Cynhadledd y Gwledydd sy’n rhan o Fframwaith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC COP21) ym Mharis. Mae UNFCC yn gytundeb amgylcheddol rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd, ac y mae 195 o Wladwriaethau yn rhan ohono, gan gynnwys y DU.

Mae Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) wedi rhybuddio am ganlyniadau methu â chyfyngu ar godiadau yn y tymheredd byd-eang i o leiaf 2 radd Celsius (yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol), gan dynnu sylw at y ffaith y byddai’r effeithiau yn fygythiad i’r ddynoliaeth a gallai arwain at newid parhaus yn yr hinsawdd.

Dywedwyd bod y cyfarfod ym Mharis yn gyfle olaf i sicrhau cytundeb rhyngwladol ar ddulliau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ymrwymiad i nod tymor hwy o allyriadau net sy’n agos at sero yn ail hanner y ganrif, a chefnogi newid i economi glân a chymdeithas carbon isel.

Mae pwyntiau allweddol cytundeb Paris wedi eu crynhoi isod. Mae’r cytundeb i fod i ddod i rym yn 2020

Lliniaru: lleihau allyriadau

Cytunodd y Llywodraethau ar y canlynol:

  • Nod hirdymor o gadw’r cynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang i ymhell o dan 2°C yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol;
  • Anelu at gyfyngu ar y cynnydd i 1.5°C, gan y byddai hyn yn lleihau risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd yn sylweddol;
  • O ran yr angen i allyriadau byd-eang gyrraedd eu brig cyn gynted ag y bo modd, cydnabod y bydd hyn yn cymryd mwy o amser ar gyfer gwledydd sy’n datblygu;
  • Ymgymryd â gostyngiadau cyflym wedi hynny yn unol â’r wyddoniaeth orau sydd ar gael.

Cyn ac yn ystod y gynhadledd ym Mharis, cyflwynodd gwledydd gynlluniau gweithredu ar yr hinsawdd cenedlaethol cynhwysfawr (INDCs). Nid yw’r rhain yn ddigon i gadw cynhesu byd-eang yn is na 2°C eto, ond mae’r cytundeb yn olrhain y ffordd i gyflawni’r targed hwn.

Tryloywder a chyfrif stoc byd-eang

Cytunodd y llywodraethau ar y canlynol:

  • I ddod at ei gilydd bob 5 mlynedd i osod targedau mwy uchelgeisiol fel sy’n ofynnol gan wyddoniaeth;
  • Adrodd i’w gilydd a’r cyhoedd ar ba mor dda y maent yn ei wneud i weithredu eu targedau;
  • Olrhain cynnydd tuag at y nod tymor hir drwy system o dryloywder ac atebolrwydd cadarn.

Addasu

Cytunodd y llywodraethau ar y canlynol:

  • Cryfhau gallu cymdeithasau i ymdopi ag effeithiau newid yn yr hinsawdd;
  • Darparu cefnogaeth ryngwladol barhaus a gwell ar gyfer addasu i wledydd sy’n datblygu.

Colled a difrod

Mae’r cytundeb hefyd yn gwneud y canlynol:

  • Cydnabod pwysigrwydd osgoi, lleihau a mynd i’r afael â cholled a difrod sy’n gysylltiedig ag effeithiau andwyol newid yn yr hinsawdd;
  • Cydnabod yr angen i gydweithio a gwella dealltwriaeth, gweithredu a chefnogaeth mewn gwahanol feysydd megis systemau rhybudd cynnar, parodrwydd am argyfwng ac yswiriant risg.

Cymorth

  • Bydd yr UE a gwledydd datblygedig eraill yn parhau i gefnogi gweithredu mewn perthynas â’r hinsawdd i leihau allyriadau ac adeiladu gwydnwch o ran effeithiau newid yn yr hinsawdd mewn gwledydd sy’n datblygu.
  • Mae gwledydd eraill yn cael eu hannog i ddarparu neu barhau i ddarparu cymorth o’r fath yn wirfoddol.
  • Mae gwledydd datblygedig yn bwriadu parhau â’u nod ar y cyd sy’n bodoli eisoes i ymgasglu USD 100 biliwn y flwyddyn tan 2025 pryd y bydd nod ar y cyd newydd yn cael ei osod.

Mae gan Gymru ran bwysig i’w chwarae o ran helpu’r DU yn ehangach i gwrdd â’r targed hwn a bydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn darparu fframwaith deddfwriaethol cadarn ar gyfer gweithredu yn y maes targed hwn. Gyda dyfodiad Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, mae Cymru yn gwneud ymrwymiad i symud ymlaen gyda chynaladwyedd, gwydnwch amgylcheddol a chyfrifoldeb byd-eang wrth wraidd pob penderfyniad a wneir.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg