Etholiad y Cynulliad 2016

Cyhoeddwyd 06/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

6 Mai 2016 Erthygl gan Helen Jones a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae cyfansoddiad gwleidyddol Cymru wedi newid yn sgil Etholiad y Cynulliad 2016. Dyma nifer y seddi a enillwyd gan bob plaid yn yr etholiad hwn a'r newid ers 2011:
  • Llafur: 29 (un yn llai)
  • Plaid Cymru: 12 (un yn fwy)
  • Y Ceidwadwyr: 11 (tair yn llai)
  • UKIP: 7 (saith yn fwy)
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol: 1 (pedair yn llai)
Mae'r etholaethau tua'r un maint o ran nifer y bobl sy'n byw yno ond yn amrywio'n fawr o ran arwynebedd tir. Mae rhai etholaethau'n ardaloedd gwledig eang â dwysedd poblogaeth isel ac eraill yn ardaloedd bach trefol â phoblogaeth ddwys, yn enwedig yn ne Cymru. Mae'r ffeithlun hwn yn ceisio dangos canlyniadau'r etholiad yng Nghymru o safbwynt traddodiadol sy'n seiliedig ar arwynebedd y tir, a safbwynt mwy cyfrannol sy'n defnyddio ffigurau poblogaeth yr etholaethau a'r rhanbarthau. Dyma ffeithlun sy’n dangos canlyniadau etholiad y Cynulliad 2016. View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg