Y Pumed Cynulliad: y Cyfarfod Llawn cyntaf

10 Mai 2016

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cafodd Pumed Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ethol ar 5 Mai 2016. Bydd y Cyfarfod Llawn cyntaf yn cael ei gynnal yn Siambr y Senedd ddydd Mercher 11 Mai.

Fel y nodwyd mewn blog diweddar, darn cyntaf o fusnes brys y Cynulliad newydd yw ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd. Mae’r Rheolau Sefydlog yn datgan: “Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros bob busnes arall”.

Ethol y Llywydd

I ddechrau, y Fonesig Rosemary Butler, y Llywydd presennol, fydd yn cadeirio’r cyfarfod ac yn gwahodd enwebiadau. Yn gyntaf, rhaid i enwebiad gael ei eilio gan Aelod o grŵp gwleidyddol gwahanol i’r un y mae’r Aelod sy’n enwebu yn perthyn iddo.

Os yw’n ymddangos nad oes unrhyw Aelod yn debyg o gael ei enwebu a’i eilio gan aelodau o grwpiau gwleidyddol gwahanol, bydd y cadeirydd yn gohirio’r trafodion. Gall y cadeirydd, ar ôl ailddechrau’r trafodion, dderbyn enwebiadau sy’n cael eu heilio gan aelodau o’r un grŵp gwleidyddol â’r Aelod sy’n enwebu.

Os mai dim ond un enwebiad sydd, bydd y cadeirydd yn cynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn Llywydd (neu’n Ddirprwy Lywydd). Os gwrthwynebir y cynnig hwn, neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r cadeirydd drefnu bod pleidlais yn cael ei chynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Os oes mwy na dau Aelod wedi’u henwebu ac nad oes unrhyw un ohonynt yn ennill mwy na hanner y pleidleisiau mewn pleidlais, bydd yr ymgeisydd sydd wedi cael y nifer leiaf o bleidleisiau yn cael ei eithrio a bydd rhagor o bleidleisiau cyfrinachol yn cael eu cynnal hyd nes y bydd un ymgeisydd yn ennill mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.

Bydd y Llywydd wedyn yn dod i’r gadair.

Ni ddylai’r Cynulliad ethol Llywydd a Dirprwy Lywydd sy’n perthyn:

  • i’r un grŵp gwleidyddol;
  • i grwpiau gwleidyddol gwahanol sydd ill dau yn y Llywodraeth;
  • i grwpiau gwleidyddol gwahanol sydd ill dau yn wrthbleidiau.

Gellir datgymhwyso’r rheolau hyn drwy benderfyniad gan y Cynulliad os yw statws y grwpiau gwleidyddol yn newid. Rhaid i fwyafrif o ddwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad gymeradwyo’r penderfyniad hwn.

Mae y papur agenda yma.

View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg